Tafarndai, caffis a bwytai i ailagor tu allan erbyn 26 Ebrill

  • Cyhoeddwyd
Pynciau Cysylltiedig
TafarnFfynhonnell y llun, PA Media

Bydd holl fyfyrwyr Cymru'n dychwelyd i addysg wyneb yn wyneb a siopau'n cael ailagor ar 12 Ebrill, dan fesurau sy'n cael eu cyhoeddi ddydd Iau gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford.

Bydd gwasanaethau cysylltiad agos, fel salonau harddwch, hefyd yn cael ailagor o'r un diwrnod.

Bydd Cymru yn symud i gyfyngiadau Lefel 3 erbyn 17 Mai os fydd y sefyllfa iechyd cyhoeddus yn parhau'n ffafriol.

Dan y newidiadau hynny, yn amodol ar niferoedd achosion Covid, fe allai atyniadau a lletygarwch awyr agored ailagor ddydd Llun 26 Ebrill, gan gynnwys caffis, tafarndai a bwytai.

Hefyd fe fydd y rheolau'n cael eu newid o 12 Ebrill fydd yn caniatáu i bobl deithio i ac o Gymru o weddill y DU a'r Ardal Deithio Gyffredin, sy'n cynnwys ynysoedd Jersey, Guernsey a Manaw ac Iwerddon.

Ffynhonnell y llun, Sioned Birchall
Disgrifiad o’r llun,
Dim ond siopau sy'n gwerthu nwyddau hanfodol sydd wedi cael agor i'r cyhoedd ers cyn Nadolig

Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn amlinellu newidiadau pellach y mae'n anelu at eu cadarnhau yn yr adolygiad nesaf o'r cyfyngiadau coronafeirws ar 22 Ebrill.

Ychwanegodd datganiad Llywodraeth Cymru bod cynlluniau pellach yn cynnwys y camau canlynol "erbyn canol Mai":

  • Caniatáu gweithgareddau awyr agored ar gyfer hyd at 30 o bobl;
  • Caniatáu i gampfeydd, canolfannau hamdden ac adnoddau ffitrwydd i ailagor ar gyfer hyfforddiant unigol neu hyfforddiant un-i-un, ond nid ar gyfer dosbarthiadau ymarfer.

Ymateb y gwrthbleidiau

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies: "Tra'n croesawu ailagor manwerthu sydd ddim yn hanfodol, mae'n drueni nad yw Llafur wedi gweld eu ffordd yn glir i ailagor campfeydd wedi i weinidogion ddweud fod hynny'n flaenoriaeth ddeufis yn ôl, ac o ystyried yr effaith mae'r cyfnod clo wedi ei gael ar iechyd corfforol a meddyliol miloedd o bobl Cymru.

"Gyda'r gwelliannau sydd wedi digwydd ar frechu a nifer yr achosion, rydym hefyd yn credu y dylid fod wedi ystyried ailagor lletygarwch awyr agored [yn gynt].

"Mae llacio cyfyngiadau teithio'n ddiweddar wedi achosi problemau eraill fel diffyg toiledau cyhoeddus, sbwriel ac ymddygiad gwrthgymdeithasol fel y gwelsom yng Nghaerdydd a mannau eraill.

"Dylai gweinidogion weld sefydliadau trwyddedig a rheoledig fel rhan o'r ateb yn hytrach na'r broblem, ac os nad ydyn nhw am gael ailagor, fe ddylen nhw gael y gefnogaeth ariannol angenrheidiol i achub swyddi yng Nghymru."

Dywedodd Adam Price, arweinydd Plaid Cymru: "Mae pobl angen gobaith nawr. Er bod angen parhau i fod yn ofalus... mae'r rhaglen frechu wedi rhoi hyder ein bod yn symud i'r cyfeiriad cywir. Rwy'n ddiolchgar i bobl Cymru am bopeth y maen nhw wedi gwneud i'n cael ni i'r sefyllfa yma.

"Fe ddylai'r diwydiant lletygarwch wybod beth sy'n digwydd i fedru cynllunio o flaen llaw. Ond dylai hyn gael ei ategu gan gefnogaeth ariannol ychwanegol - cynyddu'r pot o arian sydd ar gael i fusnesau.

"Wedi blwyddyn galed eithriadol, y peth lleia' y gall Llafur wneud yw mynd i'w pocedi a chefnogi sectorau allweddol o'r economi ar drothwy tymor y gwyliau."

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds: "Mae hyn yn newyddion da. Rydym yn ofalus obeithiol am y dyfodol, yn enwedig o weld newyddion positif am y rhaglen frechu.

"Mae busnesau bach, yn enwedig yn y diwydiant lletygarwch, wedi cael eu taro'n galed gan y cyfnod clo, ac fe fydd yn rhyddhad iddyn nhw allu dechrau masnachu eto.

"Rydym wedi gweld golygfeydd o bobl yn mwynhau'r tywydd braf, a gyda phenwythnos hir o'n blaenau mae'n bwysig i bawb barhau i gadw at y rheolau. Byddai unrhyw symudiad yn ôl at Lefel 4 yn drychineb."