Newidiadau mawr i gyfyngiadau Covid-19 Cymru'n dod i rym

  • Cyhoeddwyd
Pynciau Cysylltiedig
Promenade Llandudno
Disgrifiad o’r llun,
Y promenade yn Llandudno fore Sadwrn wrth i'r cyfyngiadau ar deithio gael eu codi

Mae cyfres o newidiadau sylweddol i gyfyngiadau coronafeirws Cymru wedi dod i rym ddydd Sadwrn, gyda phobl bellach yn cael teithio unrhyw le o fewn ffiniau'r wlad.

Ers i Gymru fynd i gyfnod clo ychydig ddyddiau cyn y Nadolig roedd y cyhoedd wedi cael eu cynghori i 'aros gartref', cyn i'r rheol honno newid i 'aros yn lleol' bythefnos yn ôl.

Er bod y rheol honno wedi dod i ben ddydd Sadwrn, bydd gwaharddiad am bythefnos ar deithiau i Gymru o wledydd eraill y DU nad sy'n hanfodol.

Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford wedi gofyn i bobl "feddwl am ble maen nhw'n mynd" ac osgoi llefydd prysur os ydyn nhw'n teithio y penwythnos hwn.

Mae busnesau lletygarwch hunangynhwysol, sy'n cynnwys rhai gwestai a bythynnod, hefyd wedi cael ailagor ddydd Sadwrn.

Mae'r newidiadau yn golygu mai Cymru ydy'r wlad gyntaf y DU i ganiatáu teithio heb rwystrau unwaith yn rhagor i unrhyw le o fewn ei ffiniau.

Dywedodd Mr Drakeford bod modd llacio mwy o'r cyfyngiadau am fod "sefyllfa iechyd y cyhoedd yn parhau'n sefydlog".

Mae'r rheolau ynghylch nifer y bobl sy'n cael cyfarfod yn yr awyr agored, gan gynnwys mewn gerddi preifat, wedi cael eu llacio hefyd.

O ddydd Sadwrn mae hyd at chwech o bobl, yn hytrach na phedwar, o ddwy aelwyd wahanol yn cael cwrdd. Does dim rhaid cyfrif plant dan 11 oed o fewn y cyfanswm hwnnw.

Mae gweithgareddau awyr agored a chwaraeon sydd wedi eu trefnu ar gyfer plant a phobl ifanc dan 18 oed wedi cael caniatâd i ailddechrau hefyd.

Yn ogystal, mae llyfrgelloedd ac archifdai yn cael ailagor a bydd rhai ardaloedd awyr agored yn agor gyda chyfyngiadau, a rhai safleoedd a gerddi hanesyddol.

Teimlo'n isel

Fore Sadwrn roedd nifer o bobl i'w gweld yn cerdded o amgylch Bae Caerdydd. Yn eu plith Elmer ac Anne Harries o Rhydaman, sydd wedi dod i aros gyda'u merch sy'n byw ar ei phen ei hun.

Mae nhw mewn swigen gyda'i gilydd.

"Mae'n wirioneddol hyfryd dod lawr yma," meddai Mr Hughes, 85, "chi'n mynd i teimlo'n isel ar ôl cyfnod clo a gorfod aros adref. Mae hi wedi bod yn newid byd i ni allu dod fan hyn."

Disgrifiad o’r llun,
Roedd Elmer ac Anne Hughes wedi teithio i Gaerdydd o Rydaman i ymweld a'u merch

"Pan 'y chi'n dod i oed hŷn, a'r cyfnod yma yn eich bywyd, mae hi wedi bod yn eithriadol o anffodus bod yr haint yma wedi taro'r henoed, fel fi, lle allen ni fod yn mwynhau ein hunain.

"Dwi wedi cael fy mrechiad cyntaf, ac mae hynny'n rhoi rhywfaint o gysur i chi, ond mae'n rhaid bod yn ofalus o hyd."

Hefyd yn y bae fore Sadwrn oedd Owen a Donna Pettit o Ddinas Powys ym Mro Morgannwg.

"Mae'n neis i gael y rhyddid ar ôl cael ein gorfodi i aros adref," meddai Owen Pettit.

"I fi, fel gyrrwr lori, dwi wedi bod yn weithiwr allweddol, felly dyw'r cyfnod clo ddim wedi effeithio gymaint arna i a gweddill y teulu."

Roedd ei wraig, Donna, yn falch o weld y cyfyngiadau'n cael eu codi, ac yn dweud ei fod wedi teimlo'r straen yn gofalu am y plant ac yn ei gwaith yn glanhau.

"Roedden ni'n meddwl mynd i'r gorllewin rhwle dros y Pasg, ond mae popeth yn llawn yno.

"Dydyn ni ddim wedi penderfynu'n bendant beth fyddwn ni'n ei wneud," meddai, "ond fe fyddai'n neis gallu treulio amser i ffwrdd yn rhwle gyda'r plant."

Disgrifiad o’r llun,
Barry Davies: "Cofiwch bod Cofid dal efo ni"

Dywedodd Barry Davies, cadeirydd Tim Achub Mynydd Llanberis, ei fod yn disgwyl y bydd hi'n prysuro yn Eryri o heddiw ymlaen.

"'Da' ni di bod mewn cyfnod distaw am ychydig o fisoedd - dim ond un neu ddau o alwadau. Ond wrth gwrs mi fydd Lloegr yn agor cyn dim a 'dan ni'n gweld fama'n mynd yn ofnadwy o brysur dros y misoedd nesaf."

Galwodd ar ymwelwyr i barchu heriau'r mynyddoedd yn ogystal a'r pandemig.

"Cofiwch bod Covid dal efo ni, ac mae pellter cymdeithasol a pharchu pobl eraill sydd ar y mynydd hefyd yn hynod o bwysig. Dylwch sicrhau bod dillad a bwyd digonol ar gyfer eich taith ac edrychwch ar be' mae'r tywydd yn mynd i'w wneud."

Disgrifiad o’r llun,
Pamela Davies ar draeth Porthcawl: "Mae'n braf gallu agor y busnes eto"

Wrth i'r cyfyngiadau ar deithio o fewn ffiniau Cymru gael eu llacio, mae'r cyhoedd wedi cael eu rhybuddio i gymryd gofal ac ymddwyn yn gyfrifol.

Gyda'r addewid o dywydd braf dros gyfnod y Pasg mae disgwyl i lawer o bobl ymweld â llefydd yn bellach nac arfer o'u cartrefi, gan gynnwys coedwigoedd, traethau a mynyddoedd.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi annog pobl i ystyried sut i leihau'r pwysau ar fannau agored er mwyn sicrhau diogelwch ymwelwyr a'r rhai sy'n byw ac yn gweithio yn y cymunedau cyfagos.

Mae prif weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro wedi gofyn i bobl ystyried diogelwch cymunedau sydd yn pryderu am "fewnlifiad" o ymwelwyr.

Dywedodd Tegryn Jones y dylai pobl gael "cynllun wrth gefn" rhag ofn bod y llefydd maen nhw'n bwriadu ymweld â nhw'n rhy brysur.

'Cam i'r cyfeiriad cywir'

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, ei bod hi'n anodd taro'r cydbwysedd iawn wrth lacio'r rheolau, ond ei fod yn teimlo nad ydy Llywodraeth Cymru wedi rhoi "digon o rybudd o flaen llaw i fusnesau".

Ychwanegodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds ei bod hi'n "croesawu" cyhoeddiad y llywodraeth am lacio mwy ar y cyfyngiadau.

Er i arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies ddweud bod y datblygiad yn "gam positif i'r cyfeiriad cywir", ychwanegodd bod angen cynllun cliriach ar gyfer llacio'r cyfyngiadau.