Diolch i bawb fu'n darllen a gwrando ar ein llif byw dros nos.
Fe fyddwn ni'n eich gadael chi nawr, ond fe fydd ein llif byw dyddiol arferol yn dychwelyd am 08:00 gyda llawer mwy o ddadansoddi a newyddion am hynt a helynt y pleidiau wedi'r noson fawr.
Hwyl am y tro.
Post update
OLYNYDD NICK CLEGG?
Vaughan Roderick
Golygydd Materion Cymreig y BBC
"Dwi'n meddwl y bydd Nick Clegg yn mynd yn sydyn iawn, a dwi'n meddwl alle ni fod yn sicr mai Tim Farron fydd yn cymryd ei le fe, dwi'n meddwl bod Llafur yn fwy diddorol. Oherwydd dwi'n meddwl bod yna pwysau o fewn y blaid Lafur oherwydd y chwalfa yma i chwilio am rywyn yn y cenhedlaeth nesa. Rhywyn heb unrhyw fath o gysylltiad gyda llywodraethau Tony Blair a Gordon Brown...."
Mae gohebydd gwleidyddol BBC Cymru James Williams wedi trydar llun o'r olygfa a'i flaen yn Llundain cyn iddo ddarlledu'n fyw ar raglen Etholiad 2015 y bore 'ma.
Dyma'r olygfa fydd yn wynebu aelodau seneddol hen a newydd yn dilyn yr holl ymgyrchu dros yr wythnosau diwethaf.
BBCCopyright: BBC
Post update
SÊL CIST CAR - NEU'R DECHNOLEG DDIWEDDARAF?
BBC Radio Cymru
Mae BBC Radio Cymru wedi trydar llun o'r cyfarpar fydd Gethin Morris Williams yn ei ddefnyddio i ddarlledu o gefn cist car ar gyfer y Post Cyntaf o Fangor.
Wrth siarad ar raglen Etholiad 2015 ar S4C, mae Aelod Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol Aled Roberts wedi dwedu fod ei blaid yn ôl yn yr un sefyllfa ag yr oedd yn y 70au, ac mae llawer o waith i'w wneud.
Ac o son am y Cynulliad bydd angen dau aelod newydd ym Mae Caerdydd gan fod dau AC presennol wedi ennill seddi yn San Steffan - Byron Davies yn cipio Gŵyr oddi ar Lafur ac Antoinette Sandbach yn ennill yn Eddisbury. Mae disgwyl i'r ddau aelod Ceidwadol ildio'u seddi yn y Cynulliad.
Post update
ETHOLIAD Y CYNULLIAD YN GYFLE I AIL-ADEILADU
BBC Radio Wales
Mae'r Farwnes Randerson o'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi dweud wrth BBC Radio Wales na fydd ei phlaid yn gallu ail-adeiladu dros nos yn dilyn canlyniadau siomedig - ac mai etholiad y Cynulliad yn 2016 fydd y cyfle cyntaf i ail-afael yn y gwaith.
"Cofio 1992 - lot o bobl lawer mwy parod i bleidleisio i'r Ceidwadwyr nac oedd yn fodlon datgan eu cefnogaeth i'r glas - neu'n gyndyn i gefnogi arweinydd Llafur amheus."
Mae'r ddau berson oedd yn bennaf gyfrifol am y trafodaethau clymbleidio gyda'r Ceidwadwyr yn 2010 - Danny Alexander a David Laws - wedi colli eu seddi yn yr etholiad.
Mae'r Athro Roger Scully wedi bod yn dadansoddi'r data - ac yn cymharu'r canlyniadau gyda chanlyniadau hanesyddol y pleidiau yng Nghymru.
"Mae'r Ceidwadwyr wedi cael eu cyfran uchaf o'r bleidlais yng Nghymru ers 1992, gyda'r nifer fwyaf o seddi ers 1983, ac ail berfformiad gorau'r blaid ers 1935.
"Dyma ail berfformiad gwaethaf y blaid Lafur ers 1918 - a'r nifer isaf o seddi yng Nghymru ers 1987 (pan oedd dim ond 38 sedd mewn bodolaeth).
"Dyma oedd canran isaf y bleidlais i'r Democratiaid Rhyddfrydol / Rhyddfrydwyr ers 1966.
"I Blaid Cymru fe gawson nhw eu trydydd cyfran uchaf erioed mewn etholaeth cyffredinol (ar ôl 14.3% yn 2001 a 12.6% yn 2005).
"Ac wrth gwrs fe gafodd UKIP eu canlyniad gorau erioed yng Nghymru mewn etholiad cyffredinol."
Post update
CARREG FILLTIR ARALL I'R SNP
Mae'r Athro Roger Scully o Ganolfan Llywodraethiant Cymru wedi trydar ei bod yn ymddangos y bydd yr SNP yn sicrhau dros 50% o'r bleidlais yn yr Alban - y tro cyntaf i unrhyw blaid wneud hynny ers i'r Ceidwadwyr/Unoliaethwyr wneud hynny yn 1955.
"Does bosib bod unrhywun wedi rhagweld y fath ganlyniad! Y Ceidwadwyr yn fuddugol yn Lloegr a Chymru (dyma berfformiad gorau'r blaid yma ers 1983), a chwyldro'r SNP yn yr Alban.
"Dwy stori wahanol sy'n gysylltiedig oherwydd methiant y blaid Lafur. Fel mae'n edrych ar hyn o bryd, fe fydd Ed Miliband yn ennill llai o seddi i Lafur na wnaeth Gordon Brown yn 2010!
"A beth am y Democratiaid Rhyddfrydol? Mae'n debyg bod clymbleidio gyda'r Ceidwadwyr wedi bod yn weithred gostus iddyn nhw: colli aelodau, colli cynghorwyr, colli ASau, a bron yn sicr o golli arweinydd.
"Mae gan David Cameron sawl opsiwn y bore yma o ran sut y bydd e'n dewis llywodraethu. Ond beth bynnag ei ddewis, mae'n anochel y bydd o'n parhau fel prif weinidog."
Mae'n gohebydd Sian Elin Dafydd wedi anfon llun o'r wawr yn torri yn San Steffan y bore 'ma - ond tybed yw'r haul yn machlud i fwy nag un o arweinwyr y pleidiau?
BBCCopyright: BBC
Post update
CYHOEDDUSRWYDD I LEANNE WOOD HEB WNEUD GWAHANIAETH
Yn ôl y sylwebydd gwleidyddol Gareth Hughes, tydi sefyllfa Plaid Cymru yn y cymoedd ddim mor gryf ag yr oedd. Ydi'r blaid wedi dal eu tir? Tydyn nhw ddim wedi ennill tir er bod pawb yn son am y cyhoeddusrwydd yr oedd Leanne Wood wedi ei gael yn ystod yr ymgyrch.
Post update
DYRNAID O 'DAVIESES'
Mae Glyn Davies, aelod seneddol Ceidwadol Maldwyn wedi trydar i ddweud y bydd pum aelod seneddol Ceidwadol yng Nghymru yn rhannu'r cyfenw 'Davies'.
"'Da chi yn gweld bod Plaid Cymru bellach yn cael ryw 2,000, 3,000 hyd yn oed, yn yr etholaethau gwan yna felly mae ganddyn nhw ryw fath o barchusrwydd yn perthyn iddyn nhw ym mhob rhan o Gymru - ond dwi ddim yn deall pam oedden nhw'n credu fod ganddyn nhw drafferth yn Arfon."
Post update
UKIP YN GWNEUD YN RHYFEDDOL, OND CWESTIWN AM FARAGE
"Dwi'n meddwl y bydd o'n debygol bydd UKIP drwch yn y blaen i Blaid Cymru fel y drydedd Blaid yng Nghymru.
"Maen nhw'n gwneud yn rhyfeddol fel plaid newydd. Mae yna ganlyniadau lle oedden nhw'n seithfed o'r blaen, mae'n nhw wedi saethu a neidio ymlaen. Ond, mae'n nhw'n ddibynnol dwi'n meddwl ar garisma a'r holl gyhoeddusrwydd o amgylch Farage, ac os ydi o ddim yn cipio sedd mae'n bosibiliad, sy'n bosibiliad go gry, yna mae 'na gwestiwn diddorol ynglŷn â beth fydd yn digwydd i blaid sydd efo un ffigwr arweinyddol cry iawn."
Mae cyn ymgeisydd am arweinyddiaeth y blaid Geidwadol David Davis wedi dweud fod na gyfle da y bydd ei blaid yn ennill mwyafrif erbyn diwedd y cyfrif.
Dywedodd fod na gyfle y gall y blaid gipio mwy na'r 326 sydd ei angen i gipio mwyafrif, ar ôl i bôl piniwn ar ddiwedd y pleidleisio awgrymu y byddai'r Ceidwadwyr yn ennill 316 o seddi.
"Does dim dwywaith taw Tim Farron fydd yn olynydd i Nick Clegg. Anodd gen i weld bod Ed Miliband yn gallu goresi canlyniad mor siomedig. Bosib iawn y gwelwn ni Nigel Farage yn mynd. Mae'n bosib mai Cameron, Sturgeon a Leanne Wood fydd yr unig arweinwyr a welwn ni ar ôl."
"Mae Nick Clegg yn mynd - does dim amheuaeth ei fod yn mynd. Mae wedi dal ei afael ar y sedd, ond mae ei blaid wedi taflu ei holl adnoddau i fewn i'r sedd - gan ei wneud yn anos mewn llefydd fel Brycheiniog a Maesyfed."
Yn ôl Alun Michael - cyn brif weinidog Cymru - mae "cymaint o bobl cryf iawn ymysg yr aelodau Llafur sydd wedi colli ei seddau" heno.
Post update
Y DIWEDDARAF O'R ALBAN
Iolo ap Dafydd
Gohebydd Amgylchedd BBC Cymru
Mae gohebydd BBC Cymru Iolo ap Dafydd wedi trydar o'r Alban i ddweud mai 57 sedd ydi'r cyfanswm y gall yr SNP ei ennill yn y wlad. Mae un sedd wedi ei hennill gan Lafur ac un arall gan y Democratiaid Rhyddfrydol ar hyn o bryd.
I weld nifer o uchafbwyntiau'r noson, cofiwch glicio ar y botwm "Prif Fideo" uchod - mae yna bentwr o fideos yno'n barod i chi ac mae mwy i ddod cyn y bore!
Post update
MESUR YR AROLYGON
Vaughan Roderick
Golygydd Materion Cymreig y BBC
"Yn wahanol i 1992 roedd yr arolygon yn unfryd y tro hwn - a'r arolygon yn dangos gogwydd tua'r blaid Lafur.
"Beth fydd y rhai sydd yn cynnal arolygon yn ei ddweud ydi mai 'snapshot' dyddiol yw'r arolygon - ond y cwestiwn ydi, oedd yr arolygon wedi camfesur? Mae'n anodd credu hynny - neu oedd na rhywbeth wedi digwydd ar y funud olaf?"
"Wrth edrych ar ble mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn dal i fod o ran seddi yn ddaearyddol, mae'n mynd i fod yn anodd iawn iawn ail-adeiladu plaid gydag aelodau mor anghymarus."
Mae 'Dicw' yn ôl, chwedl Vaughan Roderick, ac mae'r ddau yn gyfeillion mae'n amlwg. Meddai'r Athro Richard Wyn Jones:
"Mae hi wedi bod yn noson echrydus i'r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, ac mae son fod y blaid yn mynd i gael ei dileu o Dŷ'r Cyffredin. Ond sioc y noson yma yng Nghymru ydi'r Ceidwadwyr yn cipio Dyffryn Clwyd - a dim ond Vaughan Roderick wnaeth grybwyll hon fel sedd bosib i'r Ceidwadwyr."
Stephen Doughty sy'n dychwelyd i San Steffan ar ran Llafur.
Post update
GOGWYDD SYFRDANOL I'R SNP
Iolo ap Dafydd
Gohebydd Amgylchedd BBC Cymru
Yn ôl gohebydd BBC Cymru Iolo ap Dafydd, bellach mae 38 o seddi wedi eu hennill gan yr SNP yn yr Alban ac mae na newidiadau syfrdanol yn digwydd ar hyd y wlad. Mae'n debyg mai stori'r noson ydi nid cymaint faint mae'r SNP yn ennill y seddau - ond maint y gogwydd syfrdanol - 39% ydi'r mwyaf.
Yn ôl yr Athro Roger Scully o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, gyda 24 o'r 40 seddi Cymreig wedi eu cyhoeddi, mae neiwdiadau yng nghanran y bleidlais i'r pleidiau yn:
"Mae ambell i batrwm yn datblygu. Ry' ni'n gweld gwleidyddiaeth Cymru yn symud nol i hen batrwm. Yn ystod etholiadau cyffredinol ddiweddar mae Llafur wedi tan-berfformio yn ei chadarnleoedd a gor-berfformio yn ei seddi ymylol.
"Nawr, os y'n ni'n edrych ar y cymoedd mae'r mwyafrifoedd yn saethu nôl lan, Merthyr y mwyafrif nôl lan o ryw bedair mil i ryw 15,000 er enghraifft, ry' ni'n gweld yr un patrwm yn digwydd yn Nhorfaen, ond dyw'r pleidleisiau fel na mewn system cyntaf i'r felin o ddim werth i Lafur."
BACH IAWN O SYLFAEN AR ÔL I'R DEMOCRATIAID RHYDDFRYDOL
Vaughan Roderick
Golygydd Materion Cymreig y BBC
"Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol mewn un ffurf neu ei gilydd wedi cael cynrychiolaeth yng Nghymru ers 60au'r bedwaredd ganrif ar bymtheg - er i lawr i un Aelod Seneddol sawl tro. Bach iawn o'r sylfaen sydd ar ôl ac mae'r blaid wedi symud yn ôl ddegawdau yn dilyn yr etholiad yma."
Mae'r blaid Lafur wedi colli nifer o seddi - ac aelodau seneddol - blaenllaw yn yr Alban heno. Mae arweinydd y blaid yno, Jim Murphy wedi colli ei sedd i'r SNP, yn ogystal â hen sedd Gordon Brown yn mynd i ddwylo'r cenedlaetholwyr hefyd.
Fe gollodd Douglas Alexander ei sedd yn gynharach hefyd i'r SNP, ac mae'n ymddangos fod y rhagolygon o chwalfa i'r blaid yn yr Alban yn dod yn gywir.
Mae Llafur wedi cadw eu gafael ar sedd ddiogel Torfaen, gyda Nick Thomas-Symonds yn sicrhau 16,938 o bleidleisiau - hynny 0.1% yn llai nag yn 2010. Dyma ganlyniad yr etholaeth yn llawn.
Mae Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb yng nghyfrif etholaeth Preseli Penfro ar hyn o bryd, ac yn edrych yn dawel hyderus yn ôl gohebydd BBC Cymru Aled Scourfield.
Fe fydd ail gyfri yn etholaeth Dyffryn Clwyd gyda Llafur a'r Ceidwadwyr yn gwylio yn ofalus dros ben, medd ein gohebydd yno Gareth Bryer. Ychwanegodd bod y Ceidwadwyr yn edrych yn fwy hyderus.
Y diweddaraf yn fyw
Mae pob amser yn lleol i'r DU
Cyfrannu
Post update
HWYL AM Y TRO
Etholiad 2015
Diolch i bawb fu'n darllen a gwrando ar ein llif byw dros nos.
Fe fyddwn ni'n eich gadael chi nawr, ond fe fydd ein llif byw dyddiol arferol yn dychwelyd am 08:00 gyda llawer mwy o ddadansoddi a newyddion am hynt a helynt y pleidiau wedi'r noson fawr.
Hwyl am y tro.
Post update
OLYNYDD NICK CLEGG?
Vaughan Roderick
Golygydd Materion Cymreig y BBC
"Dwi'n meddwl y bydd Nick Clegg yn mynd yn sydyn iawn, a dwi'n meddwl alle ni fod yn sicr mai Tim Farron fydd yn cymryd ei le fe, dwi'n meddwl bod Llafur yn fwy diddorol. Oherwydd dwi'n meddwl bod yna pwysau o fewn y blaid Lafur oherwydd y chwalfa yma i chwilio am rywyn yn y cenhedlaeth nesa. Rhywyn heb unrhyw fath o gysylltiad gyda llywodraethau Tony Blair a Gordon Brown...."
Post update
GOLYGFA O SAN STEFFAN
Etholiad 2015
Mae gohebydd gwleidyddol BBC Cymru James Williams wedi trydar llun o'r olygfa a'i flaen yn Llundain cyn iddo ddarlledu'n fyw ar raglen Etholiad 2015 y bore 'ma.
Dyma'r olygfa fydd yn wynebu aelodau seneddol hen a newydd yn dilyn yr holl ymgyrchu dros yr wythnosau diwethaf.
Post update
SÊL CIST CAR - NEU'R DECHNOLEG DDIWEDDARAF?
BBC Radio Cymru
Mae BBC Radio Cymru wedi trydar llun o'r cyfarpar fydd Gethin Morris Williams yn ei ddefnyddio i ddarlledu o gefn cist car ar gyfer y Post Cyntaf o Fangor.
Post update
Y GERDD ETHOLIADOL!
Etholiad 2015
Mae Aneirin Karadog wedi bod yn gweithio'n ddiwyd yn creu cerdd arbennig ar achlysur etholiad cyffredinol 2015 ar gyfer Cymru Fyw.
Dyma'i gerdd... ar ffurf fideo - mwynhewch!
Post update
YN ÔL I'R 70au?
Etholiad 2015
Wrth siarad ar raglen Etholiad 2015 ar S4C, mae Aelod Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol Aled Roberts wedi dwedu fod ei blaid yn ôl yn yr un sefyllfa ag yr oedd yn y 70au, ac mae llawer o waith i'w wneud.
Post update
DAU AC NEWYDD?
Etholiad 2015
Ac o son am y Cynulliad bydd angen dau aelod newydd ym Mae Caerdydd gan fod dau AC presennol wedi ennill seddi yn San Steffan - Byron Davies yn cipio Gŵyr oddi ar Lafur ac Antoinette Sandbach yn ennill yn Eddisbury. Mae disgwyl i'r ddau aelod Ceidwadol ildio'u seddi yn y Cynulliad.
Post update
ETHOLIAD Y CYNULLIAD YN GYFLE I AIL-ADEILADU
BBC Radio Wales
Mae'r Farwnes Randerson o'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi dweud wrth BBC Radio Wales na fydd ei phlaid yn gallu ail-adeiladu dros nos yn dilyn canlyniadau siomedig - ac mai etholiad y Cynulliad yn 2016 fydd y cyfle cyntaf i ail-afael yn y gwaith.
Post update
Y MAP GORFFENEDIG
Etholiad 2015
Mae'r lliwiau ar y map o Gymru yn gyflawn - dyma sut mae'n edrych y bore 'ma.
Post update
HEL ATGOFION?
Guto Harri Cyfarwyddwr Cyfathrebu News UK
"Cofio 1992 - lot o bobl lawer mwy parod i bleidleisio i'r Ceidwadwyr nac oedd yn fodlon datgan eu cefnogaeth i'r glas - neu'n gyndyn i gefnogi arweinydd Llafur amheus."
Post update
CAMERON YN DYCHWELYD I DOWNING STREET
Etholiad 2015
Yn ôl asiantaeth newyddion y Press Association mae David Cameron ar ei ffordd yn ôl i Lundain lle mae disgwyl iddo ddychwelyd i rif 10 Downing Street.
Post update
MWY O DDIFLASTOD I'R DEM.RHYDD.
Democratiaid Rhyddfrydol
Mae'r ddau berson oedd yn bennaf gyfrifol am y trafodaethau clymbleidio gyda'r Ceidwadwyr yn 2010 - Danny Alexander a David Laws - wedi colli eu seddi yn yr etholiad.
Post update
DADANSODDI'R CANLYNAIDAU
Etholiad 2015
Mae'r Athro Roger Scully wedi bod yn dadansoddi'r data - ac yn cymharu'r canlyniadau gyda chanlyniadau hanesyddol y pleidiau yng Nghymru.
"Mae'r Ceidwadwyr wedi cael eu cyfran uchaf o'r bleidlais yng Nghymru ers 1992, gyda'r nifer fwyaf o seddi ers 1983, ac ail berfformiad gorau'r blaid ers 1935.
"Dyma ail berfformiad gwaethaf y blaid Lafur ers 1918 - a'r nifer isaf o seddi yng Nghymru ers 1987 (pan oedd dim ond 38 sedd mewn bodolaeth).
"Dyma oedd canran isaf y bleidlais i'r Democratiaid Rhyddfrydol / Rhyddfrydwyr ers 1966.
"I Blaid Cymru fe gawson nhw eu trydydd cyfran uchaf erioed mewn etholaeth cyffredinol (ar ôl 14.3% yn 2001 a 12.6% yn 2005).
"Ac wrth gwrs fe gafodd UKIP eu canlyniad gorau erioed yng Nghymru mewn etholiad cyffredinol."
Post update
CARREG FILLTIR ARALL I'R SNP
Mae'r Athro Roger Scully o Ganolfan Llywodraethiant Cymru wedi trydar ei bod yn ymddangos y bydd yr SNP yn sicrhau dros 50% o'r bleidlais yn yr Alban - y tro cyntaf i unrhyw blaid wneud hynny ers i'r Ceidwadwyr/Unoliaethwyr wneud hynny yn 1955.
Post update
CANLYNIADAU CYMRU'N GYFLAWN
Etholiad 2015
Mae holl ganlyniadau Cymru wedi dod i law, a dyma sut fydd y map gwleidyddol yma am y pum mlynedd nesaf.
Post update
DIM MODD RHAGWELD Y CANLYNIAD
James Williams
Gohebydd Seneddol BBC Cymru
"Does bosib bod unrhywun wedi rhagweld y fath ganlyniad! Y Ceidwadwyr yn fuddugol yn Lloegr a Chymru (dyma berfformiad gorau'r blaid yma ers 1983), a chwyldro'r SNP yn yr Alban.
"Dwy stori wahanol sy'n gysylltiedig oherwydd methiant y blaid Lafur. Fel mae'n edrych ar hyn o bryd, fe fydd Ed Miliband yn ennill llai o seddi i Lafur na wnaeth Gordon Brown yn 2010!
"A beth am y Democratiaid Rhyddfrydol? Mae'n debyg bod clymbleidio gyda'r Ceidwadwyr wedi bod yn weithred gostus iddyn nhw: colli aelodau, colli cynghorwyr, colli ASau, a bron yn sicr o golli arweinydd.
"Mae gan David Cameron sawl opsiwn y bore yma o ran sut y bydd e'n dewis llywodraethu. Ond beth bynnag ei ddewis, mae'n anochel y bydd o'n parhau fel prif weinidog."
Post update
CAMERON YN CADW EI SEDD - YN GYFFORDDUS
Etholiad 2015
Mae David Cameron wedi ennill sedd Witney, ac hynny o fwyafrif cyfforddus.
Post update
CAMERON YN HAWLIO'R PENAWDAU
WalesOnline
Mae rhifyn y dydd o'r Western Mail yn rhoi sylw i David Cameron - a does dim amheuaeth o'r pennawd pwy oedd yn fuddugol ar y noson.
Post update
MAE'N GWAWRIO YN SAN STEFFAN
Etholiad 2015
Mae'n gohebydd Sian Elin Dafydd wedi anfon llun o'r wawr yn torri yn San Steffan y bore 'ma - ond tybed yw'r haul yn machlud i fwy nag un o arweinwyr y pleidiau?
Post update
CYHOEDDUSRWYDD I LEANNE WOOD HEB WNEUD GWAHANIAETH
Etholiad 2015
Yn ôl y sylwebydd gwleidyddol Gareth Hughes, tydi sefyllfa Plaid Cymru yn y cymoedd ddim mor gryf ag yr oedd. Ydi'r blaid wedi dal eu tir? Tydyn nhw ddim wedi ennill tir er bod pawb yn son am y cyhoeddusrwydd yr oedd Leanne Wood wedi ei gael yn ystod yr ymgyrch.
Post update
DYRNAID O 'DAVIESES'
Mae Glyn Davies, aelod seneddol Ceidwadol Maldwyn wedi trydar i ddweud y bydd pum aelod seneddol Ceidwadol yng Nghymru yn rhannu'r cyfenw 'Davies'.
Post update
CANLYNIAD BRO MORGANNWG YN LLAWN
Ceidwadwyr
Alun Cairns sy'n cadw'r sedd i'r Ceidwadwyr.
CANLYNIAD
CEIDWADWYR YN DAL BRO MORGANNWG
Ceidwadwyr
Post update
'PARCHUSRWYDD' PLEIDLAIS PLAID CYMRU
Vaughan Roderick
Golygydd Materion Cymreig y BBC
"'Da chi yn gweld bod Plaid Cymru bellach yn cael ryw 2,000, 3,000 hyd yn oed, yn yr etholaethau gwan yna felly mae ganddyn nhw ryw fath o barchusrwydd yn perthyn iddyn nhw ym mhob rhan o Gymru - ond dwi ddim yn deall pam oedden nhw'n credu fod ganddyn nhw drafferth yn Arfon."
Post update
UKIP YN GWNEUD YN RHYFEDDOL, OND CWESTIWN AM FARAGE
Athro Richard Wyn Jones Canolfan Llywodraethiant Cymru
"Dwi'n meddwl y bydd o'n debygol bydd UKIP drwch yn y blaen i Blaid Cymru fel y drydedd Blaid yng Nghymru.
"Maen nhw'n gwneud yn rhyfeddol fel plaid newydd. Mae yna ganlyniadau lle oedden nhw'n seithfed o'r blaen, mae'n nhw wedi saethu a neidio ymlaen. Ond, mae'n nhw'n ddibynnol dwi'n meddwl ar garisma a'r holl gyhoeddusrwydd o amgylch Farage, ac os ydi o ddim yn cipio sedd mae'n bosibiliad, sy'n bosibiliad go gry, yna mae 'na gwestiwn diddorol ynglŷn â beth fydd yn digwydd i blaid sydd efo un ffigwr arweinyddol cry iawn."
Post update
CANLYNIAD GŴYR YN LLAWN
Ceidwadwyr
Canlyniad eithriadol o agos, a Byron Davies yn cipio'r sedd oddi ar Lafur am y tro cyntaf ers 1906 gyda mwyafrif o 27 yn unig.
Post update
CREU HANES YN ETHOLAETH GŴYR
James Williams
Gohebydd Seneddol BBC Cymru
"Ar ôl cyfrifo'r pleidleisiau sawl gwaith, y Torïaid sy'n cymryd Gwyr o drwch blewyn! Canlyniad anhygoel! Y tro 1af i Lafur golli yno!"
Post update
Y CEIDWADWYR WEDI GWNEUD DIGON I GAEL MWYAFRIF?
Etholiad 2015
Mae cyn ymgeisydd am arweinyddiaeth y blaid Geidwadol David Davis wedi dweud fod na gyfle da y bydd ei blaid yn ennill mwyafrif erbyn diwedd y cyfrif.
Dywedodd fod na gyfle y gall y blaid gipio mwy na'r 326 sydd ei angen i gipio mwyafrif, ar ôl i bôl piniwn ar ddiwedd y pleidleisio awgrymu y byddai'r Ceidwadwyr yn ennill 316 o seddi.
CANLYNIAD
CEIDWADWYR YN CIPIO GŴYR
Ceidwadwyr
Post update
CANLYNIAD PEN-Y-BONT AR OGWR YN LLAWN
Llafur
Madeleine Moon sy'n cadw'r sedd i Lafur.
Post update
DAROGAN DYFODOL YR ARWEINWYR
Vaughan Roderick
Golygydd Materion Cymreig y BBC
"Does dim dwywaith taw Tim Farron fydd yn olynydd i Nick Clegg. Anodd gen i weld bod Ed Miliband yn gallu goresi canlyniad mor siomedig. Bosib iawn y gwelwn ni Nigel Farage yn mynd. Mae'n bosib mai Cameron, Sturgeon a Leanne Wood fydd yr unig arweinwyr a welwn ni ar ôl."
Post update
CLEGG YN WYNEBU DIWEDD EI ARWEINYDDIAETH
Athro Richard Wyn Jones Canolfan Llywodraethiant Cymru
"Mae Nick Clegg yn mynd - does dim amheuaeth ei fod yn mynd. Mae wedi dal ei afael ar y sedd, ond mae ei blaid wedi taflu ei holl adnoddau i fewn i'r sedd - gan ei wneud yn anos mewn llefydd fel Brycheiniog a Maesyfed."
Post update
NICK CLEGG YN CADW EI SEDD
Democratiaid Rhyddfrydol
Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Nick Clegg wedi llwyddo i gadw ei sedd yn Sheffield Hallam ar noson hynod siomedig i'w blaid.
Post update
CANLYNIAD PRESELI PENFRO YN LLAWN
Ceidwadwyr
Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, sy'n cadw'r sedd i'r Ceidwadwyr.
Post update
PRYDER ALUN MICHAEL
Llafur
Yn ôl Alun Michael - cyn brif weinidog Cymru - mae "cymaint o bobl cryf iawn ymysg yr aelodau Llafur sydd wedi colli ei seddau" heno.
Post update
Y DIWEDDARAF O'R ALBAN
Iolo ap Dafydd
Gohebydd Amgylchedd BBC Cymru
Mae gohebydd BBC Cymru Iolo ap Dafydd wedi trydar o'r Alban i ddweud mai 57 sedd ydi'r cyfanswm y gall yr SNP ei ennill yn y wlad. Mae un sedd wedi ei hennill gan Lafur ac un arall gan y Democratiaid Rhyddfrydol ar hyn o bryd.
Post update
DIGONEDD O FIDEOS O UCHAFBWYTNIAU'R NOSON
Etholiad 2015
I weld nifer o uchafbwyntiau'r noson, cofiwch glicio ar y botwm "Prif Fideo" uchod - mae yna bentwr o fideos yno'n barod i chi ac mae mwy i ddod cyn y bore!
Post update
MESUR YR AROLYGON
Vaughan Roderick
Golygydd Materion Cymreig y BBC
"Yn wahanol i 1992 roedd yr arolygon yn unfryd y tro hwn - a'r arolygon yn dangos gogwydd tua'r blaid Lafur.
"Beth fydd y rhai sydd yn cynnal arolygon yn ei ddweud ydi mai 'snapshot' dyddiol yw'r arolygon - ond y cwestiwn ydi, oedd yr arolygon wedi camfesur? Mae'n anodd credu hynny - neu oedd na rhywbeth wedi digwydd ar y funud olaf?"
Post update
CANLYNIAD GORLLEWIN ABSERTAWE YN LLAWN
Llafur
Geraint Davies sy'n ailennill ei sedd i Lafur.
Post update
CANLYNIAD GOGLEDD CAERDYDD YN LLAWN
Ceidwadwyr
Roedd hon yn un o brif dargedau Llafur trwy'r DU, ond y Ceidwadwyr a'i cadwodd yn gymharol hawdd.
Post update
CANLYNIAD MYNWY YN LLAWN
Ceidwadwyr
David Davies sy'n cadw sedd Mynwy i'r Ceidwadwyr.
CANLYNIAD
LLAFUR YN DAL PEN-Y-BONT AR OGWR
Llafur
Post update
AIL-AILGYFRI YN ETHOLAETH GŴYR
Etholiad 2015
Fe ddywed ein gohebydd David Grundy bod y cyfri yn etholaeth Gŵyr wedi dechrau.... am y trydydd tro!
CANLYNIAD
LLAFUR YN DAL GORLLEWIN ABERTAWE
Llafur
Post update
DEMOCRATIAID RHYDDFRYDOL: ANODD ADEILADU ETO
Athro Richard Wyn Jones Canolfan Llywodraethiant Cymru
"Wrth edrych ar ble mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn dal i fod o ran seddi yn ddaearyddol, mae'n mynd i fod yn anodd iawn iawn ail-adeiladu plaid gydag aelodau mor anghymarus."
CANLYNIAD
CEIDWADWYR YN DAL PRESELI PENFRO
Ceidwadwyr
CANLYNIAD
LLAFUR YN DAL GORLLEWIN CAERDYDD
Llafur
Post update
CANLYNIAD CYFFORDDUS YNG NGOGLEDD CAERDYDD
Athro Richard Wyn Jones Canolfan Llywodraethiant Cymru
"Roedd canlyniad i'r Ceidwadwyr yng ngogledd Caerdydd yn un weddol gyfforddus, mewn sedd yr oedd y blaid Lafur yn hyderus o'i chipio.
"Roedd na bryder fod neges 'project fear' David Cameron am yr SNP wedi codi pryder ymysg pobl, yn ôl yr hyn yr oedd yn cael ei ddweud ar lawr gwlad."
CANLYNIAD
LLAFUR YN DAL CASTELL-NEDD
Llafur
Post update
MAE'R MAP BRON YN LLAWN
Etholiad 2015
CANLYNIAD
CEIDWADWYR YN CADW GOGLEDD CAERDYDD
Ceidwadwyr
Post update
DYFFRYN CLWYD YN SIOC Y NOSON - I BAWB OND UN....
Athro Richard Wyn Jones Canolfan Llywodraethiant Cymru
Mae 'Dicw' yn ôl, chwedl Vaughan Roderick, ac mae'r ddau yn gyfeillion mae'n amlwg. Meddai'r Athro Richard Wyn Jones:
"Mae hi wedi bod yn noson echrydus i'r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, ac mae son fod y blaid yn mynd i gael ei dileu o Dŷ'r Cyffredin. Ond sioc y noson yma yng Nghymru ydi'r Ceidwadwyr yn cipio Dyffryn Clwyd - a dim ond Vaughan Roderick wnaeth grybwyll hon fel sedd bosib i'r Ceidwadwyr."
CANLYNIAD
CEIDWADWYR YN DAL MYNWY
Ceidwadwyr
Post update
CANLYNIAD LLAWN DE CAERDYDD A PHENARTH
Llafur
Stephen Doughty sy'n dychwelyd i San Steffan ar ran Llafur.
Post update
GOGWYDD SYFRDANOL I'R SNP
Iolo ap Dafydd
Gohebydd Amgylchedd BBC Cymru
Yn ôl gohebydd BBC Cymru Iolo ap Dafydd, bellach mae 38 o seddi wedi eu hennill gan yr SNP yn yr Alban ac mae na newidiadau syfrdanol yn digwydd ar hyd y wlad. Mae'n debyg mai stori'r noson ydi nid cymaint faint mae'r SNP yn ennill y seddau - ond maint y gogwydd syfrdanol - 39% ydi'r mwyaf.
Post update
CANLYNIAD PONTYPRIDD YN LLAWN
Llafur
Llefarydd Llafur ar Gymru, Owen Smith, sy'n cadw sedd Pontypridd yn San Steffan.
CANLYNIAD
LLAFUR YN DAL OGWR
Llafur
Post update
Y CYFRIF YN TYNNU TUA'R TERFYN - YNG NGHYMRU O LEIA'!
Vaughan Roderick
Golygydd Materion Cymreig y BBC
"Dim ond 9 canlyniad ar ôl i ddod o Gymru - a rhyw 400 arall i ddod o Loegr!"
Post update
CANLYNIAD YNYS MÔN YN LLAWN
Llafur
Roedd hi'n aruthrol o agos ar Ynys Môn, ond Albert Owen sy'n cadw'r sedd i Lafur gyda mwyafrif o 229.
Post update
CANLYNIAD DELYN YN LLAWN
Llafur
CANLYNIAD
CEIDWADWYR YN DAL GORLLEWIN CAERFYRDDIN A DE PENFRO
Ceidwadwyr
Post update
CRAFFU AR Y CYFRIF YNG NGŴYR
Etholiad 2015
Mae hi'n agos yn yr ail-gyfrif yn etholaeth Gŵyr! Dyma'r ymgyrchwyr yn craffu ar y cyfri yn ofalus.
CANLYNIAD
LLAFUR YN DAL OGWR
Llafur
Post update
AIL GYFRI YNG NGŴYR
Etholiad 2015
Yn ôl ein gohebydd David Grundy fe fydd ail gyfri yn etholaeth Gŵyr.
Post update
NOSON SIOMEDIG I BLAID CYMRU
James Williams
Gohebydd Seneddol BBC Cymru
Mae James Williams, gohebydd gwleidyddol BBC Cymru wedi trydar i ddweud fod cadw tair sedd yn golygu noson siomedig i Blaid Cymru ar y cyfan.
CANLYNIAD
LLAFUR YN DAL DELYN
Llafur
CANLYNIAD
LLAFUR YN CADW DE CAERDYDD A PENARTH
Llafur
Post update
AS BENYWAIDD CYNTAF PLAID CYMRU
Plaid Cymru
Dyma Liz Saville Roberts yn areithio ar ôl cael ei hethol fel AS Dwyfor Meirionnydd - yr AS benywaidd cyntaf erioed i Blaid Cymru.
Post update
NEWIDIADAU YNG NGHANRAN Y BLEIDLAIS HYD YN HYN
Etholiad 2015
Yn ôl yr Athro Roger Scully o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, gyda 24 o'r 40 seddi Cymreig wedi eu cyhoeddi, mae neiwdiadau yng nghanran y bleidlais i'r pleidiau yn:
CANLYNIAD
LLAFUR YN DAL YNYS MÔN
Llafur
Post update
SYMUD YN ÔL I HEN BATRWM
Vaughan Roderick
Golygydd Materion Cymreig y BBC
"Mae ambell i batrwm yn datblygu. Ry' ni'n gweld gwleidyddiaeth Cymru yn symud nol i hen batrwm. Yn ystod etholiadau cyffredinol ddiweddar mae Llafur wedi tan-berfformio yn ei chadarnleoedd a gor-berfformio yn ei seddi ymylol.
"Nawr, os y'n ni'n edrych ar y cymoedd mae'r mwyafrifoedd yn saethu nôl lan, Merthyr y mwyafrif nôl lan o ryw bedair mil i ryw 15,000 er enghraifft, ry' ni'n gweld yr un patrwm yn digwydd yn Nhorfaen, ond dyw'r pleidleisiau fel na mewn system cyntaf i'r felin o ddim werth i Lafur."
CANLYNIAD
LLAFUR YN DAL CWM CYNON
Llafur
Post update
BACH IAWN O SYLFAEN AR ÔL I'R DEMOCRATIAID RHYDDFRYDOL
Vaughan Roderick
Golygydd Materion Cymreig y BBC
"Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol mewn un ffurf neu ei gilydd wedi cael cynrychiolaeth yng Nghymru ers 60au'r bedwaredd ganrif ar bymtheg - er i lawr i un Aelod Seneddol sawl tro. Bach iawn o'r sylfaen sydd ar ôl ac mae'r blaid wedi symud yn ôl ddegawdau yn dilyn yr etholiad yma."
CANLYNIAD
LLAFUR YN DAL ALUN A GLANNAU DYFRDWY
Llafur
CANLYNIAD
LLAFUR YN DAL PONTYPRIDD
Llafur
CANLYNIAD
LLAFUR YN CIPIO CANOL CAERDYDD
Llafur
Post update
...NEU EFALLAI DDIM
Etholiad 2015
Fe ddywedon ni eiliadau'n ôl bod ail gyfri ar Ynys Môn, ond mewn gwrionedd dyw hynny ddim yn sicr er bod Plaid Cymru wedi gofyn am un.
CANLYNIAD
LLAFUR YN CADW DWYRAIN ABERTAWE
Llafur
CANLYNIAD
CEIDWADWYR YN CADW GORLLEWIN CLWYD
Ceidwadwyr
Post update
CHWALFA I LAFUR YN YR ALBAN
Llafur
Mae'r blaid Lafur wedi colli nifer o seddi - ac aelodau seneddol - blaenllaw yn yr Alban heno. Mae arweinydd y blaid yno, Jim Murphy wedi colli ei sedd i'r SNP, yn ogystal â hen sedd Gordon Brown yn mynd i ddwylo'r cenedlaetholwyr hefyd.
Fe gollodd Douglas Alexander ei sedd yn gynharach hefyd i'r SNP, ac mae'n ymddangos fod y rhagolygon o chwalfa i'r blaid yn yr Alban yn dod yn gywir.
Post update
AIL GYFRI YM MÔN
Etholiad 2015
Roedd ein gohebydd Nia Thomas wedi rhybuddio ei bod yn agos, ac mae cadarnhad nawr bod ail gyfri'n digwydd ar Ynys Môn.
CANLYNIAD
LLAFUR YN DAL ABERAFAN
Llafur
CANLYNIAD
PLAID CYMRU'N CADW DWYFOR MEIRIONNYDD
Plaid Cymru
Post update
MAE'R MAP YN LLENWI'N SYDYN
Etholiad 2015
CANLYNIAD
LLAFUR YN CADW DWYRAIN CASNEWYDD
Llafur
Post update
CANLYNIAD DYFFRYN CLWYD YN LLAWN
Ceidwadwyr
Post update
NOSON DDA I'R CEIDWADWYR
Etholiad 2015
Yn ôl Roger Scully o Ganolfan Lywodraethiant Cymru mae'r Ceidwadwyr ar y ffordd i ennill o leiaf 10 o seddi yng Nghymru - y canlyniad gorau ers 2013.
Post update
CANLYNIAD LLAWN GORLLEWIN CASNEWYDD
Llafur
Paul Flynn sydd wedi cadw'r sedd i Lafur.
Post update
LLAFUR YN CADW TORFAEN
Llafur
Mae Llafur wedi cadw eu gafael ar sedd ddiogel Torfaen, gyda Nick Thomas-Symonds yn sicrhau 16,938 o bleidleisiau - hynny 0.1% yn llai nag yn 2010. Dyma ganlyniad yr etholaeth yn llawn.
CANLYNIAD
LLAFUR YN CADW GORLLEWIN CASNEWYDD
Llafur
Post update
CANLYNIAD MALDWYN YN LLAWN
Ceidwadwyr
Glyn Davies sydd wedi cadw'r sedd i'r Ceidwadwyr.
CANLYNIAD
CEIDWADWYR YN CIPIO DYFFRYN CLWYD
Ceidwadwyr
CANLYNIAD
LLAFUR YN DAL MERTHYR TUDFUL A RHYMNI
Llafur
Post update
CANLYNIAD DWYRAIN CAERFYRDDIN A DINEFWR YN LLAWN
Plaid Cymru
Jonathan Edwards sydd yn dychwelyd i San Steffan fel AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.
Post update
CANLYNIAD ABERCONWY YN LLAWN
Ceidwadwyr
Guto Bebb sydd wedi ei ailethol fel AS Ceidwadol Aberconwy.
Post update
YMATEB I GANLYNIAD BRYCHEINIOG A SIR FAESYFED
Vaughan Roderick
Golygydd Materion Cymreig y BBC
"Brycheiniog a Maesyfed wedi bod yn sedd ymylol iawn yn y gorffenol - a'r 'bwgan' Ed Miliband a'r SNP wedi cael effaith ar bleidleiswyr o bosib."
Post update
CANLYNIAD BRYCHEINIOG A SIR FAESYFED YN LLAWN
Ceidwadwyr
CANLYNIAD
CEIDWADWYR YN ENNILL BRYCHEINIOG A SIR FAESYFED
Ceidwadwyr
CANLYNIAD
CEIDWADWYR YN DAL ABERCONWY
Ceidwadwyr
CANLYNIAD
PLAID CYMRU'N DAL DWYRAIN CAERFYRDDIN A DINEFWR
Plaid Cymru
CANLYNIAD
CEIDWADWYR YN DAL MALDWYN
Ceidwadwyr
CANLYNIAD
LLAFUR YN DAL RHONDDA
Llafur
Post update
AR HYN O BRYD....
Etholiad 2015
Dyma fel mae hi yng Nghymru ar hyn o bryd - lliwiau'r map yn dechrau llenwi.
Post update
STEPHEN CRABB YN Y CYFRIF
Ceidwadwyr
Mae Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb yng nghyfrif etholaeth Preseli Penfro ar hyn o bryd, ac yn edrych yn dawel hyderus yn ôl gohebydd BBC Cymru Aled Scourfield.
Post update
CANLYNIAD CEREDIGION YN LLAWN
Democratiaid Rhyddfrydol
Mark Williams fydd yn dychwelyd i San Steffan fel AS y Democratiaid Rhyddfrydol.
Post update
GWALLGOFION GWYR
Etholiad 2015
Dyma ymgeisydd y Monster Raving Loony Party yn y cyfrif yn etholaeth Gŵyr heno, yn dod ag ychydig o liw i'r digwyddiad.
Post update
CANLYNIAD LLANELLI YN LLAWN
Llafur
CANLYNIAD
LLAFUR YN CADW ISLWYN
Llafur
Post update
Post update
CANLYNIAD ARFON YN LLAWN
Plaid Cymru
Hywel Williams sydd wedi ei ethol fel AS Arfon.
Post update
CANLYNIAD ISLWYN YN LLAWN
Llafur
CANLYNIAD
LLAFUR YN DAL CAERFFILI
Llafur
Post update
LLAFUR YN HYDERUS YM MON
Etholiad 2015
Yn ôl ein gohebydd ar Ynys Môn, Nia Thomas, mae Llafur yn ymddangos yn fwyfwy hyderus o ddal eu gafael ar y sedd.
CANLYNIAD
PLAID CYMRU'N DAL ARFON
Plaid Cymru
CANLYNIAD
LLAFUR YN DAL LLANELLI
Llafur
CANLYNIAD
LLAFUR YN DAL BLAENAU GWENT
Llafur
CANLYNIAD
DEMOCRATIAID RHYDDFRYDOL YN DAL CEREDIGION
Democratiaid Rhyddfrydol
Post update
BYDDWCH YN BAROD!
Etholiad 2015
Mae ein gohebwyr ar draws Cymru wedi'n rhybuddio y gallai tri chanlyniad gyrraedd yn agos iawn at ei gilydd o fewn y munudau nesaf.
Post update
CANLYNIAD DE CLWYD YN LLAWN
Llafur
Mae Susan Elan Jones yn dychwelyd i San Steffan fel yr Aelod Seneddol.
Post update
AIL GYFRI YN NYFFRYN CLWYD
Etholiad 2015
Fe fydd ail gyfri yn etholaeth Dyffryn Clwyd gyda Llafur a'r Ceidwadwyr yn gwylio yn ofalus dros ben, medd ein gohebydd yno Gareth Bryer. Ychwanegodd bod y Ceidwadwyr yn edrych yn fwy hyderus.
CANLYNIAD
LLAFUR YN DAL DE CLWYD
Llafur
Post update
CANRAN Y BLEIDLAIS YNG NGORLLEWIN CLWYD
Etholiad 2015
Canran y boblogaeth i bleidleisio yn etholaeth Gorllewin Clwyd oedd 64.99% - gostyngiad o'r 65.82% yn 2010.
Post update
CANLYNIAD WRECSAM MEWN LLUN
Etholiad 2015
Post update
CWYMP 'RHYFEDDOL' Y DEMOCRATIAID RHYDDFRYDOL YN WRECSAM
Vaughan Roderick
Golygydd Materion Cymreig y BBC