Charli Britton: Hanner canrif o ddrymio a dylunio
- Cyhoeddwyd
Charli Britton y Drymiwr
Dros y penwythnos fe ddaeth y newyddion bod y drymiwr Charli Britton wedi marw yn 68 mlwydd oed.
Wrth rannu atgofion am ei gyd-aelod o'r band Edward H Dafis, fe wnaeth Cleif Harpwood dalu teyrnged i un o arwyr tawel y Sin Roc Gymraeg.
"Rydyn ni'n dueddol o anghofio pobl fel Charli... Roedd e yn y bac lein fel petai - y rheng ôl - ond fe oedd curiad calon ein cerddoriaeth ni."
"Mae e wedi cyfrannu'n ddi-bendraw i ddiwylliant cyfoes. Os edrychwch chi ar recordiau cyfnod cynnar cwmni Sain, byddwch chi'n siŵr o weld ei enw'n gyfrannydd fel cerddor ar lawer ohonyn nhw."
Pawb wedi syfrdanu o glywed am farw sydyn Charli Britton. Cymeriad annwyl ac unigryw a fu'n cyfeilio a dylunio'r byd roc Cymraeg ers y 70au cynnar. Bydd hiraeth mawr ar ei ol.Diolch am dy gwmni Siarl.
— Dafydd Iwan (@dafyddiwan) August 15, 2021
Fe weithiodd Charli ar ddwsinau o recordiau eiconig dros 50 mlynedd ac mae ei ddrymio i'w glywed ar rai o ganeuon enwocaf cyfnod ffurfiannol yn hanes cerddoriaeth cyfoes Gymraeg.
Dyma rai uchafbwyntiau o'i yrfa gerddorol amrywiol.
Edward H Dafis
Roedd yn aelod o Edward H Dafis o'r adeg cafodd y band ei sefydlu yn 1973, gyda Hefin Elis, John Griffiths a Dewi 'Pws' Morris - flwyddyn yn ddiweddarach fe ymunodd Cleif Harpwood fel prif leisydd y band.
Ar eu hanterth roedd y band yn gallu denu torfeydd o filoedd i'w gigs, ac fe wnaeth eu safon wrth berfformio'n fyw argraff fawr ar gynulleidfaoedd Cymru.
Nia Ben Aur
Pan gafodd opera roc uchelgeisiol Nia Ben Aur ei pherfformio am y tro cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol 1974, Charli Britton oedd wrth y drymiau. Dim ond unwaith cafodd y sioe ei pherfformio gan y cast gwreiddiol, ond fe gafodd ddylanwad mawr.
Charli oedd hefyd i'w glywed ar y recordiad enwog o'r sioe, ynghyd ag aelodau eraill o fand Edward H Dafis.
Injaroc
Injaroc oedd y supergroup Cymraeg cyntaf. Roedd Charli yn gweithio yn Llundain ar y pryd, ac fe fyddai yn teithio yn ôl a 'mlaen i Gymru i berfformio ar benwythnosau.
Fe ymunodd Geraint Griffiths, Caryl Parry Jones a Sioned Mair a rhai o aelodau Edward H Dafis i recordio'r albym Halen y Ddaear yn 1977.
Roedd yna lot o gyffro o amgylch y band wrth iddynt ffurfio, ond fe gafwyd ymateb chwyrn gan rai o ddilynwyr mwyaf brwd Edward H Dafis.
Ond mae rhai o ganeuon y band wedi hen ennill eu lle yn llyfrau hanes y Sin Roc Gymraeg, gyda fersiwn Diffiniad o'r glasur Calon yn anthem bop gyfoes bellach.
Dylunio cloriau
Yn ogystal â bod yn ddrymiwr dawnus roedd Charli hefyd yn dylunio cloriau recordiau.
Dyma rai enghreifftiau o'i waith:
Hefyd o ddiddordeb: