Apêl am wybodaeth wedi gwrthdrawiad angheuol yn Abertawe

  • Cyhoeddwyd
cyfforddFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar y gyffordd rhwng Ffordd y Brenin a Ffordd Caerfyrddin

Mae person wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad un cerbyd yn Abertawe.

Yn ôl Heddlu De Cymru, fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad toc cyn 04:00 fore Sul ar y gyffordd rhwng Ffordd y Brenin a Ffordd Caerfyrddin yn ardal Fforest-fach.

Mae'r heddlu'n rhybuddio y gallai Ffordd Caerfyrddin fod ar gau am gyfnod, ac mae yna alw ar yrwyr i osgoi'r ardal os yn bosib.

Mae'r llu yn apelio ar i unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw.

Pynciau Cysylltiedig