Caersws: Teyrnged i ddyn 34 oed fu farw mewn gwrthdrawiad

  • Cyhoeddwyd
gan Heddlu Dyfed PowysFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Thomas 'Winnie' Evans yn dod o Gaersws

Mae teulu dyn 34 oed a fu farw mewn gwrthdrawiad ffordd yn y canolbarth wedi rhoi teyrnged iddo.

Cafodd Thomas Wyn Evans - neu 'Winnie' - ei ladd ar y B4569 o Gaersws i Ffordd Trefeglwys nos Iau, 16 Medi.

"Mae'r teulu wedi eu difetha'n llwyr gan farwolaeth Thomas 'Winnie' Evans," meddai'r datganiad.

"Yn dad ymroddedig i'w fechgyn, yn bartner, mab, brawd ac ŵyr. Roedd ei deulu, ffrindiau a'r gymuned gyfan yn ei garu.

"Dyn gwirioneddol boblogaidd a weithiodd a chwaraeodd yn galed. Ffrind ffyddlon i gynifer. Roedd ganddo wên ar ei wyneb bob amser. Yn gyflym i helpu pryd bynnag yr oedd ei angen.

"Mae'r negeseuon a dderbyniwyd hyd yn hyn yn dyst i gymaint yr oedd cymaint yn ei hoffi a'i garu. Bydd colled fawr ar ei ôl."