Drakeford: Adolygiad i 'roi sicrwydd' i fusnesau lletygarwch

  • Cyhoeddwyd
Pynciau Cysylltiedig
Pobl yn cerdded yn Ynys y Barri ddydd Sadwrn
Disgrifiad o’r llun,
Fe heidiodd pobl unwaith eto i Ynys y Barri ar ôl i'r cyfyngiadau ar aros yn lleol gael eu codi ddydd Sadwrn

Bydd Prif Weinidog Cymru yn nodi'r camau nesaf ar gyfer ailagor cymdeithas ddydd Iau gyda'r bwriad o roi 'sicrwydd' i'r diwydiant lletygarwch.

Ond rhybuddiodd Mark Drakeford na fyddai'n rhoi "sicrwydd ffug yn rhy bell i'r dyfodol".

Dywedodd y byddai'n nodi "cynllun i fynd â ni trwy fis Ebrill ac i mewn i fis Mai".

Ar raglen Andrew Marr y BBC, dywedodd Mr Drakeford ei fod "yn ei hanfod yn amser ansicr".

Dywedodd ei fod yn gobeithio y byddai pobl yn gallu mwynhau lletygarwch awyr agored erbyn diwedd mis Ebrill ond y byddai'n debygol y byddai'n rhaid i lefydd tu fewn aros tan fis Mai.

"Ar hyn o bryd mae pethau'n mynd i'r cyfeiriad cywir," meddai, "ond rydyn ni'n gwybod pa mor gyflym y gall y feirws yma newid, a dwi ddim yn barod i roi sicrwydd ffug i bobl yn rhy bell i'r dyfodol," meddai.

Ddydd Sadwrn, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i godi cyfyngiadau teithio o fewn ei ffiniau.

Yn ôl Cynllun Rheoli Coronafeirws y Llywodraeth y cam nesaf yn y broses o godi cyfyngiadau yw'r newidiadau allai ddod i rym ar 12 Ebrill.

Bryd hynny mae disgwyl i ysgolion, colegau a chanolfannau addysg eraill ddychwelyd yn llawn, pob siop i'w hagor yn ogystal â gwasanaethau cyswllt agos, fel salonau ewinedd a thatŵ.

Yn yr adolygiad tair wythnos nesaf bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried ailagor lletygarwch awyr agored, yn ogystal â champfeydd, atyniadau awyr agored, canolfannau cymunedol, cynnal gweithgareddau wedi'u trefnu, priodasau a chodi cyfyngiadau ar aelwydydd estynedig.

Bydd pob newid yn amodol ar y sefyllfa iechyd cyhoeddus, meddai'r Prif Weinidog.

Disgrifiad o’r llun,
Carwyn Jenkins: "Mae'n cymryd amser i archebu cwrw a glanhau a pethe"

'Neud sens cael dyddiad'

Mae nifer o fusnesau'n y sector lletygarwch yn aros i gael clywed pryd fyddan nhw'n gallu paratoi i ail-agor ar gyfer cwsmeriaid.

Pan gafodd y cyfyngiadau eu codi haf diwethaf fe gododd Tafarn y Roosters ym Mhenrhyncoch babell y tu allan er mwyn gallu ail-gydio yn eu gwasanaeth diod a bwyd.

Yn ôl un o'r perchnogion, Carwyn Jenkins, byddai'n dda cael amserlen ynglŷn ac agor unwaith eto.

"Pan ethon ni i lockdown ym mis Rhagfyr fe ddaeth hi'n amlwg wrth i ni fynd ymlaen, mai agor tu mas fydde'n digwydd yn gynta eto, felly ethon ni ati dros y misoedd diwetha i godi rhwbeth parhaol tu fas fel bo ni'n gallu ail-agor yn gloi iawn.

"Bydde fe'n neud sens tasen ni'n jest yn cael dyddiad wedi cael ei setio mas pryd 'da ni'n gallu agor", meddai, "ond ma pethe'n gallu newid, wrth gwrs.

"Mae'n cymryd dwy, tair wythnos i gael pethe'n barod - mae eisiau glanhau tu mewn, ordro cwrw a pethe - ma pethe fel hyn yn cymeryd amser, felly tasen ni'n cael dyddiad i anelu ato fe bydde fe'n rhwbeth i bawb edrych ymlaen ato fe.

"Ma pawb yn edrych ymlaen at gallu mynd nôl mas."

Ym Mharc y Rhath yng Nghaerdydd ddydd Sul dywedodd nifer eu bod yn edrych ymlaen at lacio mwy o reolau ond bod ganddyn nhw bryderon hefyd.

"Fi'n edrych 'mlan i weld teulu to, edrych mlan i weld ffrindiau ac edrych mlan i allu fynd mewn i'r siop i brynu pethau heb fecso," meddai Cath Rees.

"Ond [dwi] hefyd, yn nerfus fod pobl yn mynd i fynd bach yn rhy gyfforddus. Mae'n anodd dweud, bach o'r ddau falle."

Dywedodd Osian Rhys: "Dwi'n pryderu newn ni fynd nôl mewn [i'r cyfnod clo]. Mae 'na lot o false hope wedi bod llynedd. Lle roedd ni'n dod mas ac yna nôl mewn. "

"Oedd hwnna bron yn waeth, wedi cael y taste of freedom. Dwi'n pryderu y bydd hwnna'n digwydd eto."

Ymateb gwleidyddol

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Seneddd, Andrew RT Davies: "Mae Llafur wedi bod ar dros y lle i gyd o ran darparu cynllun allan o'r cyfnod clo yng Nghymru.

"Un munud mae'n rhy anodd i Lafur, nawr maen nhw'n dweud bod mwy o wybodaeth i ddilyn.

"Mae angen i Lafur roi'r gorau i chwarae gwleidyddiaeth, a chanolbwyntio ar yr hyn sydd orau i deuluoedd, gweithwyr a busnesau yng Nghymru.

"Rydyn ni wedi bod yn galw am gynllun pendant dros y mis diwethaf gan mai bywydau a bywoliaeth pobl yw'r rhain, ac yn syml, nid yw'n ddigon da.

"Bydd Ceidwadwyr Cymru yn dod â'r gemau gwleidyddol i ben ac yn darparu cynllun manwl i deuluoedd, gweithwyr a busnesau Cymru."

Dywedodd arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds, fod angen "amserlen" ar fusnesau fel y sector lletygarwch a thwristiaeth ac ymdeimlad y bydd "pethau'n newid".

"Dyma bobl a busnesau sydd wedi bod yn aros am amser mor hir i geisio mynd ati eto," meddai.

"Felly mae angen rhyw fath o sicrwydd gyda rhai dyddiadau pendant, ar yr amod na fydd pethau'n gwaethygu neu'n newid, yna gall y dyddiadau newid yn sgil hynny."

Mae Adam Price o Blaid Cymru wedi dweud o'r blaen fod angen mwy o fanylion ar fusnesau am yr hyn y gallant ei ddisgwyl.

Pynciau Cysylltiedig