Plaid Cymru: 'Treblu treth cyngor ar ail gartrefi'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau Cysylltiedig
Morfa Nefyn

Fe allai perchnogion ail gartrefi yng Nghymru weld eu treth cyngor yn treblu os yw Plaid Cymru mewn llywodraeth ar ôl etholiad y Senedd ym mis Mai.

Os fyddan nhw mewn grym, mae Plaid yn cynnig cynyddu'r premiwm treth cyngor all gael ei godi ar ail gartrefi o 100% i 200%.

Mae'r blaid hefyd yn cynnig uchafswm ar nifer yr ail gartrefi mewn ardal a newid y rheolau fel na ellir eu cofrestru fel busnesau.

Dywedodd Plaid fod y polisïau'n angenrheidiol i atal cymunedau gwledig rhag colli "cenhedlaeth o bobl ifanc" oherwydd "yr argyfwng ail gartrefi".

Roedd 24,873 o ail gartrefi wedi eu cofrestru i dalu'r dreth cyngor yng Nghymru ym mis Ionawr 2021, yn ôl ffigyrau swyddogol.

Gwynedd sydd â'r nifer uchaf o ail gartrefi - 5,098 neu 20% o'r holl ail gartrefi yng Nghymru.

Mae 4,068 o ail gartrefi yn Sir Benfro, 3,477 yng Nghaerdydd, 2,139 yn Ynys Môn, a 2,104 yn Abertawe.

Ers 2017, mae cynghorau Cymru wedi cael yr hawl i godi premiwm treth cyngor o hyd at 100% ar ail gartrefi.

Ym mlwyddyn ariannol 2020/21, roedd wyth cyngor wedi codi premiwm:

  • o 50% yn siroedd Gwynedd, Dinbych, Y Fflint, Powys a Phenfro;
  • 35% yn Ynys Môn; a
  • 25% yn siroedd Conwy a Cheredigion.

Cyngor Abertawe oedd y cyntaf yng Nghymru i benderfynu codi'r premiwm llawn o 100% o 1 Ebrill 2021, gyda chynghorwyr Gwynedd yn cefnogi'r tâl llawn yn ddiweddar.

Mae rhai wedi mynegi pryderon bod rhai perchnogion ail gartrefi wedi dynodi eu heiddo yn fusnesau, sy'n golygu nad ydynt yn talu unrhyw dreth cyngor o gwbl.

Dywedodd Mabon ap Gwynfor, ymgeisydd Plaid Cymru yn Nwyfor Meirionydd, y byddai ei blaid mewn grym yn "cau'r bwlch sydd ar hyn o bryd yn caniatáu i ail gartrefi gael eu cofrestru fel 'busnesau'" yn ogystal â chynyddu'r premiwm i hyd at 200%.

Ychwanegodd: "Yn ogystal, byddai llywodraeth Plaid yn ailddiffinio'r term 'cartref fforddiadwy' sydd ar hyn o bryd yn cynnwys eiddo gwerth dros £250,000 - ffigwr sydd allan o gyrraedd llawer o bobl ifanc yn ein cymunedau gwledig.

"Mae pobl ifanc wrth galon ein cymunedau gwledig a byddai llywodraeth Plaid wedi ymrwymo'n llwyr i roi pob cyfle iddynt ennill, dysgu a byw yn eu hardal o ddewis, ble bynnag yng Nghymru y gallai hynny fod."

Yng nghyllideb ddiwethaf Llywodraeth Cymru, fe wnaeth Llafur godi'r dreth sy'n cael ei godi wrth brynu ail gartref.

Ymateb pleidiau eraill

Dywedodd ymgeisydd rhanbarthol Llafur ar gyfer Canolbarth a Gorllewin Cymru, Joyce Watson, bod ei phlaid wedi "ymrwymo i ddull hafal ac ymarferol o sicrhau bod pobl ifanc yn gallu parhau i fyw yn eu cymunedau a bod cymunedau'r gynaliadwy ac yn ffynnu".

Dywedodd bod y llywodraeth hefyd wedi gwneud newidiadau i ychwanegu 1% o dreth wrth brynu ail gartref yng Nghymru.

Ychwanegodd bod Llafur wedi addo creu 20,000 o dai cymdeithasol i'w rhentu yn nhymor nesaf y Senedd, gan addo "sicrhau bod pob person ifanc dan 25 - ym mhob rhan o Gymru - yn cael cynnig gwaith neu le mewn addysg, hyfforddiant neu gefnogaeth i ddechrau busnes".

Dywedodd ymgeisydd y Ceidwadwyr dros Ddwyfor Meirionydd, Charlie Evans: "Mae Plaid Cymru yn troi at yr un hen bolisïau trethi uwch gydag ymosodiad arall ar economi ymwelwyr Cymru.

"Mae Plaid wedi cefnogi nifer o lywodraethau Llafur ac wedi methu gwrthwynebu nifer o gyllidebau Llafur dros y 22 mlynedd diwethaf felly mae'n rhaid iddyn nhw gymryd cyfrifoldeb am y rhan maen nhw wedi'i chwarae yn yr argyfwng tai.

"Mae gan y Ceidwadwyr Cymreig gynllun uchelgeisiol i ddatrys yr argyfwng tai ac adeiladu Cymru well gyda 100,000 o gartrefi newydd a chael gwared ar y dreth stamp ar gyfer prynwyr tro cyntaf."

Dywedodd Stephen Churchman, ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymru dros Ddwyfor Meirionydd: "Byddwn yn mynd i'r afael ag ail gartrefi. Mae pobl mewn cymunedau gwledig wedi cael eu prisio allan.

"Byddwn yn sefydlu deddfwriaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol bennu'r dreth gyngor ar y lefel uchaf bosibl ar gyfer pob cartref heblaw prif gartref rhywun.

"Byddwn yn cau bylchau sy'n caniatáu i bobl ddynodi ail gartrefi fel busnesau a sicrhau eu bod yn talu eu ffordd er mwyn cefnogi'r cymunedau lleol."