a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn eistedd am 1:30pm, ac eitem gynta'r prynhawn oedd cwestiynau i'r prif weinidog.
  2. Nesaf: Datganiad a Chyhoeddiad Busnes.
  3. Nesaf: Mesur yr Amgylchedd Hanesyddol.
  4. Nesaf: Dadl Cyfnod 3 ar y Mesur Cynllunio.

Y diweddaraf yn fyw

Gan Anwen Lewis a Alun Jones

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Nos Da

Dyna Cyfnod 3 wedi'i gwblhau!

Dyna ni am heddiw, ymunwch â ni am 9:30 bore fory ar gyfer y Pwyllgor Amgylchedd.

Gwelliannau

Mae'r aelodau wrthi yn trafod grŵp olaf y gwelliannau.

Caniatâd cynllunio

Un gwelliant yn ymwneud â'r Gymraeg gafodd ei gefnogi - cynnig y Democratiaid Rhyddfrydol fydd yn rhoi hawl statudol i gynghorau i wrthod neu ganiatau ceisiadau am resymau ieithyddol.

Mae cefnogaeth draws-bleidiol i welliant 27 gan William Powell o'r Democratiaid Rhyddfrydol, ac a gefnogwyd gan y gweinidog Carl Sargeant, aelod Plaid Cymru Llyr Gruffydd a'r aelod Ceidwadol Russell George.

Mae'r gwelliant yn golygu bod y Gymraeg yn ystyriaeth berthnasol statudol.

Ymprydio

BBC Cymru Fyw

Mae rhai o gefnogwyr Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn

ymprydio am 24 awr er mwyn tynnu sylw at alwad i wella'r Mesur Cynllunio.

Gwelliannau

Dyma

restr o'r gwelliannau y mae'r aelodau yn eu trafod a phleidleisio arnynt.

Cymraeg

Mae

ymgyrchwyr iaith a rhai awdurdodau lleol wedi honni y gall datblygiadau tai mawr gael effaith fawr ar natur cymunedau bach, yn enwedig y rhai lle mae'r Gymraeg yn amlwg.

Mae canlyniadau Cyfrifiad 2011, oedd yn dangos gostyngiad yn nifer y bobl sy'n siarad Cymraeg yn y cadarnleoedd traddodiadol megis Sir Gaerfyrddin a Cheredigion wedi tanio eu pryderon.

Yr Iaith Gymraeg

Mae'r aelodau yn awr yn ystyried gwelliannau yn ymwneud â'r iaith Gymraeg.

Ffracio

Proses o bwmpio dŵr a chemegau i'r ddaear ar bwysedd uchel er mwyn rhyddhau nwy naturiol yw ffracio.

Ffracio
Matthew Lloyd

Nid oes unrhyw ffracio am nwy ym Mhrydain ar hyn o bryd, ond mae'n ddiwydiant enfawr yn yr Unol Daleithiau.

Fodd bynnag, mae'n ddadleuol, gyda phryderon am yr amgylchedd a dŵr tanddaearol yn arbennig.

Trydar

via Twitter

@SimonThomasAC "Mae'r Llywodraeth wedi gwrthod gwelliant gan @LlyrGruffydd @Plaid_Cymru i sicrhau na fydd ffracio nac echdynnu nwy anghonfensiynol".

Blog y Cynulliad

Darllenwch fwy am y mesur ar

flog y Cynulliad Cenedlaethol.

Fframwaith Cyfreithiol

Mae'r Mesur yn cyflwyno fframwaith cyfreithiol newydd i Weinidogion Cymru allu paratoi cynllun defnydd tir cenedlaethol, a elwir yn Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Cymru.

Mae hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer llunio Cynlluniau Datblygu Strategol, i fynd i'r afael â materion traws-ffiniol nad ydynt yn rhai lleol, fel cyflenwad tai ac ardaloedd ar gyfer twf economaidd ac adfywio.

Yn ogystal, bydd yn gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru dderbyn ceisiadau cynllunio ar gyfer prosiectau o bwys cenedlaethol.

Gwaith adeiladu
BBC

Trydar

@WG_NatResMin "Mae rheoli Adnoddau Naturiol yng Nghymru yn golygu rheoli ein hadnoddau mewn modd mwy cynaliadwy a chydlynol"

Pedwar cyfnod i'r broses

Bant a ni ar cyfnod 3 y Mesur Cynllunio. Yn gyffredinol, mae pedwar cyfnod yn y broses ar gyfer ystyried Mesur Cyhoeddus, sef:

Cyfnod 1 - pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur a'r Cynulliad yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol hynny;

Cyfnod 2 - pwyllgor yn ystyried y Mesur ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd i'r Mesur hwnnw yn fanwl;

Cyfnod 3 - y Cynulliad yn ystyried y Mesur ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd i'r Mesur hwnnw yn fanwl;

Cyfnod 4 - pleidlais gan y Cynulliad i basio testun terfynol y Mesur.

Egwyl

Mae'r trafodion yn cael eu hatal am 10 munud cyn y Ddadl Cyfnod 3 ar y Mesur Cynllunio.

Enwau

Mae'r aelod Plaid Cymru Alun Ffred Jones yn galw am "amddiffyniad i enwau lleoedd, o ystyried eu pwysigrwydd ar gyfer adrodd ein stori", tra bod Mick Antoniw o'r blaid Lafur a Julie Morgan yn galw am amddiffyn enwau tafarndai hanesyddol.

Adeiladau Crefyddol

Mae'r aelod Ceidwadol Darren Millar yn mynegi pryder nad yw'r mesur yn "diogelu adeiladau crefyddol Cymru yn ddigonol."

Castell Caerffili

Ymwelodd y Dirprwy Weinidog â Chastell Caerffili bore 'ma i gwrdd â phrentisiaid sy'n gweithio ar brosiectau i warchod y castell.

Castell Caerffili
BBC
Castell Caerffili

Cadw

Bethan Jenkins o Blaid Cymru a Peter Black o'r Democratiaid Rhyddfrydol yn gofyn i'r Dirprwy Weinidog i ystyried pa warchodaeth y gellir ei roi i adeiladau o ddiddordeb lleol, ond nad ydynt o reidrwydd o bwysigrwydd cenedlaethol yn ôl Cadw.

'Colli am byth'

"Heb y diogelwch a rheolaeth gywir, gall ein hadeiladau gwerthfawr a henebion gael eu colli am byth" meddai'r dirprwy weinidog.

Clawdd Offa

Clawdd Offa
Mark Williams

Cafodd gwaith cloddio yng Nghlawdd Offa ei archwilio gan yr heddlu yn 2013.

Erlyniad

Mae'r gyfraith newydd yn anelu i warchod henebion ac adeiladau hanesyddol yng Nghymru, i'w gwneud yn fwy anodd i'r rhai sy'n eu niweidio i ddianc rhag erlyniad.

Daw hyn wedi 119 o achosion o ddifrod i safleoedd rhwng 2006 a 2012 gyda dim ond un erlyniad llwyddiannus.

Mesur yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru)

Ken Skates
BBC

Mae'r aelodau wedi symud ymlaen at ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates sy'n cyflwyno Mesur yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru).

Datganiad Busnes

Mae'r Gweinidog Cyllid, Jane Hutt, yn gwneud ei Datganiad Busnes wythnosol.

Mae hwn yn amlinellu busnes y Cynulliad hyd at dair wythnos o flaen llaw.

Dyddiad Cau

Mae'r dirprwy weinidog, Rebecca Evans, yn dweud bod y system yn "gweithio yn dda" ac nad oes angen ymestyn y dyddiad cau.

Cynllun y Taliad Sylfaenol

Cliciwch

yma am fwy o fanylion ar Gynllun y Taliad Sylfaenol.

Cwestiwn Brys

Mae Llyr Gruffydd yn gofyn cwestiwn brys i'r Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd a fyddai hi'n ailystyried ei phenderfyniad i beidio ag ymestyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau Cynllun y Taliad Sylfaenol yng Nghymru.

Metro De Cymru

Prif Weinidog Cymru yn dweud y bydd y newyddion diweddaraf am y rhaglen Metro i dde Cymru yn cael eu cyhoeddi cyn toriad yr haf.

Bysiau Caerdydd

Ymlaen i'r

orsaf fysiau newydd Caerdydd, ac mae'r Prif Weinidog yn cofio 'trychineb ' cau gorsaf fysiau Pen-y-bont ar Ogwr yn y 1990au.

"Nid yw'n gweithio os nad oes gennych un pwynt lle gallwch ddal bws" ychwanegodd Mr Jones.

Rhoddwr Organau

Carwyn Jones yn canmol teulu Teddy Houlston, rhoddwr organau ieuengaf Prydain.

Datganoli Ynni

Llyr Gruffydd yn holi am ddatganoli pwerau ynni i Gymru.

Mae ail ran

Comisiwn Silk a gafodd ei gyhoeddi yn 2014 yn argymell datganoli cyfrifoldebau prosiectau ynni hyd at 350MW.

Gwasasnaeth Iechyd

Bydd "lefel priodol" o gyllid ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru - ac ariannu canlyniadol i Gymru - o dan lywodraeth Lafur , meddai Carwyn Jones.

Gwariant ar Iechyd

Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams, yn gofyn am gynyddu gwariant ar iechyd yn Lloegr a'r sgil-effeithiau i'r gyllideb Gymreig.

Cyllid

"Bydd gennym £375m yn ychwanegol yng nghyllideb Cymru bob blwyddyn" , meddai Prif Weinidog.

"Torri net" , gwaeddodd Leanne Wood .

Carwyn Jones

Carwyn Jones
BBC

Carwyn Jones yn ateb cwestiynau'r arweinwyr.

Leanne Wood

Arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn mynd ar ôl thema tebyg - y tro hwn gan ddefnyddio fformiwla Barnett i geisio tynnu sylw at wahaniaethau yn agwedd Llafur.

Carwyn Jones

"Yr hyn yr wyf i wedi clywed ar garreg y drws ydy pobl yn erfyn arnaf i gael gwared ar y Torïaid " meddai Mr Jones.

Gorwario?

Mr Davies yn parhau i dynnu sylw at y gwahaniaethau rhwng polisi'r DU + Llafur Cymru , ac yn gofyn a Mr Jones yn credu a wnaeth Llafur orwario.

Rheoli Rhenti

Arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies yn gofyn am gynlluniau Llafur ar gyfer rheoli rhenti yn Lloegr.

"Rydym wedi cael datganoli ers 1999 " meddai.

Ffordd liniaru'r M4

Prif Weinidog Cymru yn gwneud y pwynt bod y dewis arall sef y 'llwybr glas ' ar gyfer ffordd liniaru'r M4 yn rhedeg ar ffordd sy'n agos iawn at ardaloedd preswyl.

Dociau Casnewydd

Aelod Plaid Cymru, Lindsay Whittle yn dweud y bydd pont newydd sydd eu hangen ar gyfer prosiect yr M4 yn cael effaith andwyol ar ddociau Casnewydd.

Y Prif Weinidog yn anghytuno â hyn.