Adar hynod o brin yn dychwelyd i fawndir Eryri

  • Cyhoeddwyd
mawn

Mae "nifer syfrdanol" o adar mwyaf prin Cymru wedi dychwelyd yn sgil ymdrechion i frwydro'n erbyn newid hinsawdd a llifogydd yn Eryri.

Am y tro cyntaf ers degawdau, mae gylfinirod a chwtiaid euraidd wedi bod yn bridio ar ardal o orgors (blanket bog) sydd wedi'i hadfer gan ffermwyr lleol.

Mae Cymru yn gartref i 4% o gynefin gorgors y byd - tir sydd hefyd yn storio carbon deuocsid yn hynod o effeithiol.

Nawr mae cadwraethwyr eisiau rhaglen adfer fawr wedi'i hariannu yng Nghymru.

Dywed Llywodraeth Cymru bod adfer y mawndir i gyflwr da yn bwysig ac yn angenrheidiol i leddfu newid hinsawdd ac ailgyflwyno cynefinoedd adar a phlanhigion prin.

Dechreuodd y gwaith o drwsio mawndir diraddiedig ym Mlaen-y-Coed, fferm ucheldirol ger Ysbyty Ifan yn Sir Conwy, yn 2017.

Mae'n dod o fewn Ardal Gadwraeth Arbennig Migneint - ehangder enfawr o rostir yng nghanol Eryri.

Ffynhonnell y llun, Eleanor Bentall/RSPB
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r pyllau bellach wedi'u llenwi â phlanhigion cors arbenigol fel mwsog sphagnum

O dan ei wyneb sbyngaidd mae haenau dwfn o fawn du - wedi'u cronni dros filenia wrth i blanhigion bydru mewn amodau corsiog.

Mae'r tirweddau hyn bellach yn cael eu hystyried yn hanfodol yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd gan eu bod hyd yn oed yn well na fforestydd glaw ar gyfer amsugno carbon deuocsid o'r aer.

Ond mae'r mwyafrif mewn cyflwr gwael ar ôl cael eu draenio'n sych a'u difrodi yn y gorffennol er mwyn i'r mawn gael ei ddefnyddio fel tanwydd.

Mae'r teulu Ritchie, tenantiaid Blaen-y-Coed, wedi gweithio gydag RSPB Cymru a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i rwystro hen ffosydd draenio a rhigolau dwfn yn y mawn.

Fe wnaethon nhw greu argaeau bach a oedd yn caniatáu i byllau ffurfio fel y gallai'r tirwedd ddychwelyd i'w natur corsiog.

Ffynhonnell y llun, Andy Hay/RSPB
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r cwtiaid euraidd a'r gylfinir ymhlith yr adar sydd wedi dychwelyd

Bedair blynedd yn ddiweddarach mae pedwar pâr bridio o ylfinirod i'w canfod yno a dau bâr bridio o gwtiaid euraidd/chwilgyrn y mynydd - adar sydd o dan fygythiad difrifol ac na welwyd yn lleol ers y 1990au.

Mae'r safle'n fwrlwm hefyd o weision y neidr mawr, lliwgar, tra bod y pyllau wedi'u llenwi â phlanhigion cors arbenigol fel mwsog sphagnum, gweiriau cotwm a gwlith yr haul.

'Gwych clywed y gylfinir eto'

Dywedodd David Smith, uwch swyddog cadwraeth RSPB Cymru yn y gogledd, ei fod yn gobeithio y byddai Llywodraeth Cymru yn ystyried y prosiect fel enghraifft o'r math o waith y gellid ei ariannu yn y dyfodol trwy ailwampio'r drefn gymhorthdal ar gyfer ffermydd.

"Dyma enghraifft o sut y gallai arian cyhoeddus ar gyfer nwyddau cyhoeddus a chefnogaeth y wladwriaeth i amaethyddiaeth edrych," awgrymodd.

"Mae'n gwbl ganolog i'n hymdrechion i fynd i'r afael â newid hinsawdd a gellid gwneud llawer yn yr ucheldiroedd hyn - ond mae'n ymwneud â buddsoddiad a pholisi'r llywodraeth, blaenoriaethu'r ardaloedd hyn ac ymgorffori hynny yn y model amaethyddol yng nghefn gwlad Cymru yn y dyfodol."

Dywedodd Edward Ritchie fod y teulu'n falch fod y prosiect wedi eu helpu i ddarparu gwaith a oedd yn galw am beiriannau arbenigol, ac ychwanegodd ei bod wedi bod yn "wych clywed y gylfinir yn ôl ym Mlaen-y-Coed".

Yn ogystal â dal carbon deuocsid, bydd y tirwedd gwlyb hefyd yn helpu'r ardal i addasu i heriau cynhesu byd-eang gan gynnwys lleihau'r risg o danau gwyllt ac amsugno glaw trwm er mwyn osgoi llifogydd yn is i lawr y dyffryn.

Ffynhonnell y llun, RSPB
Disgrifiad o’r llun,
Dywed Deio Gruffydd o'r RSPB ei bod yn braf gweld llwyddiant y prosiect

"Be' 'da ni wedi gael ydi ymateb reit syfrdanol, o ran bywyd gwyllt. Mae wedi bownsio nôl i ryw raddau - dim ond pedair blynedd sydd wedi bod ers i ni gychwyn y prosiect," meddai Deio Gruffydd o RSPB Cymru.

"Mae'n braf iawn gweld yr esiampl yma yn llwyddo - mae'n ysbrydoledig."

Dywedodd Dewi Davies, sy'n rheoli Prosiect Uwch Conwy i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol fod yr ardal bellach yn darparu "cyfres gyfan o wasanaethau ecosystem hanfodol".

"Mae yna sawl peth da yn digwydd yn fan hyn, mae o'n ategu at y busnes ffarm, felly mae'n bwysig i'r economi a chymunedau lleol yn yr ystyr yna. Mae o'n cadw'r dŵr yn ôl yn hirach - felly mae'n help i lefydd lawr yn y dyffryn.

"Mae o'n cadw'r dŵr yn yr ucheldir yn hirach ac felly mae ar gael i fusnesau a chymunedau lawr yr afon wedyn. Ac yna mae ganddo chi bethau fel y gylfinir a chwtiaid aur, sydd yn amlwg wedi mwynhau be' 'da ni 'di 'neud i'r lle.

"'Da ni'n meddwl bod hwn yn esiampl wych o sut mae partneriaid yn medru cydweithio i ddod at y buddion yma.

"Mae pawb yn dweud yr un pethau ac yn gweld y buddion o'r gwaith yma. Ond mae'n fater o ddod a phob dim a phawb at ei gilydd ac ariannu."

Ymateb Llywodraeth Cymru

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae adfer y mawndir i gyflwr da yn bwysig ac yn angenrheidiol i leddfu newid hinsawdd ac ailgyflwyno cynefinoedd adar a phlanhigion prin ac ry'n ni'n gwerthfawrogi'r cyfle i ddysgu o brosiectau presennol er mwyn cynllunio cefnogaeth ar gyfer y dyfodol.

"Cafodd y rhaglen mawndir gyntaf ei lansio yn Nhachwedd 2020 ac mae'r gwaith sydd â chyllideb flynyddol o £1m yn cael ei wneud gan Gyfoeth Naturiol Cymru

"Mae'r rhaglen wedi adfer 30 hectar o fawndir ym Mlaen-y-Coed yn ystod gaeaf 2020/21 - mae hwn yn ychwanegol i'r gwaith sydd wedi cael ei wneud gan yr RSPB ac mae'n adeiladu ar y gwaith a wnaed gan Brosiect Mawndiroedd Cymru."