Pump ag anafiadau difrifol wedi gwrthdrawiad yng Ngwynedd

  • Cyhoeddwyd
A494Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A494 rhyw ddwy filltir i'r gogledd o Rydymain

Mae pump o bobl wedi dioddef anafiadau difrifol mewn gwrthdrawiad rhwng dau gar yng Ngwynedd.

Audi A3 gwyn a Volkswagen Tiguan gwyn fu'n rhan o'r gwrthdrawiad ar gyrion Dolgellau brynhawn Sul.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod wedi cael eu galw i'r digwyddiad ar yr A494 rhyw ddwy filltir i'r gogledd o Rydymain toc wedi 15:00.

Bu'r ffordd rhwng Dolgellau a'r Bala ynghau am nifer o oriau wrth i swyddogion yr heddlu ymchwilio i'r digwyddiad, ac maen nhw'n apelio ar unrhyw dystion i gysylltu â'r llu.

Pynciau Cysylltiedig