Cefnogwyr Abertawe i ddychwelyd i Stadiwm Liberty

  • Cyhoeddwyd
Pynciau Cysylltiedig
Connor RobertsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Bydd Connor Roberts a gweddill chwaraewyr Abertawe yn chwarae o flaen torf adref am y tro cyntaf ers dros flwyddyn

Bydd miloedd o gefnogwyr Abertawe a Chasnewydd yn dychwelyd i'r terasau dros y penwythnos am y tro cyntaf ers dechrau'r pandemig.

Yn Stadiwm Liberty, bydd 3,000 o gefnogwyr yr Elyrch yn eu hôl wrth i Abertawe wynebu Barnsley yn ail gymal gem gynderfynol y gemau ail-gyfle yn y Bencampwriaeth.

Mae gan yr Elyrch gôl o fantais dros yr ymwelwyr wedi'r cymal cyntaf.

Mae'n rhan o gynllun peilot Llywodraeth Cymru sydd am weld cefnogwyr yn dychwelyd i ddigwyddiadau chwaraeon yn ddiogel wedi'r pandemig.

Mae'r cefnogwyr lwcus wedi eu dewis ar hap trwy gynllun balot a bydd pob un ohonyn nhw yn gorfod gwisgo mwgwd a dilyn y canllawiau priodol.

Bydd y gic gyntaf am 18:30 ddydd Sadwrn.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Roedd cefnogwyr yn ôl yn Rodney Parade am y tro cyntaf nos Fawrth

Esgyn i'r adran gyntaf yw dymuniad Casnewydd.

Mae ganddyn nhw ddwy gôl o fantais dros Forest Green Rovers wedi cymal cyntaf gemau ail-gyfle'r Ail Adran.

Bydd y gic gyntaf, oddi cartref, am 18:30 nos Sul.