Cofio'r ciws ar gopa'r Wyddfa... yn 1894

  • Cyhoeddwyd
Y Rhyl tua 1880Ffynhonnell y llun, Science & Society Picture Library
Disgrifiad o’r llun,
Pobl ar wyliau yn Y Rhyl tua 1880

Gyda nifer yn dewis peidio mynd dramor ar wyliau eleni, mae gwestai, traethau, mynyddoedd ac atyniadau Cymru yn brysurach nag erioed.

Ond dydi gweld cannoedd o ymwelwyr yn heidio i rai o fannau prydferth y wlad ddim yn beth newydd o bell ffordd. Yma, mae'r hanesydd Elin Tomos yn edrych ar ddatblygiad cynnar twristiaeth yng Nghymru a'r croeso llugoer a brofodd sawl ymwelydd dros ganrif a mwy yn ôl.

Cyn y ddeunawfed ganrif, anaml iawn y byddai ymwelwyr o Loegr yn canmol Cymru. Ym marn teithwyr y cyfnod nid oedd unrhyw harddwch yn perthyn i'r tirwedd Cymreig, yn bennaf achos ei natur fynyddig.

Yn ysgrifennu'r tua'r flwyddyn 1682 disgrifiodd 'W. R.' (William Richards, Heldom, efallai) Gymru fel gwlad, 'mountainous... and hath Variety of Precipice to break one's neck; which a Man may sooner do than fill his belly, the Soil being barren, and an excellent place to breed a Famine in.'

Neis iawn wir!

Ffynhonnell y llun, Science & Society Picture Library
Disgrifiad o’r llun,
Trên bach yr Wyddfa yn 1894. Roedd tirwedd Cymru yn rhy fynyddig i nifer cyn Oes Fictoria

Gwyliau ffasiynol y Saeson cefnog

Dros amser, yn sgil ymdrechion damcaniaethwyr, artistiaid ac awduron, datblygodd Cymru yn gyrchfan gwyliau ffasiynol ymhlith Saeson cefnog. O 1750 ymlaen dechreuodd ymwelwyr deithio i bob cwr o'r wlad er mwyn profi rhai o'i rhyfeddodau.

O raeadrau bywiog Pontarfynach yng Ngheredigion i weddillion hynafol Abaty Tyndyrn yn Sir Fynwy, roedd Cymru bellach yn wlad ramantaidd a gyda'r Chwyldro Ffrengig a Rhyfeloedd Napoleon yn rhoi diwedd ar deithio i'r cyfandir, fe ddaeth crwydro Cymru yn weithgaredd hanfodol i unrhyw fonheddwr gwerth ei halen.

Cymaint oedd eu nifer erbyn chwarter cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg fel y datblygodd y teithiwr bonheddig yn darged gwawd. Ym 1812, crëwyd portread dychanol ohonynt ar ffurf cymeriad gan Thomas Rowlandson, Dr. Syntax, y teithiwr Seisnig, gorfrwdfrydig.

Ffynhonnell y llun, Culture Club
Disgrifiad o’r llun,
Dr Syntax druan yn cael anffawd ar ei wyliau

Erbyn dechrau'r 1850au roedd datblygiadau mewn trafnidiaeth, yn arbennig y rheilffyrdd, yn golygu bod teithio pellter hir nawr yn llawer haws gan droi ardaloedd anghysbell yn hygyrch.

Roedd rheilffordd bellach yn cysylltu Llundain â Chaerdydd, Abertawe a thu hwnt, tra bod y llinell o Lundain i Gaergybi yn galluogi ymwelwyr i grwydro arfordir gogledd Cymru ac Eryri yn rhwydd.

Datblygiad y trefi glan môr

Gyda dyfodiad y rheilffyrdd trawsnewidiwyd pentrefi arfordirol bychain fel Llandudno a'r Rhyl.

Ffynhonnell y llun, Science & Society Picture Library
Disgrifiad o’r llun,
Llandudno tua 1880; roedd ymwelwyr yn heidio i drefi glan môr y gogledd yn y cyfnod yma

Diolch i fuddsoddiadau mentrwyr cyfoethog tyfodd Y Rhyl, er enghraifft, yn dref lewyrchus, a hynny trwy efelychu'r datblygiad a oedd eisoes ar droed mewn trefi tebyg fel Blackpool a Southport. Adeiladwyd strydoedd, tai, promenâd a gwestai ysblennydd.

Y crandiaf ohonynt oll oedd gwesty'r Belvoir, datblygiad beiddgar Robert Jones, gŵr busnes o Fanceinion.

Pan basiwyd y Ddeddf Gwyliau Banc ym 1871 - deddf a oedd yn sicrhau pedwar diwrnod o wyliau swyddogol i weithwyr - gwelwyd cynnydd pellach yn y nifer o ymwelwyr i drefi glan môr y gogledd.

Yn ystod penwythnos Gŵyl y Banc Awst 1889 roedd dros 20,000 o ymwelwyr wedi cyrraedd gorsaf drên Y Rhyl a bu'n rhaid i nifer ohonynt gysgu yng ngherbydau'r rheilffordd gan bod y gwestai yn orlawn!

'Doing Snowdon'

Fel heddiw, roedd llawer o ymwelwyr yn anelu am Eryri gyda'r bwriad o gyrraedd copa'r Wyddfa. Yn ôl gohebydd Y Cymro, 'ni fu'r fath dyrfa o ymwelwyr yn dringo i ben y Wyddfa'r un haf yng nghof neb sydd yn fyw' a welwyd yn ystod Haf 1894.

Yn eu plith roedd ymwelwyr o Loegr, India, Ffrainc, Swistir ac America - oll yn awyddus i ddatgan eu bod yn 'doing Snowdon.'

Ffynhonnell y llun, Universal History Archive
Disgrifiad o’r llun,
Dyma sut fath o wisg oedd dringwyr Yr Wyddfa yn ei wisgo nôl yn 1890... o leia nad oedden nhw'n gwisgo fflip-fflops fel rhai o ymwelwyr eleni

Gwelwyd niferoedd tebyg ym Mhen-Llŷn hefyd.

Erbyn terfyn Oes Fictoria, roedd pentref Abersoch yn denu'r 'ymwelwyr o'r dosparth goreu o Saeson.' Honnwyd nad oedd 'ffermdy yn ardal Llanengan a Chilan heb ymwelwyr yno', a bod gofyn adeiladu mwy o dai i dderbyn rhagor o ymwelwyr.

Llond bol ar y Saeson

Nid oedd y croeso yn un cynnes ar adegau a digon hawdd oedd pechu Cymry Oes Fictoria.

Yn 1895, mewn llythyr di-enw a anfonwyd at olygydd papur newydd radical Y Werin esboniodd yr awdur ei fod wedi cael llond bol ar Saeson yn 'treulio ychydig ddyddiau yn un o'r ymdrochleoedd [ac] yn ystyried eu hunain yn gymwys i draethu barn ar genedl y Cymry… a nodi pob gwall a wna y Cymro a'r Gymraes wrth geisio siarad Saesneg.'

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,
Llythyr di-enw ym mhapur Y Werin yn 1895 yn cwyno am ymwelwyr

Roedd dymuniad ymwelwyr i nofio, hamddena neu yfed ar y Sul hefyd yn dân ar groen y Cymry crefyddol. Digiwyd trigolion Llangollen yn ystod Haf 1907 pan gynhaliwyd gweithgareddau chwaraeon yn y parc ar ddydd Sul, roedd nifer o'r ymwelwyr 'afreolus' yn feddw 'ac nid oedd y gweddill… fawr gwell.'

Ag ymwelwyr yn parhau i ymweld â Chymru yn eu miloedd, gadewch i ni obeithio y bydd ymwelwyr a phobl leol yn mwynhau seibiant dymunol eleni...

Pynciau Cysylltiedig