Covid-19: Cyhuddo'r llywodraeth o newid rheolau cymorth

  • Cyhoeddwyd
Pynciau Cysylltiedig
Bar worker pulling a pintFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,
Mae tafarndai a thai bwyta wedi eu cau oherwydd y cyfyngiadau presennol

Mae busnesau annibynnol y sector lletygarwch yn dweud eu bod wedi cael eu camarwain gan Lywodraeth Cymru o ran cefnogaeth ariannol.

Dywed grŵp sy'n cynrychioli busnesau annibynnol eu bod yn wynebu "twll du ariannol" gan gyhuddo'r llywodraeth o newid y cyfnod roedd y grant presennol i fod i bara.

Ar wefan llywodraeth Cymru mae'n dweud bod yr arian "fod i gynnal busnesau tan ar ôl yr etholiad" ym mis Mai.

Ond dywed busnesau eu bod yn credu fod y pecyn presennol gwerth £180m ond fod i'w cynnal tan 31 Mawrth - a'u bod wedi gobeithio cael cymorth ychwanegol yn y cyfnod ar ôl hynny.

Dywed gwefan y llywodraeth, Busnes Cymru, fod y cynllun grant ardrethi annomestig wedi ei "gynllunio i gynnal busnesau tan ar ôl yr etholiad, wrth ddisgwyl llacio parhaus o ran y cyfyngiadau a chanlyniad adolygu'r cyfyngiadau ym mis Ebrill".

Ond dengys teclyn archif ar 14 Mawrth eleni roedd y dudalen yn dweud byddai'r arian ar gael "i helpu busnesau gyda'u costau lan at 31 Mawrth 2021".

Mae tafarndai, gwestai a bwytai yng Nghymru sy'n cyflogi 10 aelod o staff neu'n fwy wedi bod yn gymwys am £45,000 mewn cymorth o Lywodraeth Cymru ers mis Rhagfyr.

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,
Dywed Bwytai Annibynnol Cymru eu bod wedi gobeithio am fwy o gymorth ar ôl 31 Mawrth

Dywedodd Natalie Isaac, aelod o grŵp Bwytai Annibynnol Cymru a chyfarwyddwr Bar44 ac Asador44: "Bwriad y rownd olaf o gymorth gan Lywodraeth Cymru oedd i'n cynorthwyo tan 31 Mawrth, ac roedd hyn yn glir yn y dogfennau oedd yn cael eu rhannu'r un pryd a'r cymorth.

"Mae'n ymddangos fod Llywodraeth Cymru nawr yn trio newid pethau gan ddweud fod y cyllid i fod i gynnwys yr holl gyfnod tan ar ôl yr etholiad.

"Hynny yw, tan o leiaf 6 Mai a mwy na thebyg y tu hwnt i hynny."

'Cynnal busnesau tan ar ôl yr etholiad'

Dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth Cymru: "Mae'r pecyn cefnogaeth gwerth £180m yna i helpu busnesau gyda chostau yn dilyn y cyhoeddiad am gyfyngiadau estynedig ym mis Mawrth.

"Mae'r gefnogaeth yn ychwanegol i grantiau gwerth £200m a gafodd eu cyhoeddi yn hwyr ym mis Ionawr ac sydd wedi eu dylunio'n benodol i gynnal busnesau tan yr etholiad. Gwnaethon ni hefyd ymestyn y gwyliau ar drethi busnes am 12 mis pellach.

"Cafodd wefan Busnes Cymru ei ddiweddaru'r wythnos ddiwethaf i roi gwell eglurder. Mae £200m pellach wedi cael ei benodi ar gyfer cefnogaeth ychwanegol i fusnesau mewn i'r flwyddyn ariannol nesaf, ond bydd yn fater ar gyfer y gweinidogion sy'n cymryd eu lle yn llywodraeth nesaf Cymru."

Disgrifiad o’r llun,
Mae gan Gymry hawl i deithio i unrhyw le o fewn ffiniau'r wlad ar ôl i'r rheol 'arhoswch yn lleol' gael ei llacio

Dros y penwythnos dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford y byddai'n gwneud cyhoeddiad cyn hir ynglŷn â llacio rhagor o gyfyngiadau "er mwyn rhoi'r sicrwydd mae'r sector wedi bod yn aros amdano".

Dywed Bwytai Annibynnol Cymru eu bod yn croesawu cyhoeddiad y prif weinidog - ond fod angen i Mr Drakeford gyhoeddi rhagor o gymorth ariannol er mwyn cefnogi'r sector tra bod cyfyngiadau dal mewn grym.

Ymateb y pleidiau eraill

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Adam Price: "Dro ar ôl tro mae busnesau annibynnol yng Nghymru, sef asgwrn cefn ein heconomi yn cael eu siomi a'u gadael heb gymorth.

"Bach iawn yw'r manylion maen nhw wedi ei dderbyn ynglŷn ag ailagor a nawr maent yn wynebu'r posibilrwydd o fod ynghau ar ddechau tymor y gwyliau, heb ddim rhagor o gymorth ariannol.

"Mae'n amser i Lywodraeth Lafur Cymru estyn mwy o gymorth a pheidio dangos dirmyg i rannau allweddol o'r economi ar drothwy'r tymor gwyliau."

Yn ôl Russell George, llefarydd economi y Ceidwadwyr Cymreig, "roedd hyn yn enghraifft arall o addewid wedi ei thorri, gan ychwanegu ar restr hir o addewidion gan Lafur yng Nghymru".

"Mae hyn yn gwbl annerbyniol oherwydd dyw'r pecyn ariannol ar gyfer costau busnesau - yn wreiddiol tan 31 Mawrth - ddim yn ddigon i ymestyn i gyfnod hirach o amser a bydd yn rhoi busnesau a swyddi yn y fantol."

Dywedodd Sally Stephenson o Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru, bod ei phlaid wedi galw "ers amser hir i warantu cymorth hirdymor i'r sector lletygarwch tan eu bod yn gallu ailagor".

"Yr hyn mae perchnogion tafarndai a thai bwyta ei angen yw sicrwydd a chymorth yn y cyfnod canol a'r hirdymor wrth geisio sicrhau adferiad o effeithiau'r pandemig. Byddai'r Democratiaid Rhyddfrydol yn rhewi trethi busnes dros gyfnod o bum mlynedd."