Y Bencampwriaeth: Caerdydd 0-1 Nottingham Forest

  • Cyhoeddwyd
James GarnerFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,
James Garner gafodd y gol fuddugol i'r ymwelwyr

Mae gobeithion Caerdydd o gyrraedd y gemau ail-gyfle yn cilio wedi iddyn nhw golli gartref i Nottingham Forest ddydd Gwener.

Er i dîm Mick McCarthy gael mwy o gyfleoedd na'u gwrthwynebwyr, doedd dim yn tycio o flaen y gôl.

Aeth Forest ar y blaen wedi 29 munud drwy gynnig James Garner.

Er mai ychydig iawn a grewyd gan yr Adar Gleision yn yr hanner cyntaf, fe ddaethon nhw'n agos at ddod yn gyfartal yn eiliadau ola'r hanner pan darodd Will Vaulks foli fodfeddi heibio'r postyn.

Er i bethau wella yn yr ail hanner, fe fethon nhw fanteisio ar sawl cyfle.

Cafodd ergyd Keiffer Moore ei rhwystro'n wyrthiol ar y lliell cyn i Bacuna ac Aden Flint fethu taro'r targed gyda chyfleoedd eraill.

Mae Caerdydd yn yr wythfed safle yn y tabl a bedwar pwynt y tu allan i'r safloedd ail-gyfle, ac wedi chwarae mwy o gemau na nifer o'r timau o'u cwmpas.