Uwch Gynghrair Cymru: Penybont 0-1 Y Drenewydd

  • Cyhoeddwyd
Cymru Premier

Y Drenewydd fydd yn wynebu Caernarfon yn rownd derfynol gemau ail gyfle Uwch Gynghrair Cymru ar ôl curo Penybont oddi cartref ddydd Sul.

Gyda'r gêm yn edrych fel pe bai angen amser ychwanegol, tarodd Jamie Breese ar ôl 85 munud i sicrhau'r fuddugoliaeth.

Bydd enillwyr y ffeinal rhwng Caernarfon a'r Drenewydd yn sicrhau lle mewn cystadleuaeth Ewropeaidd.

Ddydd Sadwrn fe sgoriodd Mike Hayes ddwywaith wrth i Gaernarfon guro'r Barri o 3-1 ym Mharc Jenner.

Sgoriodd Jake Bickerstaff y drydedd yn yr amser ychwanegol ar ddiwedd yr ail hanner.

Daeth unig gôl Y Barri wedi i Gareth Edwards roi'r bêl yn ei gôl ei hun tua diwedd yr hanner cyntaf.

Pynciau Cysylltiedig