Achub dyn wedi'i anafu o geunant dwfn yn Sir Conwy

  • Cyhoeddwyd
Y criw achub yn helpu'r dyn wedi'i anafu yn y ceunantFfynhonnell y llun, Cymdeithas Achub Mynydd Dyffryn Ogwen
Disgrifiad o’r llun,
Roedd rhaid defnyddio rhaffau i achub y dyn o'r ceunant

Mae dyn 70 oed, a oedd wedi torri ei glin, wedi cael ei achub o geunant dwfn yn Sir Conwy.

Cafodd criw Achub Mynydd Dyffryn Ogwen eu galw i helpu parafeddygon ger Eglwys-bach ddydd Sadwrn wrth i'r dyn fod yn anymwybodol ar adegau.

Oherwydd y lleoliad anghysbell nid oedd yr ambiwlans yn gallu cyrraedd union fan y digwyddiad a bu'n rhaid mynd ag e i Ysbyty Gwynedd mewn hofrennydd.

Pynciau Cysylltiedig