Iawndal ynni gwynt ar y môr fel 'llwgrwobrwyo'

  • Cyhoeddwyd
fferm wynt oddiar arfordir LlandudnoFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Mae ffermydd gwynt, fel Gwynt y Môr oddi ar arfordir Llandudno, yn parhau'n ddadleuol

Mae talu iawndal i gymunedau am leoli ffermydd gwynt ar y môr yn "swnio'n debyg i lwgrwobryo", yn ôl ymgyrchydd.

Daw'r sylwadau'n dilyn adroddiad diweddar sy'n argymell cymryd camau i osgoi gwrthwynebiad lleol i waith adeiladu ar y tir sy'n gysylltiedig â datblygiadau ynni morol, megis peilonau, ceblau ac is-orsafoedd trydan.

Yn ôl melin drafod dylid creu "cronfeydd cyfoeth" ar gyfer datblygiadau ynni gwynt ar y môr.

Mae cynlluniau ynni ar y tir eisoes yn buddsoddi mewn cyfleusterau cymunedol fel clybiau chwaraeon.

Mae swyddogion Llywodraeth y DU yn dweud eu bod am weld cymunedau'n elwa o ddatblygiadau ynni gwynt ar y môr hefyd.

Ond heb gefnogaeth, byddai ffermydd gwynt ar y môr yn wynebu'r un gwrthwynebiad â ffermydd gwynt tir sych, neu ffracio, meddent.

Disgrifiad o’r llun,
Roedd John Lawson-Reay o Landudno wedi ymgyrchu'n erbyn datblygu tyrbinau Gwynt y Môr ger Llandudno

Er eu bod nhw'n bell o'r lan, mae pob fferm wynt ar y môr angen cael ei chysylltu â'r rhwydwaith drydan ar y tir.

Gall hyn olygu gwaith isadeiledd sylweddol ar y lan, gydag is-orsafoedd trydan, gwaith gosod ceblau, a pheilonau newydd.

Mae ffermydd gwynt arfaethedig eisoes yn achosi problemau yn nwyrain Lloegr, ac yn ôl adroddiad Policy Exchange gallai arwain at bryderon tebyg yng ngogledd Cymru a dwyrain Yr Alban, wrth i fwy o ffermydd gwynt gael eu datblygu ar y môr.

'Y cyfan mor annelwig'

Yn ôl John Lawson-Reay, a gadeiriodd grŵp ymgyrchu yn erbyn fferm wynt Gwynt y Môr, datblygiad a gostiodd £2bn ar yr arfordir ger Llandudno, roedd yr adroddiad yn "swnio'n debyg iawn i lwgrwobrwyo", ac fel rhoi "siwgr ar y bilsen".

"Maen nhw'n cynnig hyn fel bod cymunedau honedig - beth bynnag ydy rheiny - yn mynd i gael rhyw fath o arian ar gyfer rhywbeth neu'i gilydd.

"Ond mae'r cyfan mor annelwig a does yna ddim ffordd mewn gwirionedd y gallwch chi wrthwynebu ffermydd gwynt o gwbl.

"Maen nhw'n awgrymu rhywsut neu ei gilydd bod rhywun yn mynd i gael dipyn o bres allan o hyn, ond fedra' i wir ddim gweld hynny'n digwydd."

"Pa floc bychan o bobl sy'n gymuned, a sut fydd o'n cael ei weinyddu?"

Cyn-ysgrifenyddion ynni Llywodraeth y DU - Andrea Leadsom ac Amber Rudd - yw awduron rhagair yr adroddiad.

Maent yn rhybuddio bod "cymunedau'n iawn i fod yn bryderus" am yr holl isadeiledd sy'n cael ei adeiladu, ac "mae'n rhaid i'r llywodraeth wneud rhywbeth".

Maen nhw'n ychwanegu ei bod yn "hollol iawn" bod cymunedau'n cael iawndal am gynnal isadeiledd mawr "sydd ag effeithiau negyddol yn lleol".

Ond rhaid cofio hefyd am bethau fel hyfforddiant a swyddi sy'n dod gyda'r prosiectau ynni mawr yma, meddai Rhys Wyn Jones, Cyfarwyddwr Renewable UK Cymru, corff sy'n cynrychioli'r diwydiant ynni adnewyddadwy.

"Mae barn pobl am ffermydd gwynt wedi dechrau newid, ond yr hyn sy'n creu'r newid agwedd ydy pethau fel y syniad bod yn rhaid i ni symud at net zero erbyn 2050 ac am fod yna argyfwng hinsawdd.

"Mae'n rhaid i Gymru gael fwy o ran o'r gacen drwy fuddsoddi mewn datblygu sgiliau, rhwydweithiau ynni a buddsoddi mewn porthladdoedd felly y medrith Cymru ddenu'r cyfleon sydd yna."

Disgrifiad o’r llun,
Mae cynlluniau ynni ar y tir, fel y fferm wynt yma ger Llyn Brenig, eisoes yn cynnig rhoddion cymunedol

Mae cronfeydd cymunedol eisoes yn rhoi arian ar gyfer prosiectau ynni ar y tir.

Mae fferm wynt Gorllewin Brechfa yn Sir Gâr yn cyfrannu bron i £500,000 bob blwyddyn - ac yn mynd i wneud am o leiaf 20 mlynedd eto - i fudiadau a grwpiau lleol.

Roedd 'na wrthwynebiad sylweddol i'r cynllun pan gafodd hi ei chrybwyll yn wreiddiol.

Erbyn hyn mae'r fferm wynt yn talu am geir a beiciau trydan yn yr ardal, yn cyfrannu at glybiau ffermwyr ifanc, a chanolfannau cymunedol.

Disgrifiad o’r llun,
Mae rhodd gan y gronfa wedi bod o fudd mawr i Glwb Rygbi Rhuthun, meddai Steffan Tudor

Yn y gogledd cafodd timau ieuengaf Clwb Rygbi Rhuthun rodd o £25,000 o gronfa fferm wynt Llyn Brenig yn ddiweddar ar gyfer adeiladu storfa newydd i gadw offer a dillad.

Asiantaeth ddatblygu gwledig Cadwyn Clwyd sy'n rheoli'r gronfa, ac mae'n darparu bron i £4m i grwpiau cymunedol dros 25 mlynedd.

Yn ôl Steffan Tudor o'r clwb, mae'r arian wedi bod yn help enfawr i gael storio offer a datblygu cyfleusterau'r clwb.

"Mae'n beth da bod 'na gyfleon i gwmnïau buddsoddi mewn ffermydd gwynt yn yr ardal, ond mae'n beth da bod ni'n cael y buddion yn lleol, rhywfaint o arian i'r gymuned i ddatblygu cyfleusterau fel hyn.

"Mae'r offer newydd yn helpu datblygu'r ffordd yr ydan ni'n helpu chwaraewyr rygbi ifanc," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol y DU bod ynni gwynt ar y môr "yn llwyddiannus, ac yn darparu trydan rhad a gwyrdd tra'n cynnal miloedd o swyddi o safon".

"Tra bod llawer o gefnogaeth i ynni gwynt y môr, rydym yn benderfynol o sicrhau bod cymunedau lleol yn gallu rhannu'n llawn yn llwyddiant y sector, a bydd ein adolygiad Offshore Transmission Network Review yn ystyried effeithiau strwythurau ynni gwynt ar y mor ar gymunedau sy'n cael eu heffeithio."

Pynciau Cysylltiedig