Agor safle i Hindŵiaid a Siciaid wasgaru llwch anwyliaid

  • Cyhoeddwyd
Llwch tad Radika Kadaba yn cael ei roi yn yr afonFfynhonnell y llun, Grŵp Antim Sanskar Cymru
Disgrifiad o’r llun,
Mae'n draddodiadol mewn cymunedau Hindŵ a Sîc i weddillion amlosgedig gael eu gwasgaru i ddŵr sy'n llifo

Mae safle i Hindŵiaid a Siciaid wasgaru llwch eu hanwyliaid wedi cael ei greu yn ne Cymru.

Mae'n draddodiad yn y ddwy grefydd i gyrff gael eu hamlosgi ac i'r llwch gael ei wasgaru ar ddŵr sy'n llifo, fel ei fod yn cael ei gario allan i'r môr.

Y safle ar lan Afon Taf, yng Nghlwb Rhwyfo Llandaf, yw'r cyntaf o'i fath yng Nghymru.

Dywedodd Channi Kaler, o Grŵp Antim Sanskar Cymru (ASGW), ei fod yn teimlo'n "hynod gyffrous" ac yn edrych ymlaen at agoriad swyddogol y safle ddydd Sadwrn.

Dechreuodd Mr Kaler chwilio am safle pwrpasol i'r gymuned Sicaidd a Hindŵaidd ar ôl i'w chwaer bron iawn a llithro i mewn i afon wrth wasgaru llwch eu tad ym Mhontsarn, Merthyr Tudful yn 2012.

"Roedd fy chwaer wedi dod o Galiffornia, ac aethom i wasgaru'r llwch," meddai.

"Roedd hi'n ddiwrnod glawog ac roedd glan yr afon yn weddol llithrig ac fe lithrodd hi a bu bron iddi ddisgyn i'r afon. Gallai fod wedi bod yn ddamwain ddrwg."

Ffynhonnell y llun, Grŵp Antim Sanskar Cymru (ASGW)
Disgrifiad o’r llun,
Roedd teulu Radhika Kadaba yn gallu defnyddio'r llwyfan ar Afon Taf i wasgaru llwch ei thad am nad oedd yn bosib teithio i India oherwydd rheolau Covid

Cysylltodd Mr Kaler - Sîc a aned yn Tanzania ac a symudodd i Gymru yn 1961 - â'r gymuned Hindŵaidd a gyda'i gilydd ffurfiwyd ASGW.

Treuliodd y grŵp sawl blwyddyn yn chwilio am safle addas i bobl allu cynnal defodau'r eneiniad olaf i'w hanwyliaid, cyn cytuno ar y clwb rhwyfo gyda Chyngor Caerdydd.

Gall unrhyw un wneud trefniadau i ddefnyddio'r safle - pontŵn sy'n cael ei rannu gyda'r clwb rhwyfo, ger cored Llandaf.

Dywedodd Mr Kaler, sy'n byw yng Nghaerffili, ei fod ond yn ymwybodol o un safle pwrpasol tebyg yng ngweddill y DU, a hwnnw yng Nghaerlŷr.

Mae'r pontŵn wedi cael ei ddefnyddio ers mis Tachwedd, ond oherwydd cyfyngiadau Covid, ni fu'n bosib cynnal yr agoriad swyddogol tan nawr.

Ffynhonnell y llun, Grŵp Antim Sanskar Cymru (ASGW)
Disgrifiad o’r llun,
Bu Vimla Patel (dde) a Radhika Kadaba (chwith) yn cynnal gweddïau i sancteiddio'r safle ym mis Gorffennaf 2020

Mae Radhika Kadaba, ysgrifennydd cyffredinol ASGW a Chyngor Hindŵaidd Cymru, eisoes wedi defnyddio'r safle i wasgaru llwch ei thad, am nad oedd ei theulu'n gallu teithio i India, lle mae'n draddodiadol i wasgaru llwch amlosgedig yn Afon Ganges.

"Fe gollon ni ein tad y llynedd, ar ddechau'r pandemig," meddai.

"Fel arfer rydym yn mynd â llwch yn ôl adref i India, ond yn amlwg nid ydym wedi gallu mynd i India na theithio i unman.

"Nid oedd fy mhlant yn gallu dod i'w angladd chwaith, maen nhw i gyd yn Lloegr."

Ychwanegodd bod agor y safle wedi dod ar yr adeg iawn i'r cymunedau, yn arbennig ar ôl y pandemig, gyda'i phlant yn gallu cwrdd i wasgaru llwch ei thad, ychydig fisoedd yn ôl.

Tair cenhedlaeth yn byw yng Nghymru

Dywedodd Vimla Patel, cadeirydd ASGW, bod y safle'n bwysig iawn i Hindŵiaid a Siciaid Prydeinig, sy'n teimlo mwy o gysylltiad gyda'r DU ac sy'n dymuno cael eu llwch wedi'i wasgaru yma.

"Mae hyn yn agwedd bwysig o'r defodau olaf i eneidiau ymadawedig," meddai.

"Mae tair cenhedlaeth o Hindŵiaid a Siciaid yn byw yng Nghymru. Roeddan nhw'n arfer mynd â'u llwch yn ôl i'r famwlad ond nawr mae pobl yn dymuno gwasgaru eu llwch yng Nghymru."

Ffynhonnell y llun, Grŵp Antim Sanskar Cymru (ASGW)
Disgrifiad o’r llun,
Mae Grŵp Antim Sanskar Cymru (ASGW) wedi gweithio am naw mlynedd i geisio dod o hyd i safle addas

Bydd y llwyfan yn cael ei agor yn swyddogol ddydd Sadwrn mewn seremoni gydag aelodau o Gyngor Caerdydd a'r Prif Weinidog Mark Drakeford yn bresennol.

Dywedodd Cyngor Caerdydd: "Mae ASGW wedi bod yn gweithio gyda'r cyngor ers blynyddoedd i adnabod safle addas lle gellid gwasgaru gweddillion amlosgedig i mewn i ddŵr llifeiriol - yn ôl traddodiad y ffydd Hindŵ a Sîc.

"Mae nifer o ardaloedd wedi cael eu hystyried dros yr amser hyn, ond y lleoliad yma a'r bartneriaeth gyda'r clwb rhwyfo oedd yr opsiwn orau o bell ffordd, a chafodd ei groesawu gan y grŵp pan gafodd ei awgrymu yn gyntaf.

"Mae hi wedi cymryd peth amser i gael y llwyfan yn ei le oherwydd materion peirianyddol yn ogystal â phroblemau a achoswyd gan y pandemig, ond nawr mae gennym leoliad parhaol, rheoledig, a fydd yn cael ei ddefnyddio gan genedlaethau presennol a dyfodol y cymunedau Sîc a Hindŵ."

Pynciau Cysylltiedig