Achos Minffordd: Rhagor o amser i holi

  • Cyhoeddwyd
Dafydd ThomasFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,
Mae teulu Dafydd Thomas yn ei ddisgrifio fel "gŵr, tad a thaid rhyfeddol"

Mae'r heddlu wedi cael amser ychwanegol i holi dyn a gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddio dyn yng Ngwynedd dydd Iau.

Cafodd y dyn ei arestio ar ôl i Dafydd Thomas, 65, gael ei ddarganfod yn farw ym Minffordd, ger Penrhyndeudraeth.

Ddydd Sadwrn dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod wedi cael caniatâd i'w gadw yn y ddalfa am gyfnod pellach.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Chris Bell: "Mae ymholiadau helaeth yn parhau i amgylchiadau'r digwyddiad hwn, a hoffwn ddiolch i deulu Dafydd Thomas, a'r gymuned leol am eu holl gefnogaeth.

"Hoffwn ofyn hefyd, os oes unrhyw un wedi gweld unrhyw beth amheus yn yr ardal, neu yn wir wedi gweld Dafydd ar 25 Mawrth, dewch i siarad â ni, i'n helpu ni i lunio digwyddiadau ddydd Iau diwethaf."

Ddydd Gwener fe dalodd teulu Mr Thomas deyrnged i "ŵr, tad a thaid rhyfeddol".

Pynciau Cysylltiedig