Gêm Ragbrofol Cwpan y Byd Merched 2023: Estonia 0-1 Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae Cymru wedi ennill eu hail gêm yn olynol yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd Merched 2023 er gwaethaf noson rwystredig yn Estonia.
Roedd hi'n argoeli'n noson dda iawn unwaith eto i Gymru - a drechodd Kazhakstan 6-0 yn Llanelli nos Wener - pan sgoriodd Tash Harding wedi pum munud.
Rhwydodd asgellwr Reading ar ôl pas gelfydd gan Jessica Fishlock.
Ond fel yna arhosodd y sgôr tan ddiwedd y gêm drwy gyfuniad o amddiffyn cadarn Estonia a gwaith ymosodol gwastraffus gan yr ymwelwyr.
Er hynny, roedd rheolwr Cymru, Gemma Grainger yn fodlon gyda'r canlyniad, sy'n gadael Cymru yn ail safle'r grŵp wedi dwy gêm.