Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddio dynes 27 oed

  • Cyhoeddwyd
chevrons roadFfynhonnell y llun, Google Maps

Mae Heddlu'r Gogledd wedi arestio dyn ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dynes 27 oed yn Shotton, Sir y Fflint.

Cafodd yr heddlu eu galw i ddigwyddiad yn Chevrons Road am 09:20 fore Iau, 26 Awst.

Daethon nhw o hyd i gorff y ddynes 27 oed yno.

Mae dyn 29 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac mae'r ymchwiliad eisoes yn mynd rhagddo.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Jonathan Salisbury-Jones: "Hoffwn dawelu meddyliau'r cyhoedd nad oes bygythiad cyfredol i'r gymuned ehangach.

"Mae swyddogion arbenigol yn cefnogi teulu'r ddynes fu farw.

"Rwyf nawr yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth [am y digwyddiad] i gysylltu gyda ni ar 101 neu trwy'r wefan, gan ddyfynnu'r cyfeirnod 21000594238, neu ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111."

Pynciau Cysylltiedig