Doedden nhw'n Ddyddiau Da: Hanner canrif o Hergest

  • Cyhoeddwyd
cerddoriaethFfynhonnell y llun, Sain

Ddiwedd Awst 1971, union hanner canrif yn ôl, daeth pedwar bachgen ifanc at ei gilydd yng Ngwersyll yr Urdd Glan-llyn.

Ond nid gweithgareddau awyr agored ddaeth â Geraint Davies, Derec Brown, Elgan Ffylip, a Delwyn Siôn ynghyd yr wythnos honno ond sesiynau hwyrol yn canu'r gitâr, a'r un cariad at gerddoriaeth gorllewinol America a Meic Stevens.

Canlyniad yr wythnos oedd dechrau Hergest, un o grwpiau mwyaf poblogaidd y 70au, sydd wedi parhau i rocio trwy'r degawdau.

Mewn rhaglen arbennig ar Radio Cymru sy'n ddathliad o'r grŵp, mae Dei Tomos yn holi'r aelodau gwreiddiol am eu hatgofion.

Cyfarfod am y tro cyntaf yng Nglan-llyn

Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,
Gwersyll yr Urdd Glan-llyn; dyma lle wnaeth Geraint Davies, Delwyn Siôn, Derec Brown ac Elgan Ffylip gyfarfod am y tro cyntaf

Ychydig a wyddai'r pedwar; Geraint Davies o Abertawe, Elgan Ffylip o Aberystwyth, Derec Brown o Gaerfyrddin a Delwyn Siôn o Aberdâr y byddai Awst 1971 yn newid eu bywydau, ond dyna'n union a wnaeth. Eglura Geraint:

"Roedd yr wythnos yng Nglan-llyn yn gyd-ddigwyddiad rhyfeddol 'nath newid fy mywyd i.

"O'n i wedi cwrdd ag Elgan unwaith neu ddwy o'r blaen ond do'n i erioed wedi dod ar draws Delwyn a Derec.

"Ro'n i wedi clywed am Delwyn achos roedd e wedi dechre gwneud enw iddo ei hunan fel canwr.

Ffynhonnell y llun, Delwyn Siôn
Disgrifiad o’r llun,
Delwyn Siôn, aelod o Hergest ac artist unigol

"Felly dyma ni yn cyrraedd a sylweddoli wrth ddechre siarad gyda'n gilydd bod y pedwar ohonon ni gyda'r un math o ddiddordeb cerddorol, yn enwedig cerddoriaeth gorllewinol America; grwpiau fel Crosby, Stills & Nash a hefyd arwyr newydd Cymraeg.

"Roedd y byd canu ysgafn Cymraeg 'mond yn dechre, a'r boi mawr oedd Meic Stevens."

Disgrifiad o’r llun,
Meic Stevens; arwr cynnar i aelodau Hergest

Ychwanega Geraint: "Mi oedd Meic yn ddylanwad ar y pedwar ohonon ni. A dyma ni'n penderfynu; hei, mae gynnon ni gyd gymaint yn gyffredin, 'dan ni am gael hwyl wythnos yma.

"Be' wnaethon ni o ganlyniad oedd diflasu pob un gwersyllwr arall oedd yna wrth fanteisio ar bob cyfle fydden ni'n gael i ganu gyda'n gilydd."

Dylanwad tebyg gafodd y trip ar Derec Brown, meddai:

"Roedd e jest yn grêt i gwrdd â phobl eraill o wahanol lefydd oedd ar yr un donfedd fi'n credu. Hyd yn oed yn Gaerfyrddin, doedd dim lot o bobl yn lico be' o'n i'n lico.

Disgrifiad o’r llun,
Roedd cerddoriaeth o orllewin America fel Crosby, Stills & Nash yn ddylanwad mawr ar Hergest

"Yn eironi oedd bo' ni'n mynd i Glan-llyn lle o'n ni fod cymryd rhan mewn gweithgaredde dŵr, ac uchafbwynt yr wythnos i fi oedd mynd ar daith i Borthmadog a mynd i Recordiau Cob a phrynu records."

Ffurfio Hergest

Disgrifiad,

Gwyliwch Hergest yn perfformio ar raglen bop Twndish yn 1978

Wrth ffarwelio â'i gilydd ar ddiwedd yr wythnos roedd rhywbeth mawr ar droed i Derec, Delwyn, Geraint ac Elgan.

Gyda Geraint yn mynd ffwrdd i'r coleg yn Aberystwyth, ac Elgan yn byw yno, roedd Delwyn yn mynd adref i Aberdâr a Derec i Gaerfyrddin.

Ond roedd rhywbeth wedi tanio yng Nglan-llyn oedd yn golygu bod y pedwar yn awyddus i barhau â'u cyfeillgarwch a'u dealltwriaeth cerddorol dros lythyrau a chardiau post, ac ambell alwad ffôn.

Y cam nesaf oedd meddwl am enw. Elgan feddyliodd am Hergest, enw sy'n deillio o'r hen lawysgrif hynafol, Llyfr Coch Hergest.

Ffynhonnell y llun, Coleg yr Iesu, Rhydychen
Disgrifiad o’r llun,
Llyfr Coch Hergest sy'n dyddio o 14eg ganrif

Eglura Elgan: "Ar y pryd ro'n i'n gweithio yn llyfrgell y brifysgol yn Aberystwyth ac ro'n i'n gyfrifol am y casgliad Cymraeg ac roedd yr enw Hergest yn sefyll allan.

"Ond rheswm arall dros yr enw Hergest oedd enwau'r grwpiau i gyd yn y cyfnod hynny. Roedd gen ti Y Tebot Piws, Y Deniadon Ynfyd, Y Chwyldro a doedden ni ddim isie cael enw gydag 'Y' o'i flaen e.

"Felly roedd Hergest yn enw oedd yn taro i'r dim; roedd yn enw bachog, alli di ddim rhoi 'Y' o'i flaen e."

Ffynhonnell y llun, Hergest
Disgrifiad o’r llun,
Hergest

Perfformio o ddifrif

Yng ngaeaf 1971, fe ddechreuodd Hergest berfformio yn ddeuoedd neu'n drioedd yn neuaddau Cymru, a chael gigiau o gwmpas sir Aberteifi dan drefniant Jac Jones, un o drefnwyr yr Urdd.

Ond yn Eisteddfod Genedlaethol Hwlffordd 1972 y dechreuodd pethau fynd o ddifrif i Hergest, fel mae Derec yn ei gofio:

"Yn ystod wythnos Eisteddfod Hwlffordd ro'n i'n whare mewn neuadd ysgol yn Abergwaun. Roedd Dafydd Iwan, Y Deniadon, Y Chwyldro, Tebot Piws a ni.

Ffynhonnell y llun, Y Tebot Piws
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Y Tebot Piws yn perfformio yn un o gigiau cyntaf Hergest. Roedd hi'n ddyddiau iach iawn i'r sîn gyda nifer o fandiau newydd, cyffrous

"Ar gyfer un gân oedd fi, Geraint ac Elgan ar y llwyfan gydag un microffon rhyngon ni a Delwyn ar y llawr, wrth y piano, a dim microffon. Ac un o ganeuon Delwyn oedd hi!"

Mae diffyg adnoddau yn neuaddau Cymru yn fyw yng nghof Delwyn hefyd:

"Doedd hynna ddim yn anghyffredin. Dwi'n cofio sawl noson wnaethon ni; doedd neuaddau Cymru ddim yn cynnwys pianos, yn enwedig y neuaddau cefn gwlad. A phan o'n i'n mynd i ganu oedd safon rhan fwya' o'r pianos yn erchyll.

"So yn slow fach stopes i whare'r piano a dechrau dysgu'r gitâr!"

Ffynhonnell y llun, Hergest

Y record gyntaf

Sŵn acwstig oedd i'r Hergest cynnar, pedwar llais a phedair gitâr (gyda Delwyn yn symud i'r piano yn achlysurol).

Yn Chwefror 1972 daeth Derec, Geraint ac Elgan at ei gilydd, yn absenoldeb Delwyn, i recordio caneuon er mwyn eu hanfon at label Sain. Eglura Elgan:

"Oedd e'n cymryd saith awr o Aberdâr i Aberystwyth felly wnaeth Delwyn ddim dod.

"Wnaeth y tri ohonon ni gwrdd yn fy nghartre i a recordio wyth cân fi'n credu. Cyfuniad o'r pethe oedd y tri ohonon ni wedi cyfansoddi ac anfon hwnnw wedyn at Sain; Huw Jones a Dafydd Iwan.

"Mis Gorffennaf '72 gawson ni lythyr oddi wrth Sain yn dweud bo' nhw wedi derbyn y tâp, wedi cael blas, sôn am y wahanol safon oedd i'r caneuon, a dylen ni benderfynu pwy fydden canu a dewis yn ddoeth; i beidio bod yn rhy ddemocrataidd a chael un cân yr un ar yr EP, ond mynd am y caneuon gorau.

"Ac wrth gwrs fel pedwar darpar superstar, wnaethon ni anwybyddu'r holl gyngor a dilyn ein trywydd ein hunain!"

Ffynhonnell y llun, Sain
Disgrifiad o’r llun,
Dafydd Iwan wrth y ddesg yn Sain

Ar yr EP gafodd ei rhyddhau gan Sain yn 1973 mae'r caneuon Dewch i'r Llysoedd (Geraint Davies), Cân Elgan (Elgan Ffylip), O'n Hamgylch (Delwyn Davies) a Nos Da i Chi Gymry (Derec Brown).

Ond hefyd yn offerynwyr ar yr EP cyntaf mae'r diweddar John Griffiths (bas) a'r diweddar Charli Britton (drymiau). Eglura Geraint:

"I ddangos ymhellach pa mor benderfynol o'n ni i dorri cwys ein hunen, mi oedd Sain ar y pryd yn defnyddio offerynwyr proffesiynol i lenwi'r sŵn; a'r drymiwr oedd gyda nhw ar nifer o recordiau'r cyfnod oedd bachan o'r enw Pick Withers, oedd yn recordio yn stiwdio Rockfield, ac a ddaeth yn enwog iawn.

"Wedon ni; 'Annwyl Huw a Dafydd, mae gyda ni ffrindie sydd 'run mor alluog o'r enw Charli Britton a John Griffiths, nhw 'y ni isie i chwarae gyda ni.'

Ffynhonnell y llun, Geraint Davies
Disgrifiad o’r llun,
Geraint Davies yn recordio gyda'r diweddar John Griffiths (chwith)

"Mae e'n dangos pa mor haerlllug o benderfynol o'n ni ond dwi'n credu bo' ni wedi profi pwynt achos ar y record gynta' 'na; dyna'r tro cynta i John recordio o gwbl, ac i John a Charli chwarae gyda'i gilydd.

"Fe wnaeth John a Charli ddipyn o farc fel deuawd offerynnol am flynyddoedd lawer ar ôl hynny."

Ffynhonnell y llun, Dei Tomos
Disgrifiad o’r llun,
Aelodau gwreiddiol Hergest heddiw: Geraint Davies, Derec Brown, Delwyn Siôn ac Elgan Ffylip

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau Cysylltiedig