Y Bencampwriaeth: Millwall 0-3 Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Jamal LoweFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Doedd Jamal Lowe heb sgorio mewn 18 gêm cyn iddo rwydo ddwywaith ddydd Sadwrn

Daeth rhediad gwael Abertawe i ben brynhawn Sadwrn wrth iddyn nhw drechu Millwall yn gyfforddus oddi cartref.

Aeth yr ymwelwyr ar y blaen reit ar ddiwedd yr hanner cyntaf, wrth i André Ayew dorri i mewn o'r ochr chwith a tharo ergyd wych i gornel y rhwyd.

Dyblwyd y fantais gyda chwarter awr yn weddill, gyda Jamal Lowe yn gorffen yn dda heibio i'r golwg Bartosz Białkowski.

Yna gyda phum munud i chwarae fe sgoriodd Lowe ei ail - ei goliau cyntaf mewn 18 gêm i Abertawe.

Roedd Yr Elyrch wedi colli pedair gêm yn olynol cyn y gêm yn y Den.

Ond mae'r canlyniad yn golygu bod Abertawe yn codi i'r trydydd safle yn y Bencampwriaeth cyn gweddill gemau'r gynghrair ddydd Sadwrn.

Er hynny, maen nhw 10 pwynt y tu ôl i Watford yn yr ail safle - y safle olaf sy'n cael dyrchafiad awtomatig i'r Uwch Gynghrair.