Y Bencampwriaeth: Sheffield Wednesday 5-0 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Barry Bannan a Jordan Rhodes yn dathlu un o goliau WednesdayFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Barry Bannan a Jordan Rhodes yn dathlu un o goliau Wednesday

Fe gollodd Caerdydd yn drwm o 5-0 yn erbyn Sheffield Wednesday yn y Bencampwriaeth ddydd Llun.

Cyn y gêm, roedd Wednesday ar waelod y gynghrair ac wedi sgorio llai o goliau na'r un tîm arall yn yr adran y tymor hwn.

Barry Bannan, capten y tîm cartref, oedd seren y gêm - ond Julian Börner, Callum Paterson, Adam Reach (dwy) a Jordan Rhodes sgoriodd y goliau.

Hon oedd colled cyntaf Mick McCarthy oddi cartref ers cymryd yr awenau yng Nghaerdydd.

Mae'r canlyniad yn gosod yr Adar Gleision yn yr wythfed safle, wyth pwynt yn brin o'r safleoedd ail gyfle gyda chwe gêm yn weddill o'r tymor.

Mae Wednesday yn codi oddi ar waelod y tabl i'r 23ydd safle.