Ymchwilio i farwolaeth 'sydyn' merch 14 oed yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
HeddluFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Heddlu De Cymru'n ymchwilio i "farwolaeth sydyn" merch 14 oed yng Nghaerdydd.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i gyfeiriad yn ardal Grangetown y ddinas fore Mercher.

Dywed y llu bod y farwolaeth yn cael ei thrin ar hyn o bryd fel un heb esboniad.

Mae'r crwner wedi cael gwybod am yr achos wrth i ymholiadau barhau.

Pynciau Cysylltiedig