Adran Dau: Casnewydd 1-0 Bolton Wanderers

  • Cyhoeddwyd
casnewyddFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Nicky Maynard (canol) sgoriodd y gôl fuddugol

Daeth Casnewydd â rhediad diguro Bolton Wanderers o 14 gêm i ben gyda buddugoliaeth ar Rodney Parade ddydd Llun.

Sgoriodd Nicky Maynard y gôl fuddugol o ongl gyfyng i roi triphwynt i'r Alltudion am y tro cyntaf ers tair gêm.

Mae colled gyntaf Bolton ers 23 Ionawr yn golygu eu bod yn disgyn i bedwerydd yn y tabl.

Mae Casnewydd, a oedd yn dychwelyd i Rodney Parade ar ôl dwy gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd, yn y safle ail gyfle olaf, sef seithfed.