Diolch am ddilyn y llif byw heno - mae'r drafodaeth wedi dod i ben. Cofiwch y bydd rhagor o ddadansoddi gwleidyddol ar wefan BBC Cymru Fyw yn ystod y dyddiau i ddod cyn diwrnod yr etholiad.
Nick Servini, Golygydd Gwleidyddol BBC Cymru ar Twitter yn dweud mae'r wladwriaeth les ydi'r prif destun trafod yn ystod y ddadl heno - ac honno ar y cyfan yn ddadl ychydig yn dawel.
Clymbleidio yn arwain at gecru
Stephen Crabb
Llawer o waith i berswadio pleidleiswyr i'w wneud - ond mân ffraeo y pleidiau eraill heno yn dangos sut bydd clymbleidio yn gweithio os na fydd llywodraeth Geidwadol yn cael ei hethol.
Pleidleisiwch i blaid lai
Pippa Bartolotti
Peidiwch â gwastraffu eich pleidlais, meddai Pippa Bartolotti.
Byddai pleidlais i blaid fechan fel y Gwyrddion yn yr etholiad yma yn cael mwy o effaith nac erioed o'r blaen, ychwanegodd.
Yr hen drefn wleidyddol wedi newid bellach
Nathan Gill
Gwleidyddiaeth yn newid er gwell yng Nghymru gyda mwy o bleidiau yn chwarae rhan. Nid oes gan y blaid Lafur hawl hanesyddol i bleidleisiau pobl Cymru.
Plaid eisiau clymblaid â Llafur
Leanne Wood
Mae gan Leanne Wood bryderon mawr am lywodraeth Geidwadol arall, ond byddai hi'n awyddus i gefnogi llywodraeth Lafur.
Mae hi'n gofyn i Owen Smith i siarad gyda Ed Miliband i dynnu ei eiriau yn ôl am beidio llywodraethu gyda Plaid Cymru.
Dem Rhydd yn y canol
Kirsty Williams
Ni fyddai'r Democratiaid Rhyddfrydol yn gweithio gyda'r Ceidwadwyr os ydyn nhw'n torri budd-daliadau, ond ddim chwaith am weithio gyda Llafur os ydyn nhw'n benthyg gormod ac yn peryglu'r economi.
Daw'r cwestiwn nesa' gan Kyran Kimberlee, sy'n gofyn: "Pam ddylwn i bleidleisio yn yr etholiad yma, os na fydd unrhyw blaid gyda mwyafrif ar ddiwedd yr etholiad?"
Y Torïaid gyda record o amddiffyn y GIG
Stephen Crabb
Y Ceidwadwyr wedi profi eu bod yn gallu amddiffyn cyllideb y gwasanaeth iechyd yn y gorffenol.
Llafur yn gaddo gwario
Owen Smith
Llafur yn dweud y gallen nhw dalu am £2.5bn i'r GIG, yn wahanol i'r pleidiau eraill sy'n gaddo ond yn methu sicrhau hynny. Hefyd yn dweud bod ei blaid wedi gwario yn hael ar y GIG yn y gorffennol ac y bydden nhw'n parhau i wneud hynny.
Treth ar ddiodydd melys
Leanne Wood
Byddai Plaid yn cyflwyno treth ar ddiodydd melys, fydd yn help i gyllid y wlad, a lleihau'r broblem gordewdra.
Gweithwyr yn gadael
Kirsty Williams
Mae angen gwneud mwy i wella'r GIG gan bod gweithwyr yn gadael i fynd i weithio mewn meysydd eraill.
Llafur yn cuddio ei beiau dros y GIG
Nathan Gill
Mewnfudwyr wedi cyfrannu yn fawr at y gwasanaeth iechyd, ond y blaid Lafur yn cuddio eu beiau am eu methiant dros redeg y gwasanaeth.
Yn ôl yr Athro Scully o Brifysgol Caerdydd mae Nathan Gill yn llai ymfflamychol yn ei ddadleuon am y gwasanaeth iechyd - gan beidio defnyddio mewnfudwyr fel cocyn hitio - yn wahanol i'w arweinydd.
Gwario mwy ar iechyd nac erioed
Owen Smith
Rydyn ni'n gwario mwy ar iechyd yng Nghymru nac erioed o'r blaen, ac mae llawer iawn o bobl yn fodlon iawn gyda'r gwasanaeth.
Owen Smith yn dweud nad yw'r gwasanaeth yno i'w breifateiddio, ac mae angen cofio am ei wreiddiau.
Iechyd yn brif destun siarad yr ymgyrch
Stephen Crabb
Y GIG yng Nghymru yn wynebu sialensiau a dyma'r brif destun siarad ar stepen y drws yn ystod yr ymgyrch. Gwaith ardderchog yn y gwasanaeth yn ddyddiol ond problemau yn codi yn rhannol o achos penderfyniadau gan Lywodraeth Cymru. Llafur ddim yn ymrwymo i wario mwy ar y gwsanaeth.
Iechyd: Heriau mawr
Kirsty Williams
Mae heriau mawr wrth gynnal y GIG, ond mae angen tynnu'r gwleidyddiaeth a'r ffraeo allan o reoli'r Gwasanaeth Iechyd. Kirsty Williams eisiau gweld mwy o drafod i sicrhau'r hyn y mae'r gwasanaeth ei wir angen.
Bygythiad y sector breifat i'r GIG
Leanne Wood
Mae dyfodol y GIG yn wynebu nifer o fygythiadau, yn enwedig gan y sector breifat, medd Leanne Wood.
Angen buddsoddi yn y GIG
Nathan Gill
Llywodraeth Cymru wedi gwneud smonach o'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru - ac UKIP yn mynd i fuddsoddi'n syth yn y gwasanaeth. Angen doctoriaid a nyrsys o Brydain ar gyfer y gwasanaeth yn hytrach na meddygon o'r trydydd byd.
Annog bywyd iach
Pippa Bartolotti
Fe fyddwn ni yn sicrhau bod y GIG yn cael ei ariannu yn gywir, meddai Pippa Bartolotti.
Byddai'r Gwyrddion yn annog pobl i fyw bywydau iach, i leihau'r pwysau ar y gwasanaeth.
Daw'r cwestiwn nesaf gan Kemi Nevins: "Mae nifer o'r penderfyniadau sy'n cael eu gwneud ynglŷn â'r Gwasanaeth Iechyd yn fesurau byrdymor sydd wedi eu dylunio i blesio'r cyhoedd. Beth fyddech chi yn ei wneud ar gyfer iechyd hirdymor y genedl?"
Y Ceidwadwyr am amddiffyn yn mwyaf bregus mewn cymdeithas - ac fe fydd y blaid yn arbed arian drwy gwtogi ar fewnfudwyr i'r wlad, ac yn amddiffyn buddiannau fel pensiynnau.
Mae'r Athro Scully o Brifysgol Caerdydd - sydd yn cynnig dadansoddiad o'r drafodaeth ar gyfer BBC Cymru heno - yn credu fod Pippa Bartolotti wedi dangos digon o angerdd wrth drafod effaith llymder ar fywydau merched a'r tlawd.
Y 'dreth ystafelloedd gwely' yn derm anghywir - ond roedd angen gwneud y newidiadau i'r gyfundrefn les. Mae'r polisi yn un anodd - ond y blaid Lafur oedd yn gyfrifol am gyflwyno'r syniad o'r fath dreth yn y lle cyntaf.
Problemau fel hyn yn digwydd yn rhy aml. Toriadau wedi effeithio'r rhai mwyaf bregus, fel y dreth 'stafell wely, ac fe fydd Llafur yn cael gwared ar y polisi os ydyn nhw mewn grym.
Bethany Tiencken sy'n gofyn yr ail gwestiwn: "Pe bai'n cael ei hethol, beth fyddai eich plaid yn ei wneud i gael system decach ar gyfer pobl anabl a'u gofalwyr?"
Pleidiau eraill wedi gwastraffu arian
Nathan Gill
£1.45 triliwn o ddyled gan y wlad erbyn hyn - gyda gwleidyddion eraill wedi gwastraffu arian dros y blynyddoedd.
Aelod o'r gynulleidfa yn dweud wrth Owen Smith fod ganddo bryderon mawr dros y ffordd y byddai Llafun yn delio gyda'r economi - gan greu ffrae gyntaf y noson rhwng Stephen Crabb a Mr Smith.
Y cwestiwn cyntaf ar yr economi - hyd yn hyn y pleidiau'n glynnu at eu negeseuon craidd - y Ceidwadwyr yn dadlau o blaid eu record; Llafur yn ymosod ar elfennau o'r toriadau a'r pleidiau gwrth-llymder yn galw am drefn newydd. Y Democratiaid Rhyddrfydol yn mynnu y gallen nhw gadw trefn ar y pleidiau mwy mewn Senedd Grog.
Yn ôl yr Athro Roger Scully o Brifysgol Caerdydd mae perfformiad agoriadol Owen Smith yn fwy hyderus wrth drafod yr economi nag oedd dadleuon Ed Miliband yn ystod y drafodaeth neithiwr.
Mae Stephen Crabb wedi cynnig amddiffyniad cryf o bolisiau economaidd y Ceidwadwyr.
Owen Smith yn dweud bod y Ceidwadwyr wedi gadael y wlad mewn sefyllfa wael ar ôl y llywodraeth ddiwethaf, ac yn dweud mai'r banciau oedd yn gyfrifol am y sefyllfa ariannol, nid Llafur.
Mae'r pum mlynedd diwethaf wedi bod yn anodd iawn, ond mae'r economi yn dechrau sefydlogi. Gallwn ni ddim peryglu'r gwaith yna drwy fenthyg gormod na thorri gormod. Kirsty Williams yn dweud mai ei phlaid hi sydd a'r cynllun gyda balans.
Byddai Plaid yn buddsoddi mewn creu mwy o swyddi, a dywedai hi mai dyma'r ffordd orau i wella'r economi, a rhoi diwedd ar lymder.
Angen gadael Ewrop a chwtogi ar nawdd tramor
Nathan Gill
Yn gofyn o ble fydd yr arian yn dod i wireddu addewidion gwleidyddion eraill? Y blaid yn gwybod yn union o ble bydd yr arian yn dod - gyda'r blaid am adael yr Undeb Ewropeaidd a thorri yn ol ar nawdd tramor.
Mae Pippa yn dweud bod mwy o bobl 'i fewn ac allan o waith', ac nad yw'r economi'n gweithio i bawb. Bydd y Blaid Werdd yn cefnogi cwmnïau 'gwyrdd', felly byddai cwmnïau sy'n anwybyddu'r amgylchedd yn talu mwy o dreth na chwmnïau sydd yn feddylgar ohono.
Cwestiwn allweddol, ond methu torri gwasanaethau a chael llwyddiant. Dyna mae'r Ceidwadwyr wedi ei wneud.
Owen Smith yn dweud bod llai o arian yn dod i mewn o drethi gan bod llai o bobl mewn swyddi da, felly'r ateb yw rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl, cyflogau uwch a dim cytundebau dim oriau, a gofyn i'r rhai mwyaf cyfoethog roi mwy o arian.
Dim ond y Ceidwadwyr all fynd i'r afael a phenderfyniadau anodd y dyfodol ac fe fyddai'n bechod gwyro oddi ar y llwybr gwleidyddol presenol wrth i economi Cymru dyfu.
Daw'r cwestiwn cyntaf gan Charles Rigby. Mae'n gofyn: "Sut mae hi'n bosib i wleidyddion addo mwy o doriadau ar wariant, tra hefyd yn addo twf yn yr economi a chyflogau?"
'Rydyn ni'n wyrdd ac yn falch', medd Pippa Bartolotti yn ei datganiad agoriadol. Mae hi'n dweud mai nhw sy'n cynrychioli Cymru orau.
Datganiad agoriadol UKIP
Nathan Gill
Mae Nathan Gill yn dweud mai dim ond UKIP sydd yn cynnig polisiau synnwyr cyffredin i bobl Cymru, ac mae'r blaid yn credu yng Nghymru, Prydain, a phobl Cymru.
Mae Leanne Wood yn croesawu'r ffaith bod Plaid wedi cael mwy o sylw na'r arfer yn yr etholiad yma. Pwy fydd yn brwydro galetaf am eich pleidlais? 'Plaid' yn ôl Leanne Wood.
Y Democratiaid Rhyddfrydol yn rhan ganolog o'r llywodraeth dros y bum mlynedd diwethaf yn ôl Kirsty Williams, ac mae hi'n gaddo adeiladu dyfodol llewyrchus i Gymru yn y llywodraeth nesaf.
Mae Huw Edwards wedi croesawu'r gynulleidfa a'r panel i'r drafodaeth - gan ddweud mai dyma'r cyfle olaf i glywed barn arweinwyr y pleidiau yng Nghymru ar yr un llwyfan cyn diwrnod yr etholiad ar 7 Mai.
Bydd pump o bynciau trafod dan sylw yn ystod y drafodaeth heno - yr economi, newidiadau i'r gyfundrefn les, iechyd, mewnfudo a'r Undeb Ewropeaidd.
Bydd pob panelydd yn cyflwyno eu safbwyntiau mewn gosodiad byr ar ddechrau'r drafodaeth, ac yna fe fydd cwestiynau yn cael eu gofyn gan aelodau o'r gynulleidfa.
Croeso i lif byw arbennig yn dilyn dadl etholiadol rhaglen The Wales Report ar BBC One Wales. Bydd y ddadl yn dechrau am 20:30.
Mae'r ddadl heno yn dod o Theatr y Sherman yng Nghaerdydd, a Huw Edwards sydd yn cadeirio'r drafodaeth. Y chwe gwleidydd fydd yn cymryd rhan yn y ddadl ydi Stephen Crabb ar ran y Ceidwadwyr, Owen Smith ar ran y Blaid Lafur, Pippa Bartolotti ar ran y Blaid Werdd, Leanne Wood o Blaid Cymru, Nathan Gill o UKIP a Kirsty Williams ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol.
Cofiwch y gallwch chi gysylltu gyda ni hefo'ch barn ar y ddadl trwy drydar @BBCCymruFyw neu e-bostio cymrufyw@bbc.co.uk.
Y diweddaraf yn fyw
Mae pob amser yn lleol i'r DU
Cyfrannu
Diwedd y drafodaeth
Etholiad 2015
Diolch am ddilyn y llif byw heno - mae'r drafodaeth wedi dod i ben. Cofiwch y bydd rhagor o ddadansoddi gwleidyddol ar wefan BBC Cymru Fyw yn ystod y dyddiau i ddod cyn diwrnod yr etholiad.
Y wladwriaeth les yn hawlio sylw
Etholiad 2015
Nick Servini, Golygydd Gwleidyddol BBC Cymru ar Twitter yn dweud mae'r wladwriaeth les ydi'r prif destun trafod yn ystod y ddadl heno - ac honno ar y cyfan yn ddadl ychydig yn dawel.
Clymbleidio yn arwain at gecru
Stephen Crabb
Llawer o waith i berswadio pleidleiswyr i'w wneud - ond mân ffraeo y pleidiau eraill heno yn dangos sut bydd clymbleidio yn gweithio os na fydd llywodraeth Geidwadol yn cael ei hethol.
Pleidleisiwch i blaid lai
Pippa Bartolotti
Peidiwch â gwastraffu eich pleidlais, meddai Pippa Bartolotti.
Byddai pleidlais i blaid fechan fel y Gwyrddion yn yr etholiad yma yn cael mwy o effaith nac erioed o'r blaen, ychwanegodd.
Yr hen drefn wleidyddol wedi newid bellach
Nathan Gill
Gwleidyddiaeth yn newid er gwell yng Nghymru gyda mwy o bleidiau yn chwarae rhan. Nid oes gan y blaid Lafur hawl hanesyddol i bleidleisiau pobl Cymru.
Plaid eisiau clymblaid â Llafur
Leanne Wood
Mae gan Leanne Wood bryderon mawr am lywodraeth Geidwadol arall, ond byddai hi'n awyddus i gefnogi llywodraeth Lafur.
Mae hi'n gofyn i Owen Smith i siarad gyda Ed Miliband i dynnu ei eiriau yn ôl am beidio llywodraethu gyda Plaid Cymru.
Dem Rhydd yn y canol
Kirsty Williams
Ni fyddai'r Democratiaid Rhyddfrydol yn gweithio gyda'r Ceidwadwyr os ydyn nhw'n torri budd-daliadau, ond ddim chwaith am weithio gyda Llafur os ydyn nhw'n benthyg gormod ac yn peryglu'r economi.
Cwestiwn gan y gynulleidfa
Etholiad 2015
Daw'r cwestiwn nesa' gan Kyran Kimberlee, sy'n gofyn: "Pam ddylwn i bleidleisio yn yr etholiad yma, os na fydd unrhyw blaid gyda mwyafrif ar ddiwedd yr etholiad?"
Y Torïaid gyda record o amddiffyn y GIG
Stephen Crabb
Y Ceidwadwyr wedi profi eu bod yn gallu amddiffyn cyllideb y gwasanaeth iechyd yn y gorffenol.
Llafur yn gaddo gwario
Owen Smith
Llafur yn dweud y gallen nhw dalu am £2.5bn i'r GIG, yn wahanol i'r pleidiau eraill sy'n gaddo ond yn methu sicrhau hynny. Hefyd yn dweud bod ei blaid wedi gwario yn hael ar y GIG yn y gorffennol ac y bydden nhw'n parhau i wneud hynny.
Treth ar ddiodydd melys
Leanne Wood
Byddai Plaid yn cyflwyno treth ar ddiodydd melys, fydd yn help i gyllid y wlad, a lleihau'r broblem gordewdra.
Gweithwyr yn gadael
Kirsty Williams
Mae angen gwneud mwy i wella'r GIG gan bod gweithwyr yn gadael i fynd i weithio mewn meysydd eraill.
Llafur yn cuddio ei beiau dros y GIG
Nathan Gill
Mewnfudwyr wedi cyfrannu yn fawr at y gwasanaeth iechyd, ond y blaid Lafur yn cuddio eu beiau am eu methiant dros redeg y gwasanaeth.
Dadansoddiad yr Athro Roger Scully
Etholiad 2015
Yn ôl yr Athro Scully o Brifysgol Caerdydd mae Nathan Gill yn llai ymfflamychol yn ei ddadleuon am y gwasanaeth iechyd - gan beidio defnyddio mewnfudwyr fel cocyn hitio - yn wahanol i'w arweinydd.
Gwario mwy ar iechyd nac erioed
Owen Smith
Rydyn ni'n gwario mwy ar iechyd yng Nghymru nac erioed o'r blaen, ac mae llawer iawn o bobl yn fodlon iawn gyda'r gwasanaeth.
Owen Smith yn dweud nad yw'r gwasanaeth yno i'w breifateiddio, ac mae angen cofio am ei wreiddiau.
Iechyd yn brif destun siarad yr ymgyrch
Stephen Crabb
Y GIG yng Nghymru yn wynebu sialensiau a dyma'r brif destun siarad ar stepen y drws yn ystod yr ymgyrch. Gwaith ardderchog yn y gwasanaeth yn ddyddiol ond problemau yn codi yn rhannol o achos penderfyniadau gan Lywodraeth Cymru. Llafur ddim yn ymrwymo i wario mwy ar y gwsanaeth.
Iechyd: Heriau mawr
Kirsty Williams
Mae heriau mawr wrth gynnal y GIG, ond mae angen tynnu'r gwleidyddiaeth a'r ffraeo allan o reoli'r Gwasanaeth Iechyd. Kirsty Williams eisiau gweld mwy o drafod i sicrhau'r hyn y mae'r gwasanaeth ei wir angen.
Bygythiad y sector breifat i'r GIG
Leanne Wood
Mae dyfodol y GIG yn wynebu nifer o fygythiadau, yn enwedig gan y sector breifat, medd Leanne Wood.
Angen buddsoddi yn y GIG
Nathan Gill
Llywodraeth Cymru wedi gwneud smonach o'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru - ac UKIP yn mynd i fuddsoddi'n syth yn y gwasanaeth. Angen doctoriaid a nyrsys o Brydain ar gyfer y gwasanaeth yn hytrach na meddygon o'r trydydd byd.
Annog bywyd iach
Pippa Bartolotti
Fe fyddwn ni yn sicrhau bod y GIG yn cael ei ariannu yn gywir, meddai Pippa Bartolotti.
Byddai'r Gwyrddion yn annog pobl i fyw bywydau iach, i leihau'r pwysau ar y gwasanaeth.
Cwestiwn gan y gynulleidfa
Etholiad 2015
Daw'r cwestiwn nesaf gan Kemi Nevins: "Mae nifer o'r penderfyniadau sy'n cael eu gwneud ynglŷn â'r Gwasanaeth Iechyd yn fesurau byrdymor sydd wedi eu dylunio i blesio'r cyhoedd. Beth fyddech chi yn ei wneud ar gyfer iechyd hirdymor y genedl?"
Amddiffyn y bregus
Stephen Crabb
Y Ceidwadwyr am amddiffyn yn mwyaf bregus mewn cymdeithas - ac fe fydd y blaid yn arbed arian drwy gwtogi ar fewnfudwyr i'r wlad, ac yn amddiffyn buddiannau fel pensiynnau.
Dim toriadau i fudd-dal pobl anabl
Owen Smith
Fe fyddwn ni ddim yn torri budd-dal pobl anabl, medd Owen Smith.
Mae'r ffaith mai pobl anabl gafodd eu taro waethaf gan 'dreth ystafell wely' yn gywilydd, ychwanegodd.
Dim toriadau cyllideb lles
Kirsty Williams
Ni fyddai'r Dem Rhydd yn torri lwfansau pobl anabl na gofalwyr, ac ni fyddai'r blaid yn cefnogi cynllun i dorri'r gyllideb les fel y Ceidwadwyr.
Cosbi pobl dlotaf cymdeithas
Pippa Bartolotti
Roedd y 'dreth ystafell wely' yn gynllun penodol i gosbi'r rhai tlotaf yn y gymdeithas, meddai Pippa Bartolorri.
Cynyddun lwfans gofalwyr
Nathan Gill
Angen cynyddu lwfans gofalwyr yn un ateb i'r hyn y byddai ei blaid yn ei gynyddu, yn hytrach na'i dorri.
Codi'r lleiafswm cyflog
Leanne Wood
Fe fyddai Plaid yn codi'r lleiafswm cyflog i'r cyflog byw, meddai Leanne Wood.
Dadansoddiad yr Athro Roger Scully
Etholiad 2015
Mae'r Athro Scully o Brifysgol Caerdydd - sydd yn cynnig dadansoddiad o'r drafodaeth ar gyfer BBC Cymru heno - yn credu fod Pippa Bartolotti wedi dangos digon o angerdd wrth drafod effaith llymder ar fywydau merched a'r tlawd.
Amddiffyn gwariant Llafur
Owen Smith
Y llywodraeth Lafur diwethaf wedi gwario arian yn ddoeth ar addysg ac iechyd, wedi'r toriadau gan lywodraeth Geidwadol.
Gwario yn y mannau anghywir
Leanne Wood
Mae'r llywodraeth wedi gwario 10 gwaith yn fwy ar erlyn pobl sy'n twyllo'r system budd-dal nac ar bobl sy'n osgoi treth, medd Leane Wood.
Roedd angen newid y gyfundrefn les
Stephen Crabb
Y 'dreth ystafelloedd gwely' yn derm anghywir - ond roedd angen gwneud y newidiadau i'r gyfundrefn les. Mae'r polisi yn un anodd - ond y blaid Lafur oedd yn gyfrifol am gyflwyno'r syniad o'r fath dreth yn y lle cyntaf.
Angen newid
Kirsty Williams
Angen newid y dull o asesu anableddau, a delio gyda'r nifer fawr o geisiadau sydd heb eu prosesu.
Diwygio wedi mynd yn rhy bell
Leanne Wood
Mae diwygio'r wladwriaeth les wedi mynd yn rhy bell, yn ôl Leanne Wood.
Os dyw San Steffan ddim yn diogelu'r system ar gyfer Cymru, mae'n rhaid i ni wneud hynny ein hunan, meddai.
Cyflog teg i ofalwyr
Nathan Gill
Angen rhoi cyflog teg i ofalwyr a dod ag asesiadau iechyd yr anabl fel ag y maent i ben - gan roi'r dasg o asesu unigolion yn nwylo doctoriaid.
Y ddadl yn dechrau tanio
Etholiad 2015
Mae gohebydd seneddol BBC Cymru David Cornock ar Twitter yn dweud fod y ddadl yn dod yn fyw pan mae'r gwleidyddion yn herio eu gilydd.
Meddygon, dim gweision sifil
Pippa Bartolotti
Meddygon ddylai fod yn asesu anableddau, meddai Pippa Bartolotti, dim gweision sifil.
Diwedd ar y dreth 'stafell wely
Owen Smith
Problemau fel hyn yn digwydd yn rhy aml. Toriadau wedi effeithio'r rhai mwyaf bregus, fel y dreth 'stafell wely, ac fe fydd Llafur yn cael gwared ar y polisi os ydyn nhw mewn grym.
Cael gwared ar y bwlch mewn tâl
Pippa Bartolotti
Byddai'r Gwyrddion yn gorfodi cwmniau i gyhoeddi tâl eu gweithwyr, i geisio sicrhau y byddai'r bwlch tâl rhwng dynion a merched yn diflannu.
Cwestiwn gan y gynulleidfa
Etholiad 2015
Bethany Tiencken sy'n gofyn yr ail gwestiwn: "Pe bai'n cael ei hethol, beth fyddai eich plaid yn ei wneud i gael system decach ar gyfer pobl anabl a'u gofalwyr?"
Pleidiau eraill wedi gwastraffu arian
Nathan Gill
£1.45 triliwn o ddyled gan y wlad erbyn hyn - gyda gwleidyddion eraill wedi gwastraffu arian dros y blynyddoedd.
Synhwyrol i wrthod clymblaid?
Leanne Wood
Mae Leanne Wood yn gofyn i Owen Smith os oedd hi'n beth synhwyrol i Ed Miliband wrthod creu clymblaid gyda Plaid yn ddiweddar?
Mwy yn defnyddio banciau bwyd
Owen Smith
Bron 80,000 ychwanegol yn defnyddio banciau bwyd dan y Ceidwadwyr, beio polisïau'r Ceidwadwyr ar yr economi.
Dweud y bydd Llafur yn cynrychioli merched a phobl anabl os ydyn nhw mewn grym.
Dadansoddiad Tomos Livingstone, BBC Cymru
Etholiad 2015
Y gynulleidfa'n twymo ychydig a dechrau rhoi'r panelwyr dan bwysau.
Mwy o swyddi llawn amser yng Nghymru
Stephen Crabb
Mwyafrif o swyddi yn rhai llawn amser ers 2010 medd Mr Crabb - ac mae'r economi yng Nghymru'n cryfhau gyda safon bywyd yn codi.
Yr economi'n sbardun i ddadl
Etholiad 2015
Aelod o'r gynulleidfa yn dweud wrth Owen Smith fod ganddo bryderon mawr dros y ffordd y byddai Llafun yn delio gyda'r economi - gan greu ffrae gyntaf y noson rhwng Stephen Crabb a Mr Smith.
Dadansoddiad Tomos Livingstone, BBC Cymru
Etholiad 2015
Y cwestiwn cyntaf ar yr economi - hyd yn hyn y pleidiau'n glynnu at eu negeseuon craidd - y Ceidwadwyr yn dadlau o blaid eu record; Llafur yn ymosod ar elfennau o'r toriadau a'r pleidiau gwrth-llymder yn galw am drefn newydd. Y Democratiaid Rhyddrfydol yn mynnu y gallen nhw gadw trefn ar y pleidiau mwy mewn Senedd Grog.
Penderfyniadau anodd
Kirsty Williams
Kirsty Williams yn dweud bod 'penderfyniadau anodd' wedi eu gwneud sydd wedi effeithio ar fenywod. Ond roedd y penderfyniadau yn 'realistig'.
Dadansoddiad yr Athro Roger Scully
Etholiad 2015
Yn ôl yr Athro Roger Scully o Brifysgol Caerdydd mae perfformiad agoriadol Owen Smith yn fwy hyderus wrth drafod yr economi nag oedd dadleuon Ed Miliband yn ystod y drafodaeth neithiwr.
Mae Stephen Crabb wedi cynnig amddiffyniad cryf o bolisiau economaidd y Ceidwadwyr.
Smith yn amddiffyn ei blaid
Owen Smith
Owen Smith yn dweud bod y Ceidwadwyr wedi gadael y wlad mewn sefyllfa wael ar ôl y llywodraeth ddiwethaf, ac yn dweud mai'r banciau oedd yn gyfrifol am y sefyllfa ariannol, nid Llafur.
Angen balans
Kirsty Williams
Mae'r pum mlynedd diwethaf wedi bod yn anodd iawn, ond mae'r economi yn dechrau sefydlogi. Gallwn ni ddim peryglu'r gwaith yna drwy fenthyg gormod na thorri gormod. Kirsty Williams yn dweud mai ei phlaid hi sydd a'r cynllun gyda balans.
Buddsoddi mewn creu swyddi
Leanne Wood
Byddai Plaid yn buddsoddi mewn creu mwy o swyddi, a dywedai hi mai dyma'r ffordd orau i wella'r economi, a rhoi diwedd ar lymder.
Angen gadael Ewrop a chwtogi ar nawdd tramor
Nathan Gill
Yn gofyn o ble fydd yr arian yn dod i wireddu addewidion gwleidyddion eraill? Y blaid yn gwybod yn union o ble bydd yr arian yn dod - gyda'r blaid am adael yr Undeb Ewropeaidd a thorri yn ol ar nawdd tramor.
Cefnogi cwmnïau 'gwyrdd'
Pippa Bartolotti
Mae Pippa yn dweud bod mwy o bobl 'i fewn ac allan o waith', ac nad yw'r economi'n gweithio i bawb. Bydd y Blaid Werdd yn cefnogi cwmnïau 'gwyrdd', felly byddai cwmnïau sy'n anwybyddu'r amgylchedd yn talu mwy o dreth na chwmnïau sydd yn feddylgar ohono.
Mwy o arian ym mhocedi pobl
Owen Smith
Cwestiwn allweddol, ond methu torri gwasanaethau a chael llwyddiant. Dyna mae'r Ceidwadwyr wedi ei wneud.
Owen Smith yn dweud bod llai o arian yn dod i mewn o drethi gan bod llai o bobl mewn swyddi da, felly'r ateb yw rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl, cyflogau uwch a dim cytundebau dim oriau, a gofyn i'r rhai mwyaf cyfoethog roi mwy o arian.
Taclo'r ddyled yn creu twf economaidd
Stephen Crabb
Penderfyniadau anodd wedi eu gwneud i fynd i'r afael a dyled y wlad - sydd wedi arwain at dwf economaidd medd Stephen Crabb.
Angen cadw at y llwybr economaidd presenol
Stephen Crabb
Dim ond y Ceidwadwyr all fynd i'r afael a phenderfyniadau anodd y dyfodol ac fe fyddai'n bechod gwyro oddi ar y llwybr gwleidyddol presenol wrth i economi Cymru dyfu.
Cwestiwn gan y gynulleidfa
Etholiad 2015
Daw'r cwestiwn cyntaf gan Charles Rigby. Mae'n gofyn: "Sut mae hi'n bosib i wleidyddion addo mwy o doriadau ar wariant, tra hefyd yn addo twf yn yr economi a chyflogau?"
Dim tegwch?
Owen Smith
Dweud ei fod wedi cael yr un cwestiwn ar draws Cymru, 'Pam nad oes tegwch i bobl sy'n gweithio?'
Mae Llafur am newid hynny, a bydd y blaid yn sicrhau Prydain a Chymru gryfach a thecach.
'Gwyrdd a balch'
Pippa Bartolotti
'Rydyn ni'n wyrdd ac yn falch', medd Pippa Bartolotti yn ei datganiad agoriadol. Mae hi'n dweud mai nhw sy'n cynrychioli Cymru orau.
Datganiad agoriadol UKIP
Nathan Gill
Mae Nathan Gill yn dweud mai dim ond UKIP sydd yn cynnig polisiau synnwyr cyffredin i bobl Cymru, ac mae'r blaid yn credu yng Nghymru, Prydain, a phobl Cymru.
'Plaid fydd yn brwydro'
Leanne Wood
Mae Leanne Wood yn croesawu'r ffaith bod Plaid wedi cael mwy o sylw na'r arfer yn yr etholiad yma. Pwy fydd yn brwydro galetaf am eich pleidlais? 'Plaid' yn ôl Leanne Wood.
Dyfodol llewyrchus i Gymru
Kirsty Williams
Y Democratiaid Rhyddfrydol yn rhan ganolog o'r llywodraeth dros y bum mlynedd diwethaf yn ôl Kirsty Williams, ac mae hi'n gaddo adeiladu dyfodol llewyrchus i Gymru yn y llywodraeth nesaf.
Datganiadau agoriadol
Etholiad 2015
Y datganiadau agoriadol sy'n dod gyntaf.
Y cyflwynydd yn estyn croeso
Huw Edwards
Cyflwynydd
Mae Huw Edwards wedi croesawu'r gynulleidfa a'r panel i'r drafodaeth - gan ddweud mai dyma'r cyfle olaf i glywed barn arweinwyr y pleidiau yng Nghymru ar yr un llwyfan cyn diwrnod yr etholiad ar 7 Mai.
Y pynciau trafod
Etholiad 2015
Bydd pump o bynciau trafod dan sylw yn ystod y drafodaeth heno - yr economi, newidiadau i'r gyfundrefn les, iechyd, mewnfudo a'r Undeb Ewropeaidd.
Bydd pob panelydd yn cyflwyno eu safbwyntiau mewn gosodiad byr ar ddechrau'r drafodaeth, ac yna fe fydd cwestiynau yn cael eu gofyn gan aelodau o'r gynulleidfa.
Croeso i lif byw dadl etholiadol The Wales Report

Post update