Marwolaeth Aberteifi: Cyhuddo dyn o lofruddiaeth

  • Cyhoeddwyd
John BellFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,
Roedd teulu John Bell wedi disgrifio'i farwolaeth fel un 'dorcalonnus'

Mae dyn 22 oed o Aberteifi wedi cael ei gyhuddo o lofruddio dyn lleol yn y dref.

Bydd Ashley Keegan, sy'n byw yn stryd Golwg y Castell, yn mynd o flaen ynadon yn Abertawe ddydd Sadwrn mewn cysylltiad â marwolaeth John Bell.

Bu farw Mr Bell, oedd yn 37 oed ac hefyd yn byw yn Aberteifi, yn dilyn digwyddiad yn ardal pont y dref.

Cafodd ei ganfod tua hanner nos ddydd Mercher, 21 Gorffennaf.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys: "Mae teulu John yn parhau i gael cefnogaeth swyddogion arbenigol ac mae'r ymchwiliad yn ddiolchgar am gefnogaeth y gymuned tra bod ymholiadau'n parhau."

Cafodd nifer fawr o swyddogion eu galw i'r dref i chwilio sawl man fore Mercher, ac fe gafodd nifer o ffyrdd eu cau wrth i'r ymchwiliad ganolbwyntio ar Golwg Y Castell a'r ffordd yn arwain tuag at y bont.