Beth ydy'r rhesymau tu ôl i broblem dai Ynys Môn?

  • Cyhoeddwyd

Mae'r pryder ynglŷn ag ail gartrefi ar y cyfryngau cymdeithasol yn fyddarol ac mae'n ymddangos bod y pandemig wedi cynyddu tensiynau.

Yn wreiddiol o ardal Llanfairpwll yn Sir Fôn, dwi'n ymwybodol o'r poeni sydd yna yn lleol am "bobl ddŵad" yn newid ein cymunedau.

Ond mae cynnydd mewn prisiau tai hefyd yn golygu bod tai yn mynd tu hwnt i gyrraedd pobl ifanc lleol.

Gyda ffigyrau diweddaraf y Gofrestrfa Dir yn dangos cynnydd o 16% mewn prisiau tai ar yr ynys mewn blwyddyn, dyma benderfynu ymchwilio i beth sydd tu ôl i'r sefyllfa yma a sut mae datrys y broblem sy'n creu gymaint o ddrwgdeimlad.

Disgrifiad o’r llun,
"Mae'n rhwystredig iawn," meddai Sian Roberts

Mae Sian Roberts, 27, hefyd wedi cael ei magu yn ardal Llanfairpwll ac mae hi'n edrych i brynu eiddo gyda'i darpar ŵr.

Ar hyn o bryd maen nhw'n rhentu yn y pentref ac yn gobeithio prynu gerllaw.

Erbyn mis Mawrth 2020, roedden nhw wedi hel digon o arian am flaendal.

Ond cafodd Sian alwad gan y banc yn dweud bod angen blaendal mwy arnyn nhw, felly bu'n rhaid iddyn nhw dreulio blwyddyn arall yn cynilo.

Rŵan maen nhw'n ailddechrau chwilio am dŷ o ddifri', ond dywedodd Sian wrtha'i bod y cynnydd mewn prisiau eiddo yn golygu eu bod nhw'n methu fforddio prynu bellach.

Dywedodd: "Dwi wedi cael swydd newydd yn ddiweddar felly mae gena'i ychydig mwy o bres i fynd tuag at y tŷ.

"Ond mae'r math o dai oedden ni'n edrych arnyn nhw cyn y pandemig allan o gyrraedd yn llwyr rŵan am eu bod nhw gymaint yn ddrytach neu fod ganddyn nhw lot o waith i wneud."

Mae'n dweud eu bod nhw'n gohirio penderfyniadau mawr nes eu bod yn dod o hyd i dŷ.

"Mae'n rhwystredig iawn gan fod pethau ar stop. 'Da ni'n gobeithio priodi yn ystod y blynyddoedd nesaf ac allwn ni ddim trefnu hynny nes ein bod wedi prynu rhywle i fyw."

Mae prisiau tai wedi codi 16% ar Ynys Môn yn 2020 yn ôl y gofrestrfa tir - ond nid Ynys Môn yw'r unig ran o Gymru sy'n gweld cynnydd mawr.

Mae'r wlad gyfan wedi gweld prisiau'n codi dros y flwyddyn ddiwethaf.

Yn ôl y ffigyrau diweddaraf gan yr ONS, bu cynnydd o 8.4% ym mhris cyfartalog tai yma yn y flwyddyn hyd at fis Chwefror 2021.

Yn ôl gwefan gwerthu tai Rightmove, mae prisiau tai yng Nghymru wedi codi 13% rhwng Mawrth 2020 a 2021. Y cynnydd mwyaf o unrhywle ym Mhrydain.

'Rhwystredig'

Mae Sian yn credu bod y pandemig yn golygu bod llawer o bobl yn chwilio am dai ar yr un pryd, ond mae hi'n dweud bod ail gartrefi yn bryder iddi.

"Pobl yn symud i mewn i fyw yn yr ardal - does gen i ddim problem o gwbl efo hynny, ond mae o'n rhwystredig pan fyddwch chi'n gwybod bod y tŷ yna'n wag 80% o'r amser a 'da chi methu helpu meddwl 'galla' hwnna 'di bod yn gartref i mi, gallai hynny fod wedi bod yn dŷ dwi'n dechrau teulu ynddo fo'."

Efallai mai ail gartrefi ydy un o'r materion mwyaf emosiynol sy'n gyrru'r farchnad eiddo yng nghefn gwlad Cymru ond nid dyma'r broblem fwyaf ar Ynys Môn yn ôl un gwerthwr tai.

Yn ôl Melfyn Williams o Williams & Goodwin yn Llangefni, mae 'na dri brif ffactor.

"Y brif ffactor ydy'r Dreth Trafodiadau Tir neu'r gwyliau'r dreth stamp. Mae pobl hefyd yn dod allan o'r pandemig, maen nhw wedi safio pres ac felly eisiau tŷ mwy.

"Mae ail gartrefi yn elfen yn y farchnad, fel mae o 'di bod erioed, ac mae 'na ardaloedd lle mae pobl yn teimlo dan anfantais ond nid dyma'r prif sbardun.

"'Da ni'n gweld pobl leol eisiau symud yn lleol a'r prif beth ydy peidio â chael digon o stoc."

Sut felly mae datrys y broblem yma sydd yn amlwg mor gymhleth?

Mae'r gwleidyddion ar yr ynys yn unfrydol bod y farchnad mewn argyfwng ond tydyn nhw ddim yn gytûn ar sut i wella pethau.

'Amhosib'

Pan gwrddais i ag arweinydd y cyngor, Llinos Medi Huws, tu allan i gaffi'r Stesion yn Llannerchymedd, mi ges i sioc i glywed ei bod hithau hefyd wedi cael ei heffeithio gan brisiau uchel y farchnad dai.

"Dim ond dwy flynedd yn ôl roeddwn i'n gallu prynu tŷ teras yma yn Llannerchymedd i fi a fy mhlant," meddai.

"Ond heb gefnogaeth fy mam fyddwn i ddim yn gallu fforddio'r blaendal. A byddai meddwl am brynu tŷ heddiw yn amhosib i mi."

Mae'r cyngor y mae'n ei arwain wedi dechrau rhaglen o adeiladu tai cymdeithasol, ac mae wedi rhoi premiwm ar y dreth gyngor ar gyfer cartrefi gwag ac ail gartrefi.

Ond mae'n dweud bod y pwerau i fynd i'r afael â'r sefyllfa o ddifri yn nwylo Llywodraeth Cymru.

"Ryda ni wedi anfon sawl llythyr [at weinidogion] ynglŷn â'r loophole yn y premiwm. Mae edrych i mewn i hynny'n gyntaf oll yn hollbwysig.

"Mae angen edrych ar drethiant tir ar gyfer ail gartrefi, mae angen i ni ystyried cynyddu hwnnw a hefyd cyfreithiau cynllunio.

"Gallwn ni roi cap ar faint o ail gartrefi ac eiddo twristiaeth sydd mewn rhai cymunedau a byddai hynny'n dod â prisiau i lawr."

Disgrifiad o’r llun,
Mae Llinos Medi Huw, arweinydd Cyngor Môn, yn ymwybodol o'r heriau sy'n wynebu pobl yr ynys

Mae Virginia Crosbie AS, o'r blaid Geidwadol, yn cytuno bod y farchnad dai ar yr ynys mewn argyfwng, ond nid yw'n credu mai ail gartrefi ydy'r prif bryder.

"Pan fydda i'n siarad â phobl ifanc ar yr ynys maen nhw'n dweud wrthyf eu bod am fforddio prynu eu cartrefi eu hunain i aros yn eu cymunedau ac i fagu eu teuluoedd ac i ddiogelu'r iaith a'r diwylliant Cymraeg yma.

"Mae prisiau tai'n mynd allan o reolaeth ac mae rhai pobl yn rhoi hynny i lawr i ail gartrefi ond mae'n llawer mwy cymhleth na hynny.

"Os ydym yn canolbwyntio ar berchnogion ail gartrefi yna nid ydym yn mynd i fynd at wraidd y broblem sylweddol hon.

"Mae'n ymwneud â diffyg cyflenwad ac be welwn ni yn syml ydy blynyddoedd a blynyddoedd o Lywodraeth Lafur Cymru ddim yn adeiladu digon o gartrefi.

"Mae'r argyfwng yma wedi bod yn ddamwain car yn aros i ddigwydd. Yr hyn rydyn ni eisiau ei weld yw Llywodraeth Cymru yn adeiladu cartrefi fforddiadwy mewn mannau a chymunedau lle mae pobl eisiau byw."

Disgrifiad o’r llun,
Virginia Crosbie AS: 'Mae'n llawer mwy cymhleth nag ail gartrefi'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi ymrwymo i adeiladu cartrefi fforddiadwy o ansawdd uchel i bawb. Yr ydym yn ymwybodol iawn o'r effaith y gall nifer fawr o ail gartrefi ei chael mewn rhai rhannau o Gymru, ac yn pryderu amdani.

"Cymru yw'r unig wlad yn y DU i roi pwerau i awdurdodau lleol godi lefelau uwch o dreth gyngor ar eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi. Awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am y penderfyniad i gymhwyso a chynyddu premiymau'r dreth gyngor.

"Rydym hefyd wedi cynyddu'r gyfradd uwch o Dreth Trafodiadau Tir ac ar hyn o bryd rydym yn asesu'r ymyriadau mwyaf effeithiol a sut mae ein partneriaid yn defnyddio pwerau sy'n bodoli eisoes.

"Yn fwy na hynny, rydym wedi ymrwymo i adeiladu 20,000 o gartrefi carbon isel ychwanegol ledled Cymru a datblygu cynllun tai cymunedol Cymraeg."

Pleidiau'n cytuno, 'problem ddifrifol'

Mae'n glir, er mai ail gartrefi sy'n codi gwrychyn fwyaf, nid dyna'r darlun cyflawn yma ym Môn.

Mae'r ffaith nad oes digon o dai yn y lle cyntaf, y gwyliau ar Dreth Trafodiadau Tir, yn ogystal â phobl eisiau tai mwy yn dilyn y cyfnod clo, i gyd yn cael effaith fwy ar y farchnad dai yma.

Peth anghyffredin yw cael gwleidyddion o bleidiau gwahanol yn cytuno â'i gilydd, sy'n awgrymu i mi bod y sefyllfa yn broblem ddifrifol.

Ond wedi dweud hynny, does dim cytundeb ar sut i ddatrys y broblem, ac heb ddatrysiad, mae'r rhwystredigaeth yn cynyddu ac ar ddechrau Senedd newydd, mae nifer yma'n troi at weinidogion Bae Caerdydd bell am atebion.

Pynciau Cysylltiedig