a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. 9am: Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.
  2. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn eistedd am 1:30pm, eitem gynta'r prynhawn oedd cwestiynau i'r prif weinidog.
  3. Nesaf: Datganiad gan y Gweinidog Iechyd - Y camau a gymerwyd mewn ymateb i’r adroddiad annibynnol ar Tawel Fan.
  4. Nesaf: Datganiad gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus - Cyfiawnder Ieuenctid.
  5. Nesaf: Datganiad gan y Gweinidog Cyllid - Y diweddaraf am y Gronfa Buddsoddi i Arbed.

Y diweddaraf yn fyw

Gan Anwen Lewis a Alun Jones

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Da bo chi

Dyna ni am heddiw. Hwyl tan yfory.

Senedd
BBC

Ysmygu mewn ceir

Mae Aelodau'r Cynulliad wedi pleidleisio o blaid y cynnig sy'n golygu y bydd pobl yn cael eu gwahardd rhag ysmygu mewn ceir pan fo plant yn bresennol

Ar hyn o bryd mae pobl yn cael ysmygu mewn cerbydau preifat, ond mae'r bleidlais yn gwahardd pobl rhag gwneud hynny os oes unrhyw un o dan 18 oed yn y cerbyd.

Er mai awdurdodau lleol sy'n gweithredu'r cyfyngiadau presennol ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus, yr heddlu fydd yn gyfrifol am weithredu yn erbyn troseddwyr mewn cerbydau cyhoeddus.

Tai Rhent Preifat

Yr ACau yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o Reoliadau Rheoleiddio Tai Rhent Preifat (Gofynion Hyfforddi) (Cymru) 2015 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Mai 2015.

Gorchymyn

Mae'r aelodau yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o'r Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymhwyso) 2015 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Ebrill 2015.

Ysmygu mewn ceir

Nawr mae'r aelodau wedi symud ymlaen i drafod cynnig a fyddai'n gwahardd pobl rhag ysmygu mewn ceir pan fo plant yn bresennol.

Fe fydd troseddwyr yn wynebu cosb benodedig o £50 o fis Hydref ymlaen, os fydd y mesur yn cael ei gymeradwyo gan aelodau.

Mae ysmygu eisoes wedi'i wahardd mewn cerbydau gwaith a cherbydau cyhoeddus eraill o dan y ddeddf a basiwyd yn 2007.

Ysmygu mewn car
PA

Cymunedau yn Gyntaf

Mae'r rhaglen yn rhoi arian i Brif Gyrff Cyflawni o fewn ardaloedd yr awdurdod lleol a elwir yn Glystyrau Cymunedau yn Gyntaf a hynny er mwyn culhau'r bwlch sydd rhwng economi, addysg/sgiliau ac iechyd yn ein hardaloedd mwyaf difreintiedig a mwyaf cefnog.

Yn ôl y llywdoraeth, mae gan y rhaglen dri amcan strategol sy'n helpu i gyflawni'r canlyniadau hyn:

  • Cymunedau Ffyniannus
  • Cymunedau Dysgu
  • Cymunedau Iachach

Parch

Cydlyniant Cymunedol yw'r term a ddefnyddir i ddisgrifio "sut mae pawb mewn ardal ddaearyddol yn cyd-fyw gan barchu a deall ei gilydd".

Cynllun Cyflawni Cenedlaethol

Yn ôl Llywodraeth Cymru, nod y Cynllun Cyflawni Cenedlaethol yw cadarnhau eu hymrwymiad "i gryfhau cydlyniant cymunedol ledled Cymru".

Cydlyniant Cymunedol

Nesaf ceir datganiad gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi: "Cydlyniant Cymunedol - Cynnydd a Heriau".

Gwerth ychwanegol gros

Yn ôl Eluned Parrott o'r Demcoratiaid Rhyddfrydol "rydym wedi bod yn sownd ar 72% o werth ychwanegol gros y pen cyfartalog y DU ers dechrau datganoli. Nid oes unrhyw gynnydd wedi'i wneud o gwbl yn yr holl amser hwnnw."

Eluned Parrott
BBC
Eluned Parrott

Adroddiad Guilford

Fe wnaeth llywodraeth Cymru wahodd Dr Grahame Guilford, sy'n aelod o'r bartneriaeth rhaglenni Ewropeaidd yng Nghymru ers tro, i arwain yr adolygiad o'r trefniadau ar gyfer defnyddio cyllid y Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yn y cylch cyllido nesaf (2014 - 2020).

Fe wnaeth Dr Guilford asesu hynt y cylchoedd presennol a blaenorol, a nodi'r gwersi a ddysgwyd er mwyn sicrhau gwelliannau parhaus.

I weld yr adroddiad cliciwch

yma.

£2 biliwn

Yn ystod y cyfnod 2014-2020, bydd Cymru yn derbyn gwerth rhyw £2 biliwn o Gronfeydd Strwythurol Ewropeaidd i'w fuddsoddi yn y rhaglenni canlynol:

  • Rhaglenni Gorllewin Cymru a'r Cymoedd
  • Rhaglenni Dwyrain Cymru.

Y wlad gyntaf

Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i gael sêl bendith i arian strwythurol yn ôl y Gweinidog Cyllid.

Cymru yn Ewrop
Thinkstock

Cronfeydd Strwythurol

Mae'r Gweinidog Cyllid, Jane Hutt, yn parhau i fod ar ei thraed i wneud datganiad ar "Gynnydd Cronfeydd Strwythurol yr UE 2014-2020".

Arfer da

Alun Ffred Jones yn gofyn "pryd y byddwch yn cyhoeddi manylion y cynlluniau sydd wedi aeddfedu?"

Atebodd Jane Hutt bod "yr enghreifftiau o arfer da i'w gweld ar ein gwefan."

Am fwy o wybodaeth cliciwch

yma.

Ceisiadau newydd

£8 miliwn o gyllid pellach yn cael ei gyhoeddi gan y Gweinidog Cyllid ar gyfer cylch ceisiadau newydd o dan Buddsoddi i Arbed a fydd yn cau ar 24 Gorffennaf 2015.

Cronfa

Mae'r gronfa Buddsoddi i Arbed yn bwll byrdymor o adnoddau sydd ar gael i helpu sefydliadau'r gwasanaeth cyhoeddus i drawsnewid y ffordd y maent yn gweithio.

Buddsoddi i Arbed

Yn awr ceir datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth: Y diweddaraf am y Gronfa Buddsoddi i Arbed.

Gostyngiad

Meddai Leighton Andrews, y Gweinidog dros Wasanaethau Cyhoeddus, bu "gostyngiad o 54% yn nifer y bobl sy'n mynd i mewn i'r system cyfiawnder ieuenctid am y tro cyntaf rhwng 2010-11 a 2013-14."

Leighton Andrews
BBC
Leighton Andrews

Argymhellion

Mae'r strategaeth hon yn berthnasol i bob asiantaeth sy'n ymwneud â gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru ac mae'n cynnwys:

• ymyrryd yn gynnar i atal ymddygiad troseddol

• gweithio i atal troseddu ac ymddygiad troseddol

• dargyfeirio pobl ifanc oddi wrth droseddu i weithgareddau eraill.

Mae'n cynnwys argymhellion penodol mewn perthynas ag addysg, hyfforddiant a chyflogaeth, iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau, tai a gofal cymdeithasol.

Cyfiawnder Ieuenctid

Datganiad cyntaf y prynhawn yw un gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus ar Blant a Phobl Ifanc yn Gyntaf: "Cyflawni ein Hymrwymiad i Gyfiawnder Ieuenctid yn llwyddiannus".

Dadl Frys

Mae'r aelodau wedi derbyn cynnig am Ddadl Frys o dan Reol Sefydlog 12.69 gan Darren Millar, sef "Bod y Cynulliad yn ystyried canfyddiadau'r ymchwiliad i ofal cleifion ar ward Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan".

Bydd y ddadl yn cael ei chynnal yfory.

Darren Millar
BBC
Darren Millar

Datganiad Busnes

Mae'r aelodau symud ymlaen at y Datganiad Busnes wythnosol sy'n amlinellu busnes y Cynulliad hyd at dair wythnos o flaen llaw.

Gwasanaethau Cymdeithasol

Yr Aelod Llafur Gwenda Thomas yn codi pryderon am y Mesur Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru pe byddai'r Ddeddf Hawliau Dynol yn cael ei dileu.

Mae Deddf Hawliau Dynol 1998 yn cael ei enwi yn y mesur.

Arolygiaeth iechyd

Kirsty Williams yn galw am sefydlu arolygiaeth iechyd sy'n gwbl annibynnol o lywodraeth.

Kirsty Williams
BBC
Kirsty Williams

Deddf Hawliau Dynol

Carwyn Jones yn gofyn "beth sydd o'i le ar y Ddeddf Hawliau Dynol?", gan ychwanegu ei fod "yn gresynu at" y ffordd y mae'r Ddeddf Hawliau Dynol yn cael ei phortreadu fel rhywbeth sy'n helpu troseddwyr.

Awdurdodaeth gyfreithiol

Arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn gofyn am yr angen am awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân i Gymru.

Leanne Wood
BBC
Leanne Wood

'Cyfrifoldeb'

"Chi yw Prif Weinidog Cymru, mae'r cyfrifoldeb gyda chi" meddai Mr Davies.

Andrew R T Davies
BBC
Andrew R T Davies

'Brawychus'

Arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies yn gofyn am farn y prif weinidog ar yr adroddiadau diweddar ar ward Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd.

"Mae'r manylion yn frawychus ac yn annerbyniol ... gallaf ddeall yn iawn pam mae'r teuluoedd yn flin" meddai Carwyn Jones.

Contractwyr preifat

Prif Weinidog yn dweud ei fod yn "fwy anodd oherwydd bod meddygon teulu yn gontractwyr preifat ac nid yn dechnegol yn gweithio i'r gwasanaeth iechyd yn yr ystyr hwnnw."

Meddygon teulu

Ann Jones yn gofyn "yn dilyn adroddiadau beirniadol ar wasanaethau meddygon teulu tu allan i oriau yn enwedig yng ngogledd Cymru" beth mae'r llywodraeth yn ei wneud i gael apwyntiadau ar gyfer cleifion fel nad oes angen iddynt fynychu unedau Damweiniau ac Achosion Brys.

Atebodd Mr Jones, "rydym wedi cynyddu canran y meddygfeydd sydd ar agor o leiaf un noson yr wythnos."

AC newydd

Mae'r Dirpwy Lywydd yn croesawu Janet Howarth i'w sedd ym Mae Caerdydd, fel AC rhanbarthol yn cynrychioli gogledd Cymru.

Mae'n cymryd lle y Ceidwadwr Antoinette Sandbach a enillodd sedd Eddisbury, yn Swydd Caer, yn yr etholiad cyffredinol.

Janet Howarth
BBC
Janet Howarth

Croeso nôl

Bydd Cwestiynau i'r Prif Weinidog yn dechrau am 1.30pm.

Hwyl am y tro

Dyna ddiwedd y pwyllgor.

Araith y Frenhines

"Bydd 40,000 o blant yn cael eu gwthio i dlodi" yn ôl yr AC Llafur Jenny Rathbone.

Roedd yn cyfeirio at y cyhoeddiad yn araith y Frenhines yr wythnos diwethaf fod teuluoedd a allai hawlio hyd at £26,000 o fudd-dal y flwyddyn, yn awr yn derbyn uchafswm o £23,000.

Jenny Rathbone
BBC
Jenny Rathbone

Ystadegau

Yn ôl ystadegau yr Adran Gwaith a Phensiynau, Cymru sydd ag un o'r dibyniaethau uchaf ar les ym Mhrydain.

Mae bron i 19 y cant o'r boblogaeth o oedran gweithio yn derbyn rhyw fath o fudd-dal, o'i gymharu â chyfartaledd Prydain o 14.5 y cant.

Mae canran y bobl sy'n hawlio budd-daliadau allan o waith tua 16 y cant yng Nghymru a 13 y cant ym Mhrydain Fawr.

Deddf Diwygio Lles 2012

Mae Deddf Diwygio Lles 2012 yn dynodi newid mawr i'r ffordd y caiff budd-daliadau eu gweinyddu a'u dosbarthu a chaiff effaith sylweddol ar lawer o ddinasyddion.

Ym mis Ebrill 2011, dechreuodd Llywodraeth y DU ar raglen ddiwygio a fydd yn arwain at gyflwyno'r Credyd Cynhwysol fesul cam rhwng mis Hydref 2013 a 2017.

Un o brif nodweddion cynlluniau Llywodraeth y DU yw'r newidiadau i Fudd-dal Tai, sy'n ceisio lleihau gwariant blynyddol tua £2.3 biliwn.

Amcanion

"Un o brif amcanion diwygio lles yw cael pobl i mewn i waith" meddai Sara Ahmed.

Sara Ahmed
BBC
Sara Ahmed

Budd-dal tai

Mae'r Pwyllgor yn cynnal ymchwiliad i ystyried sut y mae'r newidiadau i fudd-dal tai a gyflwynwyd gan raglen diwygio lles Llywodraeth y DU yn cael effaith sylweddol ar gynghorau a chymdeithasau tai yng Nghymru,