a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Anwen Lewis a Alun Jones

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl fawr!

    Dyna ni am heddiw, ac mae toriad yn y Cynulliad yr wythnos nesaf.

    Byddwn yn ôl ar ddydd Mawrth 2 Mehefin. Yn y cyfamser, am fwy o newyddion gwleidyddol cliciwch yma.

    Senedd
    Image caption: Senedd
  2. CEFNDIR

    Mae dadleuon byr yn wahanol i ddadleuon eraill oherwydd eu bod yn rhoi cyfle i unrhyw Aelod, nad yw'n aelod o'r llywodraeth, gynnal dadl gyffredinol am bwnc sydd o ddiddordeb neu am fater sy'n ymwneud â'r etholaeth.

    Ni fydd gofyn i'r Cynulliad bleidleisio ar ddiwedd y ddadl honno (oherwydd nad oes cynnig yn gysylltiedig â'r dadleuon hyn).

    Detholir Aelodau drwy falot a gynhelir gan y Llywydd a chaniateir iddynt gyflwyno pwnc o'u dewis.

    Fel rheol, bydd y Gweinidog neu'r Comisiynydd Cynulliad sy'n gyfrifol am y pwnc dan sylw'n ymateb i'r ddadl fer.

  3. Dadl Fer

    Keith Davies (Llanelli) sy'n cyflwyno'r Ddadl Fer.

    Y pwnc a ddewisodd oedd: "Ysgogi'r economi yng ngorllewin Cymru - Defnyddio'r ysgogiadau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru i hybu twf".

    Keith Davies
  4. Gweinidog

    Dywed Edwina Hart, y Gweinidog dros yr Economi, bod Cyllid Cymru yn "frand sy'n cael ei adnabod ar unwaith".

  5. 'Rhwystr enfawr'

    Dywed yr aelod Ceidwadol Paul Davies bod "mynediad i gyllid yn rhwystr enfawr i fusnesau bach a chanolig sydd yn aml dim ond angen benthyciadau ar raddfa fach i gefnogi eu busnesau."

    Paul Davies
  6. Cyllid Cymru

    Meddai Julie Morgan, "Mae Cyllid Cymru yn cael ei ystyried yn dda y tu allan i Gymru" gan ychwanegu bod Finance Birmingham yn seiliedig ar Gyllid Cymru.

  7. Banc datblygu

    Mae beirniaid y banc datblygu arfaethedig wedi mynegi pryderon y byddai'n dod o dan ddylanwad uniongyrchol llywodraeth Cymru yn hytrach na Cyllid Cymru, sy'n gweithredu ar hyd braich oddi wrth weinidogion.

    Money
  8. Ffynonellau amgen o gyllid

    Mae rhan gyntaf yr adolygiad a arweiniwyd gan yr Athro Dylan Jones-Evans yn canolbwyntio ar effeithiolrwydd banciau'r stryd fawr o ran darparu'r cyllid sydd ei angen ar fusnesau Cymru, yn enwedig busnesau bach a chanolig eu maint.

    Roedd ail ran yr adolygiad yn craffu ar ffynonellau amgen o gyllid ar gyfer busnesau Cymru, yn enwedig busnesau bach a chanolig eu maint.

    Mae Crynodeb o'r Ymgynghoriad ynghylch Cyllid sydd ar Gael yma.

  9. Cyllid Cymru

    Yn ôl y Ceidwadwyr, "nid yw Cyllid Cymru yn diwallu anghenion busnesau bach ledled Cymru ac mae mynediad at gyllid yn parhau i fod yn broblem i lawer o fusnesau bach a chanolig"

  10. Adolygiad annibynnol

    Comisiynodd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth adolygiad annibynnol a arweiniwyd gan yr Athro Dylan Jones-Evans o Brifysgol Gorllewin Lloegr.

    Y nod oedd gweld a all busnesau Cymru gael mynediad effeithiol at ffynonellau cyfredol o gyllid a chanfod meysydd sy'n arbennig o heriol gan roi argymhellion ar sut i weithredu.

  11. Dadl y Ceidwadwyr

    Dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar fusnesau bach sydd ymlaen nawr.

  12. Twf Swyddi Cymru

    Mae'r Dirprwy Weinidog dros Sgiliau a Thechnoleg, Julie James yn cyfeirio yn ei hymateb at raglen Twf Swyddi Cymru.

    Bu'n rhaid cau'r cynllun dros dro ym mis Ebrill wrth aros am gyllid gan yr Undeb Ewropeaidd. Bellach mae'r llywodraeth wedi sicrhau gwerth £25 miliwn o gyllid gan yr UE drwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop am dair blynedd arall.

    Julie James
    Image caption: Julie James
  13. Busnesau

    Mae "isho gneud i fusnesau allu a bod isho tyfu yng Nghymru", meddai Rhun ap Iorwerth.

    Rhun ap Iorwerth
    Image caption: Rhun ap Iorwerth
  14. Rhwystrau

    Yn ystod tymor yr hydref 2014, penderfynodd y Pwyllgor gynnal ymchwiliad o'r enw Helpu Pobl Ifanc i Gael Gwaith.

    Aethant ati i ymchwilio i'r rhwystrau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu, a pha mor llwyddiannus yw amryw gynlluniau ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector o ran eu helpu i gael gwaith.

  15. Pwyllgor Menter

    Yn y Siambr nawr mae dadl ar adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar helpu pobl ifanc i gael gwaith.

  16. 'Ail-ysgrifennu'r dyfodol'?

    Meddai'r Gweinidog Addysg, Huw Lewis "mae ail-ysgrifennu'r dyfodol yn rhoi pwyslais yr un mor gryf ar bwysigrwydd ymyrraeth gynnar wrth liniaru effeithiau tlodi ar gyrhaeddiad addysg plant."

    Huw Lewis
    Image caption: Huw Lewis
  17. Cyfathrebu

    Keith Davies, AC Llanelli, yn cofio cerdded i mewn i ystafell ddosbarth o blant 4-5 oed ac yn gofyn i'r athrawes beth yw'r peth anoddaf am eu dysgu.

    Atebodd "eu cael i wrando."

    Dywedodd Mr Davies bod yr athrawes yn rhoi'r bai ar deledu di-baid yn cartref, a theuluoedd sydd braidd yn siarad gyda'i gilydd.

  18. Her Ysgolion Cymru

    Mae'r rhaglen Her Ysgolion Cymru wedi'i thargedu at y 40 o Ysgolion Llwybrau Llwyddiant sy'n wynebu amgylchiadau heriol wrth ddatblygu.

    Mae'r ysgolion hyn yn cael adnoddau ac arbenigedd ychwanegol i gynnal rhaglen o welliant cyflym a chynaliadwy.

    Ceir rhestr yma o'r ysgolion yn cael adnoddau ac arbenigedd ychwanegol i gynnal "rhaglen o welliant cyflym a chynaliadwy".

  19. Grant Amddifadedd Disgyblion

    Yn ei datganiad agoriadol, mae cadeirydd y pwyllgor, Ann Jones yn siarad am y Grant Amddifadedd Disgyblion.

    Mae'r grant yn rhoi cymorth ariannol i helpu i daclo effeithiau tlodi ar gyrhaeddiad.

    Ann Jones
    Image caption: Ann Jones
  20. Plant o gartrefi incwm isel

    Nawr ceir dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar yr ymchwiliad i Ganlyniadau Addysgol Plant o Gartrefi Incwm Isel.

  21. Theodore Huckle

    Mae'r aelodau nawr yn gofyn cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol, Theodore Huckle.

    Theodore Huckle
    Image caption: Theodore Huckle
  22. E-sigaréts

    Lindsay Whittle o Blaid Cymru yn dweud bod rhai plant mor ifanc ag 11 oed wedi defnyddio e-sigaréts.

    Yn ôl y Dirprwy Weinidog dros Iechyd, Vaughan Gething, mae hysbysebion am e-sigaréts "blas gwm", er enghraifft wedi'u hanelu at bobl ifanc.

    E-sigaréts
    Image caption: E-sigaréts
  23. Arian newydd

    Mae Kirsty Williams yn cyfeirio at ddatganiad gan y llywodraeth sy'n dweud bod £2 miliwn yn cael ei fuddsoddi "i ddatblygu gwasanaethau penodol i wneud diagnosis a chefnogi pobl ifanc sydd ag Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD) ac anhwylder sbectrwm Awtistiaeth yn well."

    Gofynodd Ms Williams i Mr Drakeford a yw hyn yn arian newydd neu beidio?

    Mae'r gweinidog yn ateb ei fod yn "arian hollol newydd."

    Kirsty Williams
    Image caption: Kirsty Williams
  24. Rhagfarn?

    Yn ôl Darren Millar mae "dros 2,000 o gleifion wedi treulio mwy na 12 awr mewn adrannau achosion brys ar draws Cymru o gymharu â llai na 50 dros yr un cyfnod yn Lloegr."

    Mae'n ychwanegu bod angen i'r gweinidog i "dynnu ei sanau i fyny" a "thynnu ei fys allan" a "chyflawni."

    Atebodd y Gweinidog bod "cyfraniad Darren Millar yn fuddugoliaeth i ragfarn dros ddadansoddi."

    Darren Millar
    Image caption: Darren Millar
  25. Iechyd meddwl

    Elin Jones yn gofyn a yw'r gweinidog yn ymwybodol bod Theresa May yn cyflwyno deddfwriaeth i wahardd y defnydd o gelloedd heddlu i blant a phobol ifanc gydag iechyd meddwl.

    Elin Jones
    Image caption: Elin Jones
  26. Llefarwyr y pleidiau

    Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog. Bydd Elin Jones yn siarad ar ran Plaid Cymru, Darren Millar ar ran y Ceidwadwyr a Kirsty Williams dros y Democratiaid Rhyddfrydol.

  27. 'Rheoli'n wael'

    Yr wythnos ddiwethaf, datgelwyd bod adroddiad a ddaeth i law y BBC yn dweud bod gwasanaeth meddygon teulu tu allan i oriau arferol yn cael ei reoli'n wael, heb ddigon o staff, ac yn methu cyrraedd y nod ar bob lefel.

    gwasanaeth meddygon teulu tu allan i oriau arferol
    Image caption: gwasanaeth meddygon teulu tu allan i oriau arferol
  28. Tu allan i oriau

    Mae Ann Jones ( AC Dyffryn Clwyd) yn gofyn ynghylch gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau arferol yn Ysbyty Glan Clwyd.

    Ann Jones
    Image caption: Ann Jones
  29. Gofal sylfaenol

    Meddai'r Gweinidog Iechyd, "Mae miloedd mwy o gleifion sy'n byw yn Lloegr yn derbyn eu gofal sylfaenol gan y gwasanaeth iechyd yng Nghymru nag sy'n wir yn y cyfeiriad arall."

    Mark Drakeford
  30. Ffiniau byrddau iechyd

    Mae Gwenda Thomas yn codi pwynt ynghylch gweinyddu practisiau meddygon teulu sy'n croesi ffiniau byrddau iechyd lleol.

  31. Croeso nôl!

    Mae'r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford yn dechrau ateb cwestiynau'r aelodau am 13:30 pm.

  32. Tan toc!

    Mae'r pwyllgor wedi mynd i sesiwn breifat, a chyda hynny daw ein darllediadau i ben am y tro. Ymunwch â ni am 13:30 ar gyfer cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd.

  33. Comisiwn Ewropeaidd

    Ar 24 Mawrth 2014 mabwysiadodd y Comisiwn Ewropeaidd y cynigion deddfwriaethol ar gyfer Rheoliad newydd ar gynhyrchu a labelu cynhyrchion organig. Am fwy o wybodaeth cliciwch yma

  34. TB

    "Mae yna siawns bod gwartheg yn dod i mewn i Gymru sydd erioed wedi cael eu profi ar gyfer TB ac mae hynny'n bryder i mi" meddai Ms Evans.

  35. Glastir Organig

    Mae Glastir Organig yn elfen o Gynllun Glastir Llywodraeth Cymru. Mae'n helpu ffermwyr a chynhyrchwyr organig sy'n rheoli eu tir mewn ffordd "sy'n cael effaith bositif ar yr amgylchedd".

  36. 'Angerddol'

    Gan gyfeirio at aelodau'r bwrdd, dywedodd y Dirprwy Weinidog ei bod wedi siomi ar yr ochr orau "gan y math o bobl rydym wedi llwyddo i ddenu i fod yn rhan o'r bwrdd, ac maent yno am eu bod yn teimlo'n angerddol am y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru".

  37. Bwyd a Diod

    Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru fydd llais y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru, gan ddarparu cyfeiriad, annog rhwydweithio a rhannu gwybodaeth hollbwysig.

    Bydd y Bwrdd yn rhan o gynllun cydberchnogaeth gyda Llywodraeth Cymru, Tuag at Dwf Cynaliadwy: Cynllun Gweithredu ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod 2014-2910, a bydd yn cyflwyno adroddiad ar hynt y fenter i Weinidogion, ac mewn amser efallai bydd yn newid yn gynllun annibynnol ar y llywodraeth.

  38. Cefn gwlad

    Yn ôl llywodraeth Cymru, bydd RDP Cymru 2014-2020, a gyflwynwyd i'r Comisiwn Ewropeaidd ar 11 Gorffennaf 2014, yn darparu gwerth £953m o gyllid Ewropeaidd a chyllid gan Lywodraeth Cymru i gefn gwlad Cymru er mwyn helpu i:

    • sicrhau bod busnesau ffermio a choedwigaeth yn fwy cynhyrchiol, amrywiol ac effeithlon, eu gwneud yn fwy cystadleuol a chadarn, a lleihau eu dibyniaeth ar gymorthdaliadau
    • gwella amgylchedd Cymru, gan annog arferion cynaliadwy o ran rheoli tir, annog dulliau cynaliadwy o reoli'n hadnoddau naturiol, a gweithredu ar yr hinsawdd yng Nghymru
    • hyrwyddo twf economaidd cryf a chynaliadwy yn ardaloedd gwledig Cymru a symbylu mwy o waith datblygu lleol sy'n cael ei arwain gan y gymuned.
    Ffermio
    Image caption: Ffermio
  39. Rhaglen Datblygu Gwledig

    Mae Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020 yn rhaglen saith mlynedd sy'n cael ei chyllido gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru

  40. Cyswllt Ffermio

    Mae Cyswllt Ffermio yn cefnogi busnesau fferm a choedwigaeth.

  41. Polisi Amaethyddol Cyffredin

    Polisi Amaethyddol Cyffredin yr UE (PAC) yw'r system o gymorthdaliadau a rhaglenni amaethyddol.

    Mae'n cynnwys ffermio, mesurau amgylcheddol a datblygu gwledig, ac yn rheoli marchnadoedd amaethyddol yr UE. Dyma bolisi cyffredin unigol mwyaf yr UE ac yn cyfrif am dros 40% o gyllideb gyfan yr UE.

  42. Craffu

    Mae Rebecca Evans, Y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, yn rhoi tystiolaeth.

    Rebecca Evans AC
    Image caption: Rebecca Evans AC
  43. Bore da

    Gyda'r haul yn tywynnu ym Mae Caerdydd, mae Pwyllgor yr Amgylchedd yn cychwyn am 9:30 am.