'Atal dirywiad byd natur yr un mor bwysig â'r hinsawdd'

  • Cyhoeddwyd
Wiwer goch

Mae atal y dirywiad mewn bywyd gwyllt a rhywogaethau planhigion yr un mor bwysig â mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, yn ôl pennaeth Cyfoeth Naturiol Cymru.

Dywedodd Clare Pillman bod natur mewn "argyfwng" a bod angen targedau newydd.

Mae pob un o'r pump o gyrff gwarchod amgylchedd y Deyrnas Unedig - gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru - wedi cyhoeddi adroddiad gydag awgrymiadau ar sut i ddatrys y broblem.

Maen nhw'n cynnwys cyfyngu ar y defnydd o wrtaith ar dir fferm a chreu cynefinoedd bywyd gwyllt newydd ar raddfa fawr.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn croesawu'r adroddiad, ac y byddai'n ystyried yr argymhellion er mwyn eu gweithredu.

Mewn cynhadledd diweddar gan y Cenhedloedd Unedig, ymrwymodd y DU i geisio atal colli bioamrywiaeth yn fyd-eang erbyn 2030.

Ond mae adroddiad newydd yn dweud bod angen gweithredu a chyllido sylweddol o fewn y ddwy neu dair blynedd nesaf os yw'r nod hwnnw i gael ei gyflawni.

"Nid yw hyn yn rhywbeth y gallwn ei anwybyddu, na'i wneud pan fydd yn haws," meddai Ms Pillman.

"Mae hwn yn argyfwng ac mae'n rhaid i ni weithredu fel rydyn ni wedi'i weld sy'n bosib wrth i ni fynd i'r afael â'r pandemig."

Byddai'r uchelgais i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr i sero net hefyd yn methu heb "atebion sy'n seiliedig ar natur" fel adfer mawnogydd a phlannu coetir newydd, rhybuddiodd.

Disgrifiad o’r llun,
Dylid neilltuo mwy o dir ar gyfer byd natur yn lle ffermio, meddai'r adroddiad

Mae cymaint ag un o bob chwe rhywogaeth mewn perygl o ddiflannu o Gymru yn ystod y degawdau nesaf yn ôl astudiaeth ddiweddar.

Mae mamaliaid fel y wiwer goch a llygod y dŵr, adar fel y gylfinir a phlanhigion fel tegeirian y ffen yn mynd yn fwy prin wrth iddyn nhw golli eu cynefin a chael eu heffeithio gan lygredd.

Angen cyflwyno targedau 'uchelgeisiol'

Mae'r adroddiad yn dweud bod angen cymell tirfeddianwyr i roi mwy o'u tir am natur, gyda ffermwyr yn cael eu talu am waith i warchod bywyd gwyllt.

Er bod y diwygiadau hyn eisoes ar y gweill, mae angen iddyn nhw ddigwydd yn gyflym, meddai.

Mae arbenigwyr yr amgylchedd hefyd am i dargedau adfer natur "uchelgeisiol" gael eu cyflwyno - yn debyg i'r rhai sydd wedi'u cynllunio i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd.

Mae'n rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn edrych arno.

Problem fawr arall yw'r lefel uchel o faetholion o dail fferm a gwrtaith sy'n newid amodau pridd ac afonydd.

Un syniad y mae'r adroddiad yn ei ddisgrifio fel "arbennig o addawol" yw gosod terfyn cyfreithiol ar faetholion, a chaniatáu i dirfeddianwyr ac eraill fasnachu eu lwfansau o fewn y terfyn.

Mae hefyd am i 30% o dir y DU gael ei warchod ar gyfer natur erbyn 2030, er bod elusennau amgylcheddol wedi dweud yn y gorffennol na fydd hyn yn mynd yn ddigon pell.

Mae grwpiau fel Ymddiriedolaeth Natur Cymru yn dweud mai "rheolaeth" yr ardaloedd yma sy'n bwysig.

Daeth i'r amlwg yn ddiweddar nad oedd bron i hanner y safleoedd a neilltuwyd ar gyfer cadwraeth natur yng Nghymru yn cael eu monitro oherwydd diffyg cyllid.

'Natur yn flaenoriaeth'

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn croesawu'r adroddiad, ac y byddai'n ystyried yr argymhellion er mwyn eu gweithredu.

Ychwanegodd llefarydd bod y llywodraeth wedi blaenoriaethu byd natur a'r amgylchedd wrth wneud penderfyniadau, gan gynnwys drwy rwydwaith o safleoedd wedi eu hamddiffyn a chyflwyno rheolau llygredd amaethyddol i wella safon dŵr Cymru.

Pynciau Cysylltiedig