Cyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan wedi marw

  • Cyhoeddwyd
Cheryl GillanFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd y Blaid Geidwadol fod y Fonesig Gillan wedi marw dros y penwythnos

Mae cyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac Aelod Seneddol y Ceidwadwyr, y Fonesig Cheryl Gillan, wedi marw yn 68 oed.

Wrth gadarnhau ei marwolaeth, dywedodd y Blaid Geidwadol ei bod wedi bod yn wael ers peth amser.

Yn enedigol o Gaerdydd, roedd y Fonesig Gillan yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru rhwng Mai 2010 a Medi 2012.

Roedd hi wedi cynrychioli'r Torïaid fel AS yn etholaeth Chesham ac Amersham yn Sir Buckingham ers 1992.

'Hynod falch o'i gwreiddiau yng Nghymru'

Mae Prif Weinidog y DU wedi talu teyrnged iddi, gan ei disgrifio fel "gwas gwych i bobl Chesham ac Amersham, i'r Blaid Geidwadol ac i'r wlad fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru".

Ychwanegodd Boris Johnson ei bod hi "bob amser yn llawn cyngor doeth a hiwmor da, roedd hi'n annwyl iawn ar bob ochr i Dŷ'r Cyffredin a bydd colled fawr ar ei hôl".

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn Senedd Cymru, Andrew RT Davies, fod y Fonesig Gillan yn cael ei "pharchu ar draws y sbectrwm gwleidyddol".

"Roedd hi'n hynod falch o'i gwreiddiau yng Nghymru a gwasanaethodd gyda rhagoriaeth fel Ysgrifennydd Gwladol.

"Roedd Cheryl yn ffrind da i Geidwadwyr Cymru a bydd colled fawr ar ei hôl."

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart: "Roedd y Fonesig Cheryl Gillan yn ffigwr uchel ei pharch a gyfrannodd lawer iawn at wleidyddiaeth Cymru a'r DU dros y blynyddoedd, gan gynnwys fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

"Bydd hi'n cael ei chofio'n annwyl ac rwy'n anfon fy nghydymdeimlad at ei theulu, ei ffrindiau a'i chydweithwyr."

Pynciau Cysylltiedig