a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Anwen Lewis a Alun Jones

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl fawr

    A dyna ddiwedd y trafodion am heddiw. Bydd Democratiaeth Fyw yn ôl ar ddydd Mawrth 16 Mehefin.

    Senedd
  2. 'Gwelliant pellach'

    Mae'r Dirprwy Weinidog dros Iechyd, Vaughan Gething yn ymateb i'r ddadl.

    Mae'n dweud "rydym yn cydnabod bod meysydd ar gyfer gwelliant pellach."

    Vaughan Gething
  3. Clefyd Crohn

    Mae un o bob 210 o bobl yn y DU yn dioddef o glefyd Crohn, yn ôl Mr Roberts.

    Mae'n credu y dylai gastroenteroleg fod yn uwch ar yr agenda iechyd yng Nghymru.

    Aled Roberts
  4. Gastroenteroleg

    Aled Roberts sy'n arwain y Ddadl Fer ar bwnc o'i ddewis, sef "Gastroenteroleg - gwella ymwybyddiaeth a thriniaeth yng Nghymru".

  5. 'Gwella'n sylweddol'

    Dywedodd Mark Drakeford bod Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi gwneud cyfres o newidiadau yn y flwyddyn yn dilyn galwad am adolygiad sylfaenol gan bwyllgor iechyd y cynulliad.

    Dywedodd wrth ACau: "Rwy'n siŵr y bydd aelodau, pan eu bod wedi gweld y gwaith y mae AGIC wedi ei wneud ers i adroddiad y pwyllgor gael ei gyhoeddi - a byddan nhw'n gweld hynny yn yr adroddiad blynyddol a fydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf eleni - yn gweld fod y sefyllfa wedi gwella'n sylweddol ers i'r pwyllgor adrodd. "

  6. 'Ddim yn unigryw'

    "Nid yw'r materion hyn yn unigryw i ogledd Cymru" meddai'r Democrat Rhyddfrydol Eluned Parrott.

  7. Cynnig

    Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn credu nad yw'r system bresennol ar gyfer sicrhau ansawdd a diogelwch gwasanaethau gofal iechyd yn addas at y diben ac nad yw Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn ateb yr angen i archwilio'r system iechyd yng Nghymru yn annibynnol.

    2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu system sicrhau ansawdd mwy cadarn sy'n cynnwys:

    a) cael gwared ar Arolygiaeth Iechyd Cymru a sefydlu arolygiaeth newydd sy'n gwbl annibynnol ar Lywodraeth Cymru;

    b) penodi prif arolygydd ar gyfer ysbytai a gofal iechyd;

    c) cyflwyno arolygiadau a arweinir yn glinigol ac a adolygir gan gymheiriaid gyda mewnbwn sylweddol gan gleifion;

    d) cefnogi staff a chleifion i ddefnyddio mecanweithiau ar gyfer chwythu'r chwiban drwy annog diwylliant cryfach o fod yn agored ac yn dryloyw; ac

    e) diwygio'r drefn gwyno er mwyn sicrhau mwy o annibyniaeth ac adfer ymddiriedaeth cleifion a'u teuluoedd.

  8. Ymchwiliad llawn

    Arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies yn galw ar Lywodraeth Cymru "i gynyddu tryloywder yn y broses o arolygu a rheoleiddio darparwyr gofal iechyd yng Nghymru drwy gomisiynu ymchwiliad llawn ac annibynnol" i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

    Andrew RT Davies
  9. Tawel Fan

    Yr wythnos diwethaf, dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams bod angen ystyried sefydlu corff i arolygu'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

    Daeth ei sylwadau yn sgil adroddiad damniol i ward iechyd meddwl Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan.

  10. Arolygiaeth Gofal Iechyd

    Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru sy'n digwydd nawr, yn ymwneud ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.

  11. Gwneud Gwahaniaeth

    Yn ei hateb mae'r Gweinidog dros Gymunedau a Threchu Tlodi, Lesley Griffiths yn dweud "yn dilyn digwyddiad llwyddiannus iawn oedd gennym yn ne Cymru byddwn yn cynnal ail gynhadledd 'Mae Merched yn Gwneud Gwahaniaeth' yng ngogledd Cymru ym mis Hydref."

    Lesley Griffiths
  12. 'Rhagfarnau'

    "Nid tan ar ôl imi gael teulu y dechreuais i weld y rhagfarnau anymwybodol hyn" meddai y Democrat Rhyddfrydol Eluned Parrott.

    Eluned Parrott
  13. 'Siomedig'

    Rhun ap Iorwerth sy'n arwain y drafodaeth ac yn dweud "yr hyn sy'n siomedig, wrth gwrs, yw bod angen cynnig o'r fath."

    Rhun ap Iorwerth
  14. Cyfarwyddwyr benywaidd

    Yn gynharach eleni, galwodd tri AC ar lywodraeth Cymru i beidio â rhoi cytundebau neu grantiau i unrhyw gwmni heb gyfarwyddwyr benywaidd ar ei fwrdd.

  15. Dadl Plaid Cymru

    Mae'r aelodau yn symud ymlaen i Ddadl Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau effeithiol i hyrwyddo cyfranogiad economaidd llawn gan fenywod.

  16. Teg ac effeithlon

    Meddai Mr Andrews, "yng nghyd-destun y setliad datganoli i Gymru, byddwn yn ystyried sut y gallwn sicrhau bod y system drethi lleol yn y dyfodol yn deg ac yn effeithlon."

  17. Pen-blwydd Hapus Nick Ramsay

    Leighton Andrews hefyd yn dymuno 'Pen-blwydd Hapus' i Nick Ramsay wedi'i ddilyn gan sylw tafod mewn boch, "y gallai hynny fod y peth olaf neis i mi ddweud am y Ceidwadwyr a'u cynnig heddiw."

    Pen-blwydd Hapus Nick Ramsay
    Image caption: Pen-blwydd Hapus Nick Ramsay
  18. Ymateb gweinidog

    Leighton Andrews yn ymateb i Russell George yn dyfynnu barn Margaret Thatcher bod "gan y cyhoedd yr hawl i wybod beth yw eu cynrychiolwyr etholedig yn ei wneud."

    Leighton Andrews
  19. Lloegr

    Yn ôl Rhodri Glyn Thomas, rhoddodd llefarydd y Ceidwadwyr yr argraff bod trethdalwyr yng Nghymru yn talu mwy nag yn Lloegr.

    Meddai, "gadewch inni fod yn gwbl glir am hyn, mae'r Dreth Gyngor yng Nghymru yn cynrychioli 89% o'r Dreth Gyngor yn Lloegr, ar gyfartaledd. Hynny yw, mae'n llawer iawn llai."

  20. Arolwg

    Wrth agor y ddadl, dywedodd y Ceidwadwr Janet Finch-Saunders, "wedi gwneud arolwg", bod 63% o bobl "ddim yn hyderus ble mae'r arian yn mynd a sut y caiff ei wario."

  21. Trethdalwyr

    Mae canlyniadau arolwg newydd yn dangos bod y cynnydd ar gyfartaledd yn nhreth y cyngor yng Nghymru yn costio £84 yn ychwanegol i bob teulu, gan godi £100m yn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus.

  22. Treth gyngor

    Mae'r aelodau yn symud ymlaen i Ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar treth gyngor.

  23. Adroddiad McNulty

    William Powell o'r Democratiaid Rhyddfrydol yn gofyn am effaith Adroddiad McNulty.

    Cafodd yr adroddiad annibynnol, ar wireddu potensial rheilffyrdd Prydain, ei baratoi gan gadeiryddiaeth Syr Roy McNulty a gomisiynwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth.

  24. Ardrethi busnes

    Mae hyn yn dilyn estyniad llywodraeth Cymru o'r Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach tan fis Mawrth 2016, a pharhad y cap 2% ar y lluosydd ardrethi busnes ar gyfer 2015-16.

    Cafodd pwerau dros ardrethi busnes eu datganoli'n llawn i Gymru ar 1 Ebrill eleni.

  25. Cynllun rhyddhad manwerthu

    Sandy Mewies yn gofyn i'r gweinidog am y wybodaeth ddiweddaraf am weithredu cynllun rhyddhad manwerthu Cymru.

    Ym mis Ebrill eleni, cyhoeddodd y gweinidog ei bod yn ymestyn Cynllun Rhyddhad Manwerthu Cymru, a chynnydd yn y budd mwyaf posibl sydd ar gael i £1,500 yn 2015-16.

    Sandy Mewies
  26. Trallwng i Gaerdydd

    Dafydd Elis-Thomas o Blaid Cymru yn defnyddio ei amser i ddiolch i'r gweinidog "ar ran yr holl bobl hynny sy'n teithio o ganolbarth a gogledd Cymru i Gaerdydd ac yn ôl" oherwydd "o'r diwedd" ei bod yn bosibl gwneud y daith ar drên o'r Trallwng i Gaerdydd mewn 2 awr a 40 munud.

    Edwina Hart
    Image caption: Edwina Hart
  27. Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

    Mae'r aelodau yn symud ymlaen i gwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Edwina Hart.

    Dyma restr o'r Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd.

  28. Her Ysgolion Cymru

    Kirsty Williams, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydo,l yn sôn am y cynllun Her Ysgolion Cymru.

    Mae'r rhaglen hon wedi'i thargedu at y 40 o "Ysgolion Llwybrau Llwyddiant sy'n wynebu amgylchiadau heriol wrth ddatblygu".

    Mae'r ysgolion hyn yn cael adnoddau ac arbenigedd ychwanegol i gynnal rhaglen o welliant cyflym a chynaliadwy.

    Ceir rhestr o'r ysgolion yma.

    Kirsty Williams
  29. Absenoldeb athrawon

    Llefarydd addysg y Ceidwadwyr, Paul Davies yn cyfeirio at waith ymchwil diweddar gan NUT Cymru sydd yn dangos bod 13 o 22 awdurdod lleol Cymru yn dangos cynnydd mewn absenoldeb athrawon a achosir gan straen. Mae'n gofyn i'r gweinidog beth mae'n ei wneud i ddelio â hyn.

    Mr Lewis yn dweud y bydd yn cwrdd ag arweinydd NUT Cymru "i drafod y goblygiadau."

    Paul Davies
    Image caption: Paul Davies
  30. Cynlluniau Strategol

    Aled Roberts o'r Democratiaid Rhyddfrydol yn gofyn beth y mae adran y gweinidog yn ei wneud i "fesur y galw am addysg cyfrwng Cymraeg, gan fod y mesur olaf yn dair oed."

    Y gweinidog yn ateb y dylai aelodau sy'n pryderu astudio datblygiad Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn eu hardal.

  31. Cost adolygiad

    Mae llefarydd addysg Plaid Cymru, Simon Thomas yn gofyn i'r gweinidog am gost Adolygiad Hill.

    Atebodd Mr Lewis "Yr wyf yn ofni y bydd yn rhaid imi ysgrifennu ato o ran cael at wraidd y ffigurau."

    Dywedodd Mr Thomas ei fod "eisoes wedi gofyn cwestiwn ysgrifenedig ar hyn a dywedodd wrthyf nad oedd yn gallu dweud wrthyf."

    Simon Thomas
    Image caption: Simon Thomas
  32. Dysgu gydol oes

    Gwyn Price (Islwyn) yn gofyn i'r Gweinidog am ddatganiad am gyfranogiad mewn dysgu gydol oes.

    Mae'n ofynnol i ddarparwyr dysgu ôl-16 gyflwyno data ar ddysgwyr yng Nghymru drwy Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru.

    Gwyn Price
  33. Cymraeg fel ail iaith

    Gofynnodd Suzy Davies (Gorllewin De Cymru) am ddatganiad am nifer y myfyrwyr sy'n dysgu Cymraeg fel ail iaith mewn addysg ôl-16.

    Dywedodd Mr Lewis bod y ffigurau yn "siomedig a dim digon da".

    Suzy Davies
  34. Addysg a Sgiliau

    Bydd Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau, Huw Lewis yn cychwyn am 1.30pm. Mae'n braf yn y bae!

    Bae Caerdydd
  35. Hwyl am y tro

    Dyna ddiwedd y pwyllgor. Byddwn yn ôl am y Cyfarfod Llawn am 1.30pm

  36. Darpariaeth

    Mae'r mesur yn cynnwys darpariaeth ar gyfer:

    • yn caniatáu i Weinidogion Cymru roi stop ar unwaith ar unrhyw waith anawdurdodedig wneir ar henebion cofrestredig, gan ei gwneud yn haws cymryd camau yn erbyn y sawl sydd wedi difrodi neu ddinistrio heneb;

    • yn galluogi awdurdodau i weithredu'n gyflym os bydd adeilad rhestredig mewn perygl oherwydd gwaith anawdurdodedig, gan roi iddynt fwy o hyblygrwydd wrth ymdrin ag adeiladau hanesyddol y mae angen gwaith brys arnynt i'w gwarchod rhag dirywio ymhellach;

    • yn ei gwneud yn haws i berchnogion neu ddatblygwyr greu ffyrdd newydd a chynaliadwy o ddefnyddio adeiladau hanesyddol nad ydynt yn rhestredig, drwy lacio'r amodau ar gyfer gwneud cais am dystysgrif imiwnedd rhag rhestru;

    • yn creu cofrestr statudol o barciau a gerddi hanesyddol Cymru;

    • yn caniatáu i berchnogion asedau hanesyddol negodi cytundebau partneriaeth dreftadaeth, ar gyfer cyfnod o rai blynyddoedd, gyda'r awdurdod cydsynio. Bydd hyn yn cael gwared ar yr angen i wneud ceisiadau am gydsyniad dro ar ôl tro ar gyfer gwaith tebyg ac yn hyrwyddo dulliau mwy cyson a chydlynol o reoli adeiladau neu henebion;

    • yn sicrhau dyfodol mwy sefydlog i gofnodion amgylchedd hanesyddol Cymru, sy'n rhoi gwybodaeth a chyngor manwl ar yr amgylchedd hanesyddol i awdurdodau cynllunio lleol a'r cyhoedd;

    • yn gwneud y strwythurau presennol a ddefnyddir i ddynodi asedau hanesyddol o bwys cenedlaethol yn fwy agored a thryloyw drwy gyflwyno ymgynghori ffurfiol â pherchnogion a mecanwaith ar gyfer adolygu penderfyniadau;

    • yn sefydlu panel annibynnol i roi cyngor ar bolisïau a strategaeth ym maes yr amgylchedd hanesyddol ar lefel genedlaethol yng Nghymru.

  37. Panel Cynghori

    Andrew Marvell "yn croesawu yn fras sefydlu y Panel Cynghori" a fyddai, yn ôl y mesur, yn "cynghori ar bolisi amgylchedd hanesyddol a strategaeth ar lefel genedlaethol yng Nghymru."

    Mr Marvell sy'n cynrychioli ei gyd-dystion ar y Grŵp Amgylchedd Hanesyddol ar hyn o bryd.

    Andrew Marvell
  38. Cadw

    Mae Cadw yn rhoi cymorth grant i agweddau ar waith pedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol ranbarthol Cymru sy'n darparu gwasanaeth archeolegol rhanbarthol unffurf ledled Cymru.

    Sefydlwyd yr ymddiriedolaethau yng nghanol y 1970au, ac maent yn bodoli'n unswydd i ddiogelu, archwilio, cofnodi a hyrwyddo amgylchedd hanesyddol Cymru yn effeithiol. Maent yn gwmnïau cyfyngedig annibynnol gyda statws elusennol.

    Mae rhagor o wybodaeth am yr Ymddiriedolaethau a'u gwaith ar gael ar eu gwefannau:

    Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg-Gwent

    Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed

    Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd

    Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys

  39. Ymddiriedolaeth Archaeolegol

    Yn rhoi tystiolaeth y mae, Paul Belford, Cyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth, Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys; Ken Murphy, Cyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth, Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed; Andrew Davidson, Prif Archaeolegydd, Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd; Andrew Marvell, Prif Weithredwr, Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent.

    Tystion
  40. Cadeirydd dros dro

    Mae'r pwyllgor yn ailddechrau ond mae'r Cadeirydd, Christine Chapman, wedi gorfod esgusodi ei hun dros dro. Mike Hedges sydd wedi cael ei enwebu yn gadeirydd dros dro.

    Mike Hedges
  41. Egwyl

    Mae egwyl cyn cynnal sesiwn dystiolaeth gydag Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru.

  42. Addoldai

    Fel y mae, nid yw perchnogion adeiladau rhestredig o dan unrhyw rwymedigaeth cyfreithiol penodol i gadw eu heiddo mewn cyflwr da.

    Un mater a godwyd gan nifer o aelodau'r pwyllgor yw'r risg i addoldai.

    Mae'r mesur yn datgan: "Mae'r darpariaethau'n ehangu cwmpas gwaith brys ar adeiladau a feddiannir ac adeiladau nad ydynt wedi'u meddiannu ac maent yn diddymu'r cyfyngiad y gellir ond gwneud gwaith brys ar ddarnau nas defnyddir o adeiladau a feddiannir".

    Eglwys
  43. 30,000

    "Mae 30,000 o strwythurau rhestredig yng Nghymru" meddai'r aelod Llafur Mike Hedges.

    Mike Hedges
  44. Cytundebau Partneriaeth Treftadaeth

    Mae tystion yn defnyddio'r acronym HPA yn aml, mae hyn yn sefyll am Gytundebau Partneriaeth Treftadaeth.

    Maent yn caniatáu i berchnogion asedau hanesyddol gytuno i drefniadau gwirfoddol gyda'r awdurdodau sy'n rhoi caniatadau.

    Yn ôl Llywodraeth Cymru, "Byddai hynny'n rhyddhau'r perchnogion a'r awdurdodau rhag y baich o orfod ymdrin â'r un math o geisiadau dro ar ôl tro mewn perthynas â gwaith tebyg.

    "Ar yr un pryd, byddai'n hyrwyddo'r defnydd o ddulliau gweithredu mwy cyson a chydlynus ar gyfer rheoli'r adeiladau neu'r henebion".

  45. Tryloyw ac atebol

    Yn ôl Llywodraeth Cymru, yn fras, mae'r mesur "yn gwarchod adeiladau rhestredig a henebion cofrestredig yn fwy effeithiol; mae'n gwella'r mecanweithiau presennol ar gyfer rheoli'r amgylchedd hanesyddol mewn modd cynaliadwy; ac mae'n sicrhau bod penderfyniadau ynghylch yr amgylchedd hanesyddol yn cael eu gwneud mewn ffordd fwy tryloyw ac atebol".

    Un o dri safle treftadaeth y byd yw Pont Traphont Pontcysyllte
    Image caption: Un o dri safle treftadaeth y byd yw Pont Traphont Pontcysyllte
  46. Adfywio

    "Mae treftadaeth yn agwedd allweddol ar adfywio canol y ddinas" meddai Stephen Smith, Arweinydd y Tîm Dylunio a Chadwraeth, Dinas a Sir Abertawe.

    Stephen Smith
  47. Cynaliadwy

    Mae Mesur yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) yn rhan o gyfres o ddeddfwriaeth, polisïau, cyngor a chanllawiau sydd, yn ôl Llywodraeth Cymru, yn "cyflwyno newidiadau pwysig er mwyn gwella'r systemau presennol a ddefnyddir i warchod a rheoli amgylchedd hanesyddol Cymru mewn modd cynaliadwy."

    Cafodd y mesur ei gyflwyon gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates.

  48. Tystion

    Mae Peter Thomas, Chris Llewelyn a Stephen Smith yn rhoi tystiolaeth.

    Peter Thomas, Chris Llewelyn a Stephen Smith
  49. Sesiwn dystiolaeth

    Mae'r pwyllgor yn trafod Mesur yr Amgylchedd Hanesyddol, ac yn clywed gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cyngor Bro Morgannwg, a Dinas a Sir Abertawe

  50. Bore da

    Bore da a chroeso i BBC Democratiaeth Fyw, ein darpariaeth o drafodion Cynulliad Cymru. Bydd y Pwyllgor Cymunedau yn dechrau am 9:15.

    Senedd
    Image caption: Senedd