a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Anwen Lewis a Alun Jones

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Nos da!

    A dyna ni am heddiw, ymunwch â ni bore fory am 9:15 ar gyfer y Pwyllgor Cymunedau.

    Y Senedd
  2. 'Gwrthgynhyrchiol'

    Kirsty Williams, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, hefyd yn gwneud y pwynt bod llawer o bobl yn defnyddio e-sigaréts i'w helpu i roi'r gorau i ysmygu.

    "Mae yna siawns uchel y gallai'r dull gweithredu llawdrwm yma gan lywodraeth Lafur Cymru mewn gwirionedd fod yn wrthgynhyrchiol", meddai.

    Kirsty Williams
  3. Rhoi'r gorau

    Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Elin Jones, bod angen i'r cynulliad ystyried yr holl dystiolaeth sy'n ymwneud ag effaith e-sigaréts ar iechyd y cyhoedd.

    Mae hi'n dweud ei bod wedi siarad â nifer o bobl sy'n defnyddio e-sigaréts i geisio rhoi'r gorau i ysmygu, ac yn ychwanegu y dylai'r cynulliad fod yn ofalus iawn i beidio ag atal y duedd honno.

    Elin Jones
    Image caption: Elin Jones
  4. Tyllau o natur bersonol

    Mae Mr Drakeford yn dweud y bydd gwaharddiad ar dyllau o natur bersonol ar gyfer plant dan 16 oed.

  5. Mesur Iechyd y Cyhoedd

    Agweddau arall o'r mesur ydy tatŵs a thoiledau!

    Er mwyn cael trwydded i gynnig gwasanaeth tatŵs, bydd rhaid i'r rhai sydd am wneud dangos eu bod yn gymwys a bod eu hoffer a'u lle gwaith yn ddiogel.

    Fe fydd gorfodaeth hefyd ar gynghorau lleol i sicrhau bod y ddarpariaeth toiledau cyhoeddus yn ddigonol.

    Nod y llywodraeth wrth gyflwyno'r mesur yw helpu creu'r amodau lle gall pobl fyw bywydau iach.

    Tatŵs
    Image caption: Tatŵs
  6. Alcohol

    Bydd deddfwriaeth ddrafft isafswm pris alcohol yn cael ei chyhoeddi erbyn yr haf, meddai'r gweinidog iechyd.

  7. Dadleuol

    Bydd y mesurau tybaco ac e-sigarét newydd yn golygu:

    • Bydd yn rhaid i siopau ymuno â chofrestr i fanwerthwr tybaco ac e-sigaréts - gyda'r nod o atal gwerthiant anghyfreithlon o dan 18 oed

    • Bydd yn drosedd "trosglwyddo" tybaco ac e-sigaréts i blant - a bydd hyn yn cynnwys gwerthiannau ar-lein

    • Defnydd cyfyngedig o e-sigaréts, yn eu gwahardd mewn mannau cyhoeddus caeedig a gweithleoedd - bydd hyn yn cynnwys lorïau a thacsis.

    Mae'r mesur terfynol yn profi'r mwyaf dadleuol ac yn debygol o ddod i rym yn 2017, ond nid oes dyddiad penodol wedi'i roi eto.

  8. Mannau caeedig

    Bydd pobl yn cael eu gwahardd rhag defnyddio e-sigaréts mewn mannau caeedig fel bwytai, tafarndai ac yn y gwaith yng Nghymru, o dan y gyfraith iechyd cyhoeddus newydd.

    Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford yn dadlau nad yw am gymryd y risg o weld ysmygu yn cael ei "normaleiddio" unwaith eto ar ôl llwyddiant y gwaharddiad ar ysmygu.

    e-sigaréts
  9. Mesur Iechyd y Cyhoedd

    Mae'r Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, yn gwneud datganiad ar gyflwyno Mesur Iechyd y Cyhoedd (Cymru).

  10. 'Cyllid yn brin'

    Meddai Julie James "Nid yw'n dderbyniol i'n pobl ifanc ddysgu mewn adeiladau nad ydynt yn addas at y diben, a bydd ein buddsoddiad yn mynd i'r afael a'r adeiladau hynny sydd yn y cyflwr gwaethaf yn gyntaf. Fodd bynnag, gan fod cyllid yn brin ym mhob maes, mae angen i ni fod yn well wrth gael mwy o'n buddsoddiad a chryfhau ein cysylltiadau â sectorau eraill."

    Roedd hi'n cyfeirio at y rhaglen fuddsoddi Ysgolion yr 21ain Ganrif, a gafodd ei lansio ym mis Ebrill 2014. Mae rhan gyntaf y rhaglen hon yn cynrychioli buddsoddiad gwerth £1.4 biliwn.

    Julie James
    Image caption: Julie James
  11. Symud ymlaen

    Mae'r Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Julie James yn gwneud datganiad ar wella'r seilwaith i ddiwallu anghenion addysg ôl-16.

  12. Pwerau rheoleiddio

    Dywed y gweinidog cyllid y bydd gweinidogion Cymru yn derbyn pwerau newydd yn fuan i reoleiddio ar faterion caffael cyhoeddus, i "gryfhau'r manteision i'r economi ymhellach."

    Disgwylir i'r pwerau rheoleiddio newydd ar gyfer gweinidogion Cymru ddod i rym ar 12 Awst 2015.

  13. Adolygiad

    Ym mis Chwefror 2012 comisiynwyd John F McClelland i gynnal adolygiad o effeithiolrwydd polisi caffael Cymru.

    O ganlyniad i adolygiad McClelland, datblygwyd Polisi Caffael Cymru i gefnogi'r gwaith o weithredu argymhellion yr adroddiad Gwneud y Gorau o Bolisi Caffael Cymru.

  14. Polisi Caffael

    Mae'r aelodau wedi symud ymlaen at ddatganiad gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth ar Gyflawni Newid yng Nghymru drwy'r Polisi Caffael.

  15. Keogh

    Mae'r gweinidog unwaith eto yn diystyri cynnal ymchwiliad tebyg i Keogh yng Nghymru.

  16. Cyngor

    Mae'r penderfyniad i roi'r bwrdd mewn mesurau arbennig yn seiliedig yn gyfan gwbl ar gyngor a roddwyd "a dim byd arall" , meddai Mark Drakeford mewn ymateb i awgrym ei fod yn benderfyniad gwleidyddol.

  17. 'Cyflym iawn'

    Llŷr Gruffydd yn gofyn a oedd y gweinidog yn difaru peidio rhoi'r bwrdd iechyd yn destun mesurau arbennig yn gynt.

    Y mae'r gweinidog yn cydnabod y gwaith a wnaed gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, ac yn dweud fod "unrhyw syniad bod y bwrdd iechyd hwn wedi cael ei adael ar ôl yn hurt."

    Mae'r gweinidog yn dweud y symudodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr "yn gyflym" drwy'r broses dwysâd cynyddol.

  18. 'Gofid'

    "Mae'n destun gofid nad oeddech chi wedi camu i mewn yn gynt ", medd yr aelod Ceidwadol, Darren Millar wrth y gweinidog iechyd.

    "Mae yna lawer mwy o bobl y mae angen iddynt adael y sefydliad. Gorau po gyntaf y maent yn mynd " ychwanegodd.

    Darren Millar
  19. Adolygiad

    Bydd adolygiad gan gyn brîf weithredwr y Gwasanaeth iechyd yng Nghymru, Ann Lloyd, o Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn cael ei gyhoeddi, medd y gweinidog iechyd.

  20. Dirprwy weinidog

    Bydd mesurau arbennig yn cael ei oruchwylio gan Vaughan Gething, Dirprwy Weinidog dros Iechyd llywodraeth Cymru, medd Mark Drakeford.

  21. Rheolwyr

    Gweinidog Iechyd yn dweud bod tîm o reolwyr eraill yn y Gwasanaeth Iechyd o bob cwr o Gymru hefyd yn cael eu hanfon at Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

    Mark Drakeford
  22. Simon Dean

    Mae Simon Dean, dirprwy brif weithredwr Gwasanaeth Iechyd Cymru, yn brif weithredwr dros dro i fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, meddai Mark Drakeford.

    Mae hyn yn dilyn cyhoeddiad heddiw fod Trevor Purt yn cael ei atal o'i waith fel Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn syth, wedi i'r bwrdd gael ei osod dan fesurau arbennig ddoe.

  23. Betsi Cadwaladr

    Mae'r aelodau wedi symud ymlaen at ddatganiad gan y gweinidog iechyd ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

    Cyhoeddwyd ddoe fod y bwrdd iechyd wedi ei osod mewn mesurau arbennig.

    Uned Tawel Fan
  24. Velothon

    Ceidwadwyr William Graham a Nick Ramsay yn gofyn am ddatganiad brys ar y tarfu a fydd yn cael ei achosi gan ddigwyddiad seiclo mawr.

    Bydd tua 15,000 o feicwyr yn heidio i dde Cymru pan fydd Caerdydd yn croesawu Velothon Wales Ddydd Sul.

    Bydd y ras 140km (87m) hefyd yn mynd trwy Gasnewydd, Torfaen, Sir Fynwy a Chaerffili, gyda rhai ffyrdd yn cau.

    Velathon
  25. Datganiad Busnes

    Mae'r aelodau wedi symud ymlaen at y Datganiad Busnes wythnosol, sydd yn rhestri busnes y Cynulliad yn y dyfodol hyd at dair wythnos o flaen llaw.

  26. Pwynt o drefn

    Kirsty Williams yn codi pwynt o drefn yn honni fod y prif weinidog wedi dod i'r casgliad ei bod hi'n derbyn arian ar ôl ennill gwobr gan ymgyrch 'save e-cigs'.

    Mae Mr Jones yn cydnabod ei fod "efallai yn rhy llym" ond yn dweud nad oedd wedi awgrymu ei bod yn ennill arian oddi wrth yr ymgyrch.

  27. 'Economeg voodoo'

    Y Ceidwadwr Janet Finch-Saunders yn gofyn am ddatganiad ar y camau y mae llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi perchnogaeth cartrefi yng Nghymru.

    Prif Weinidog Cymru'n dweud bod estyniad Hawl i Brynu llywodraeth y DU yn seiliedig ar "economeg voodoo."

  28. A40

    Pan ofynnwyd iddo am yr hyn y mae llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella economi Sir Benfro, dywedodd Mr Jones y bydd datganiad Gweinidogol yr wythnos hon ar wneud lôn yr A40 yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro yn un deuol.

  29. Llety rhent

    Rhodri Glyn Thomas yn dweud y gall pobl sy'n byw mewn llety rhent deimlo fel "dinasyddion eilradd."

    Rhodri Glyn Thomas
  30. Ymchwil

    Mae'r prif weinidog yn cyfaddef yr angen am fwy o ymchwil, ond mae'n gwadu nad oes unrhyw dystiolaeth o niwed a achosir gan e- sigaréts.

  31. E-sigaréts

    Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams AC yn dweud bod gwaharddiad ar e-sigaréts yn anghyfiawnadwy.

    Y prif weinidog yn dweud ei fod yn anghywir i awgrymu y byddai e-sigaréts yn cael eu gwahardd yn gyfan gwbl, oherwydd y byddent yn cael eu trin yn yr un ffordd â thybaco.

    Bydd y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, yn gwneud datganiad yn ddiweddarach y prynhawn yma ar y Mesur Iechyd y Cyhoedd a allai gynnwys gwaharddiad ar e-sigaréts mewn mannau cyhoeddus.

    E-cigarettes
    Image caption: E-cigarettes
  32. Cyllideb cyffuriau

    Andrew Davies yn dweud bod achos Mary Burrows yn dangos unwaith eto'r angen i adolygu cyngor i glinigwyr ar gyffuriau canser.

    Atebodd y prif weinidog os dywedodd ymgynghorydd Mary Burrows nad oedd unrhyw bwynt mewn gwneud cais am gyllid cyffuriau, roedd hynny yn anghywir.

  33. Mary Burrows

    BBC Cymru Fyw

    Mae Ms Burrows yn aros gyda'i mab tra'n derbyn triniaeth canser y fron.

  34. Cronfa Cyffuriau Canser

    Ar gyfer y rhan fwyaf o bobl, nid ydy cyffuriau o Gronfa Cyffuriau Canser Lloegr "yn achub bywyd" , meddai Mr Jones mewn ymateb i Andrew RT Davies.

    Mae Mr Davies yn codi'r achos o gyn bennaeth bwrdd iechyd yng Nghymru sydd wedi symud i Loegr er mwyn cael cyffur canser.

    Mae Mary Burrows, a oedd yn brif weithredwr bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, wedi symud o Fae Colwyn, Sir Conwy, i Lundain ddau fis yn ôl.

    Mary Burrows
    Image caption: Mary Burrows
  35. Cyffuriau'r Gwasanaeth Iechyd

    Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood yn dweud nad ydy'r system ar gyfer trwyddedu cyffuriau'r Gwasanaeth Iechyd yn gweithio ac yn cyhuddo'r prif weinidog o "wadu yn llwyr".

    Mae Mr Jones yn ateb ei bod hi'n bwysig nad ydy triniaethau yn cael eu cynnig gan wleidyddion.

    Leanne Wood
    Image caption: Leanne Wood
  36. Cymru a'r Alban

    Mewn ymateb i gwestiwn gan Dafydd Elis-Thomas am ba faterion a drafodwyd gan y Prif Weinidog Carwyn Jones a Phrif Weinidog yr Alban yn eu cyfarfod diweddaraf, dywed Mr Jones bod y ddau yn gytun y byddai'n "annerbyniol" i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd oni bai bod pob cenedl yn pleidleisio i adael mewn refferendwm.

    Mae'n ailadrodd ei farn y byddai argyfwng cyfansoddiadol os bydd Cymru/Yr Alban/Lloegr yn pleidleisio mewn ffyrdd gwahanol.

  37. Safleoedd segur

    Bydd cyfarfod rhwng llywodraeth Cymru a'r Adran Ynni a Newid Hinsawdd i drafod pwy sy'n talu i lanhau safleoedd glo brig-segur, meddai'r Prif Weinidog.

  38. Safleoedd glo brig

    Aelod Plaid Cymru, Bethan Jenkins yn gofyn am ddiweddariad ar adroddiad llywodraeth Cymru i adfer safleoedd glo brig yng Nghymru.

    Mae'r prif weinidog yn ateb y bydd y gweinidog cyfoeth naturiol yn cynnal uwchgynhadledd o randdeiliaid allweddol ar 8 Gorffennaf.

    Bethan Jenkins
    Image caption: Bethan Jenkins
  39. Prynhawn da

    Croeso i ddarllediad BBC Democratiaeth Fyw o gyfarfod llawn y Cynulliad Cenedlaethol. Mae cwestiynau i'r Prif Weinidog yn cychwyn am 1.30pm.

    Nid ydym yn disgwyl unrhyw beth mor ddramatig â'r hyn a ddigwyddodd yr wythnos hon yn 1999, wrth i arweinydd benderfynu arwain ei aelodau allan o'r Siambr!

    8 Mehefin 1999: Dafydd Wigley yn arwain Plaid Cymru o'r Siambr
    Image caption: 8 Mehefin 1999: Dafydd Wigley yn arwain Plaid Cymru o'r Siambr