Undeb i herio'r llywodraeth yn y llys dros reolau llygredd

  • Cyhoeddwyd
Gwasgaru slyruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r polisi yn rheoli sut mae slyri a gwrtaith yn cael ei ddefnyddio gan ffermwyr

Bydd rheolau newydd Llywodraeth Cymru, sydd â'r nod o fynd i'r afael â llygredd mewn afonydd, yn cael eu herio yn yr Uchel Lys gan undeb amaeth.

Mae NFU Cymru wedi ennill yr hawl i ofyn i farnwr ymyrryd yn y penderfyniad.

Mae'r undeb yn dweud bod y ffordd mae Llywodraeth Cymru wedi delio â Pharthau Perygl Nitradau (NVZ) yn anghyfreithlon.

Ond mae gweinidogion yn dadlau bod y rheolau newydd - sy'n rheoli sut mae slyri a gwrtaith yn cael ei ddefnyddio - yn hanfodol i fynd i'r afael â llygredd.

'Niweidio enw da ffermwyr'

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford fis Chwefror bod tair enghraifft o lygru afonydd pob wythnos ar gyfartaledd dros y tair blynedd ddiwethaf.

"Daw 90% o allyriadau amonia Cymru o fyd amaeth," meddai.

"Mae nifer yr enghreifftiau o lygredd yn y diwydiant amaeth yn niweidio enw da ffermwyr - maen nhw'n niweidio ein hamgylchedd."

Ond roedd y Prif Weinidog wedi'i gyhuddo o fynd yn ôl ar addewid i beidio â gweithredu'r rheolau newydd tan ar ôl y pandemig.

Mae'r rheolau yn dod i rym fesul cam dros dair blynedd, o fis Ebrill eleni.

Ffynhonnell y llun, Afonydd Cymru
Disgrifiad o’r llun,
Yn ôl Llywodraeth Cymru mae tair enghraifft o lygru afonydd pob wythnos ar gyfartaledd

Mae'r penderfyniad i weithredu'r NVZ wedi denu ymateb chwyrn gan y diwydiant amaeth, gydag undebau'n disgrifio'r polisi fel un "draconaidd".

Dywedodd un ffermwr y byddai nifer yn y diwydiant yn wynebu biliau o dros £100,000 er mwyn cydymffurfio gyda'r rheolau newydd gan y bydd yn rhaid i nifer o ffermydd wella eu cyfleusterau storio slyri.

Bydd hefyd cyfnodau rhwng Awst ac Ionawr ble y bydd gwasgaru slyri wedi'i wahardd.

Os nad ydy ffermwyr yn cydymffurfio gyda'r rheolau maen nhw'n wynebu colli eu taliad sylfaenol - un ai yn rhannol neu yn llwyr.

'Heb ystyried yr holl wybodaeth'

Mae NFU Cymru yn dadlau bod gweinidogion wedi methu ag ystyried yr "holl wybodaeth berthnasol" pan yn llunio asesiad o'r effaith y byddai'r rheolau'n eu cael cyn eu cyflwyno.

Dywedodd llywydd yr undeb, John Davies: "Ry'n ni'n falch o glywed bod y llys wedi derbyn ein cais am ganiatâd i arolwg barnwrol a bod y materion a godwyd â sail i gael eu clywed mewn gwrandawiad."

Does dim dyddiad eto ar gyfer y gwrandawiad hwnnw.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais am ymateb.