Buddugoliaeth rwydd i Forgannwg yn erbyn Nottingham

  • Cyhoeddwyd
James WeighellFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Fe ddaeth James Weighell i Forgannwg o Durham ym mis Ebrill

Roedd yna fuddugoliaeth rwydd o saith wiced i Forgannwg yn eu gêm undydd ddydd Sul yn erbyn Sir Nottingham yng Ngerddi Soffia.

Oherwydd y glaw roedd y chwarae wedi ei gyfyngu i 23 pelawd. Diolch i fowlio cadarn a maesu da roedd yr ymwelwyr i gyd allan am 79 rhediad ar ôl ugain pelawd.

Fe wnaeth pum bowliwr Morgannwg gipio o leiaf un wiced yr un a James Weighell dair wiced am ddim ond saith rhediad mewn pedair pelawd.

Daeth Morgannwg i'r llain yn hyderus ac wedi 16 pelawd roedd y fuddugoliaeth wedi ei sicrhau gyda 76 ar y sgorfwrdd a dim ond dwy wiced wedi eu colli.

Mae'r fuddugoliaeth, eu pedwaredd yn y gystadleuaeth undydd, yn eu rhoi ar ben eu grŵp ac mae eu siawns o gyrraedd y rowndiau nesaf o'r gystadleuaeth yn parhau yn gryf iawn.

Morgannwg 76 am 2, Nottingham 72 i gyd allan.