Cwpan y Byd 2022: Cymru i herio Belarws yn Rwsia heb 13 chwaraewr
- Cyhoeddwyd
Rubin Colwill: Belarws, Estonia a phrofiad bod yn yr Ewros
Bydd Cymru heb 13 chwaraewr ar gyfer gêm ragbrofol Cwpan y Byd ddydd Sul yn erbyn Belarws yn Kazan, Rwsia.
Mae Aaron Ramsey a Kieffer Moore ymhlith saith chwaraewr i dynnu allan oherwydd anaf a Covid-19, tra bod tri arall yn absennol oherwydd materion fisa.
Roedd yr amddiffynwyr Connor Roberts a Ben Cabango eisoes wedi'u hanafu ac mae'r chwaraewr canol cae Harry Wilson wedi'i wahardd.
Bydd Cymru'n chwarae yn erbyn Estonia yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fercher mewn gêm gystadleuol arall.
Pwy sydd ar goll?
Pan enwodd Page ei garfan 28 dyn, dim ond Roberts a Cabango oedd ar goll o'r grŵp o 26 a ddewiswyd ar gyfer Euro 2020 yr haf hwn.
Ond yna tynnodd Ramsey, Joe Rodon, David Brooks, Neco Williams a George Thomas i gyd allan oherwydd anaf.
Tynnodd y golwr Adam Davies yn ôl yn ddiweddarach ar ôl profi'n bositif am coronafeirws, cyn i'r ymosodwr Moore gael ei nodi fel cyswllt agos.
Roedd Brandon Cooper ymhlith yr eilyddion a ddaeth i'r garfan ond, ynghyd ag Ethan Ampadu a Tyler Roberts, bydd yn colli'r gêm yn erbyn Belarws oherwydd materion fisa.
Cafodd yr ornest ei symud i Kazan yn Rwsia oherwydd na all timau o'r Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd fynd i mewn i Belarws mewn awyren oherwydd sancsiynau yn erbyn llywodraeth y wlad.
Dywed Cymdeithas Bêl-droed Cymru nad oedd Cooper, Ampadu a Roberts wedi gallu cael cymeradwyaeth fisa Rwsieg mewn pryd cyn teithio i'r Ffindir ar gyfer gêm gyfeillgar ddydd Mercher diwethaf.
Straeon perthnasol
- 31 Awst 2021