Minffordd: Cyhuddo dyn o lofruddiaeth

  • Cyhoeddwyd
Dafydd ThomasFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,
Mae teulu Dafydd Thomas yn ei ddisgrifio fel "gŵr, tad a thaid rhyfeddol"

Mae dyn 44 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddio gwr ym Minffordd ger Penrhyndeudraeth.

Cafodd y dyn ei arestio ar ôl i Dafydd Thomas, 65, gael ei ddarganfod yn farw ddydd Iau.

Bydd Tony Thomas, o Maes Y Garth, Minffordd, Penrhyndeudraeth yn mynd o flaen ynadon yn Llandudno fore Llun.

Ddydd Gwener fe dalodd teulu Mr Thomas deyrnged i "ŵr, tad a thaid rhyfeddol".

Mae Heddlu'r Gogledd yn parhau i apelio am dystion i'r digwyddiad, ac maen nhw'n gofyn ar i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw.

Pynciau Cysylltiedig