Apêl wedi gwrthdrawiad ar ffordd yr A465
- Cyhoeddwyd

Dywedodd plismyn fore Sul y gallai'r ffordd fod ar gau am gryn amser
Mae dyn yn cael triniaeth ysbyty wedi iddo gael ei daro gan gar rhwng Castell-nedd a Llandarsi yn ystod oriau mân fore Sul.
Dywed Heddlu'r De bod y gwrthdrawiad a oedd yn cynnwys car Ford Fiesta wedi digwydd ar ffordd yr A465 i gyfeiriad y de oddeutu 02.45.
Mae'r cerddwr yn cael triniaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.
Bu'r ffordd ar gau am beth amser fore Sul ond mae bellach ar agor.
Mae yna apêl i unrhyw un sydd a lluniau dash-cam i gysylltu â'r heddlu.