Y Bencampwriaeth: Birmingham City 1-0 Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Freddie Woodman yn arbed cig gosb Lukas JutkiewiczFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,
Freddie Woodman yn arbed cig gosb Lukas Jutkiewicz

Roedd yna ergyd i obeithion Abertawe o gael dyrchafiad awtomatig o'r Bencampwriaeth nos Wener ar ôl colli eu trydedd gêm yn olynol.

Cic o'r smotyn hwyr gan Scott Hogan wnaeth selio buddugoliaeth i'r tîm cartref, sy'n brwydro i aros yn y Bencampwriaeth.

Roedd hynny wedi i Birmingham fethu â sgorio o'r smotyn yn yr hanner cyntaf wedi i Lukas Jutkiewicz ergydio'n syth at y golwr, Freddie Woodman.

Gyda'r gêm yn dal yn ddi-sgôr wedi 90 munud, cafodd eilydd yr Elyrch, Yan Dhanda gyfle da i sgorio gyda chic rydd ac roedd angen arbediad gan Neil Etheridge yn y gôl.

Ond yna fe wnaeth tacl gan Dhanda lorio Ivan Sunjic, gan arwain at y gic gosb a gôl fuddugol Birmingham.

Wedi'r drydedd golled yn olynol, a'r drydedd gêm iddyn nhw fethu â sgorio, mae Abertawe bellach yn nhrydydd safle'r tabl - naw pwynt tu ôl Watford.