Covid-19: Goleuo Cymru'n felyn i gofio
- Cyhoeddwyd
Pynciau Cysylltiedig

Cafodd adeiladau dros Gymru, gan gynnwys Castell Conwy, eu goleuo'n felyn dros nos i gofio'r rhai sydd wedi marw o Covid-19.
Mae hi'n flwyddyn ers i'r DU fynd i gyfnod clo am y tro cyntaf ac mae dros 60 o adeiladau ledled Cymru wedi cymryd rhan yn y weithred, gan gynnwys y Senedd a chestyll Caerffili, Caeriw, Gwrych, Caerdydd a Chaernarfon.
Cafodd y goleuo ei drefnu gan Grŵp Teuluoedd Covid-19 Cymru, sy'n cefnogi tua 1300 o bobl sydd wedi colli teulu a ffrindiau yn ystod y pandemig.
Ffynhonnell y llun, Pierino Algieri
Castell Conwy
Ffynhonnell y llun, Parc Cenedlaethol Penfro
Roedd Castell Caeriw yn un o dri adeilad yn Sir Benfro i gael eu goleuo'n felyn
Goleudy Llyn y Rhath, Caerdydd, wedi'i oleuo'n felyn
Y Senedd - bu gwasanaeth arbennig yno i gofio'r rhai sy' wedi marw
Ffynhonnell y llun, @YiannaBarla/Twitter
Neuadd y Ddinas yng Nghaerdydd
Ffynhonnell y llun, Aaran Lennox
Castell Gwrych wedi ei oleuo'n felyn mewn ymarfer ar gyfer y cofio
Hefyd o ddiddordeb