Y Bencampwriaeth: Abertawe 0-1 Preston North End

  • Cyhoeddwyd
Ched Evans a Ben CabangoFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Dau Gymro - Ched Evans a Ben Cabango - yn brwydro am y bêl ddydd Llun

Mae Abertawe yn brwydro i gadw eu lle yn safleoedd ail gyfle y Bencampwriaeth ar ôl ildio gôl hwyr yn erbyn Preston yn Stadiwm Liberty.

Gyda'r cloc wedi mynd heibio'r 90 munud, fe sgoriodd Matt Grimes i'w rwyd ei hun ar ôl i'r bêl adlamu'n greulon oddi arno.

Dyma'r bedwaredd gêm yn olynol i Abertawe chwarae heb sgorio.

Mae'r canlyniad yn gadael tîm Steve Cooper yn y pedwerydd safle - 10 pwynt tu ôl i Watford yn ail, a phedwar pwynt uwchben Bournemouth, sy'n seithfed.