Arestio dyn mewn cysylltiad a marwolaeth seiclwr
- Cyhoeddwyd

Cafodd nifer o ffyrdd eu cau am gyfnod o amgylch ardal y senotaff
Mae dyn wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â marwolaeth seiclwr yng Nghasnewydd yn gynnar ddydd Mercher.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal Ffordd Caerllion tua 02:00 wedi gwrthdrawiad yn cynnwys seiclwr a char Audi A3 arian.
Cafodd y seiclwr - dyn 37 oed oedd yn byw yn lleol - ei gludo i Ysbyty Prifysgol y Faenor ble bu farw.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gwent: "Mae dyn 26 oed o Gasnewydd wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'r beryglus ac mae'n cael ei gadw yn y ddalfa ar hyd o bryd."
Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth a lluniau dash cam gan unrhyw un oedd yn yr ardaloedd yma o'r ddinas o gwmpas 02:00 bore Mercher:
- Ffordd Malpas;
- Cylchdro'r Hen Grîn;
- Pont Clarence / Pont y Dref,;
- Clarence Place; a
- Gorsaf reilffordd Casnewydd.
Cerbyd heddlu yn ardal y gwrthdrawiad