Mwy o bwerau i blismyn i atal torf rhag torri rheolau Covid

  • Cyhoeddwyd
Pynciau Cysylltiedig
Glanhau tu allan i Senedd Cymru fore Sadwrn
Disgrifiad o’r llun,
Gweithiwr cyngor yn glanhau'r ardal tu allan i Senedd Cymru fore Sadwrn

Mae nifer o rwystrau wedi eu gosod o flaen mannau ymgynnull yng Nghaerdydd ac mae mwy o blismyn ar ddyletswydd er mwyn atal torfeydd fel ag a welwyd yn y Bae nos Wener.

Gellir hefyd disgwyl gweld mwy o blismyn ar draws Cymru wedi i grwpiau mawr gael eu gweld yn yfed ar draethau a lleoliadau hardd.

Cadarnhaodd Heddlu De Cymru bod tri pherson wedi cael eu harestio nos Wener, a bod gorchymyn gwasgaru mewn grym dros weddill y penwythnos hir ym Mae Caerdydd.

Dan y rheolau coronafeirws, dim ond hyd at chwe pherson o ddwy aelwyd wahanol sy'n cael cwrdd yn yr awyr agored.

Ffynhonnell y llun, Cai Glover

Cadarnhaodd yr heddlu iddyn nhw arestio:

  • dyn 20 oed ar amheuaeth o drosedd yn erbyn y drefn gyhoeddus;
  • menyw 22 oed ar gyhuddiad o fod yn feddw ac afreolus a bod ym meddiant sylwedd Dosbarth A; a
  • dyn 35 oed ar amheuaeth o fod ym meddiant sylweddol Dosbarth A.

"Mae'n siomedig eithriadol bod lleiafrif bach yn fodlon peryglu eu hunain ac eraill", medd yr Uwcharolygydd Marc Attwell.

Mae ymddygiad y tridiau diwethaf, meddai, "wedi rhoi pwysau ychwanegol" ar yr heddlu a'r awdurdod lleol, gan olygu bod rhaid symud swyddogion o ddyletswyddau eraill.

"Mae plismona torfeydd mor fawr yn anodd eithriadol ac rydyn yn dal angen ymateb i wasanaethau brys.

"Mae gorchymyn gwasgaru Adran 35 nawr mewn grym ym Mae Caerdydd, sy'n rhoi'r hawl i swyddogion a swyddogion cynorthwyol cymunedol (PCSO) atal person o'r ardal.

"Rydym yn gofyn i bobl mewn grwpiau o chwech neu fwy sy'n meddwl am fynychu neu drefnu cynulliad yn y Senedd dros y penwythnos Gŵyl Banc i beidio gwneud hynny."

Dywedodd y bydd swyddogion ar ddyletswydd yno drwy'r penwythnos i ddirwyo neu arestio pobl sy'n torri'r rheolau.

Disgrifiad o’r llun,
Swyddogion heddlu tu allan i'r Senedd ddydd Sadwrn

Dywedodd arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas y dylai'r bobl a dyrrodd i gymdeithasu yn yr ardal fod "â chywilydd mawr o'u hunain".

Mewn datganiad dywedodd y cyngor: "Unwaith eto mae ein timau wedi gorfod wynebu'r dasg enfawr o lanhau maint sylweddol o wastraff wedi'i adael gan bobl sy'n fwriadol yn torri cyfyngiadau Covid-19.

"Mae torri'r rheolau hyn yn cynyddu'r siawns o godi nifer achosion Covid-19 yn y ddinas. Rydym yn erfyn ar bawb i ddilyn y cyngor yma, cadw pellter cymdeithasol a chadw Caerdydd yn ddiogel."

Disgrifiad o’r llun,
Sbwriel ar risiau'r Senedd
Ffynhonnell y llun, Cai Glover
Disgrifiad o’r llun,
Sbwriel ym mhobman wedi i bobl dyrru i'r bae ddydd Gwener

Dywedodd arweinydd y cyngor, Huw Thomas bod yr heddlu wedi cymryd y cyfrifoldeb oddi ar swyddogion cyngor oedd wedi cadw golwg ar y sefyllfa cyn i bethau "waethygu".

Ychwanegodd: "Bydd y gwaith glanhau'n golygu cost diangen i'r cyngor ac felly i drethdalwyr."

Ymateb gwleidyddol

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Andrew RT Davies: "Ni all hyn barhau.

"Os yw pobl yn anwybyddu'r rheolau ar risiau'r union fan ble gawson nhw eu gwneud, yna mae gyda ni broblem fawr.

"Mae'n bryd i weinidogion Llafur weld tai trwyddedig fel rhan o'r ateb, yn hytrach na'r broblem."

Dywedodd y Prif Weinidog ac arweinydd Llafur Cymru, Mark Drakeford: "Dyw'r pandemig heb fynd i ffwrdd. Rhaid cadw cyfraddau coronafeirws yn isel fel y gallwn barhau i lacio cyfyngiadau.

"Rydym wedi dod mor bell ers y gaeaf pan roedd cyfraddau'n eithriadol o uchel - does neb eisiau gweld yr aberthau hynny'n cael eu gwastraffu.

"Parhewch i ganolbwyntio a gallwn ni oll fwynhau'r amseroedd gwell sydd o'n blaenau."

Dywedodd Rodney Berman o Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru: "Mae'n siomedig bod rhai pobl yn dewis anwybyddu'r angen i gadw pellter cymdeithasol ac ymddwyn mor anghyfrifol.

"Fe allai Heddlu De Cymru orfod bod yn fwy rhagweithiol i atal torfeydd o'r fath raddfa."

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Mae'n rhwystredig eithriadol i weld lleiafrif o bobl yn anwybyddu'r rheolau sydd â'r nod o gadw ni oll yn saff.

"Mae gan bawb eu rhan i'w chwarae o ran lleihau nifer achosion. Ni allwn adael i'r aberthau rydym wedi eu gwneud dros y misoedd diwethaf fod yn ofer."

Gweddill Cymru

Mae yna drafferthion wedi bod hefyd yng ngweddill Cymru - yn ardal Bodlondeb yng Nghonwy cafodd plismyn bwerau i symud pobl wedi adroddiadau bod "grwpiau o bobl ifanc wedi ymgasglu ac yn achosi ymddygiad gwrth-gymdeithasol".

Yn Abertawe bu gwirfoddolwyr yn treulio oriau yn glanhau traethau - wedi i boteli, gwydr wedi malu a sbwriel gael ei adael ar ôl.

Yn Aberafan, yng Nghastell-nedd Port Talbot, fe wnaeth plismyn dreulio nos Sadwrn yn cadw llygad ar y twyni tywod wedi i rai pobl ddechrau yfed a chynnau coelcerthi.

Yn y gogledd mae rhybuddion wedi eu cyflwyno yn Nolgellau wedi i dân gynnau yn fwriadol - ac mae yna rybudd na ddylid cynnau tanau bwriadol na llosgi gwastraff.