Enwi dyn fu farw ar ôl mynd i drafferthion mewn rhaeadr

  • Cyhoeddwyd
WaterfallFfynhonnell y llun, Geograph / Chris Shaw

Mae dyn fu farw ar ôl mynd i drafferthion mewn rhaeadr yn ne Cymru wedi cael ei enwi gan yr heddlu.

Roedd Hemanta Kumar Rai, 28 oed o Farnborough yn Hampshire, yn y dŵr ym Mhontneddfechan, Glyn-nedd gyda'i ffrindiau pan aeth i drafferthion yn y dŵr ar 16 Awst.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r lleoliad tua 13:20, ond bu farw Mr Kumar yn y fan a'r lle.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod teulu'r dyn wedi cael gwybod yn ogystal â'r crwner.

Pynciau Cysylltiedig