a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Anwen Lewis a Alun Jones

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Nos da

    Senedd

    A dyna ni am heddiw! Ymunwch â ni bore fory am 9am ar gyfer y Pwyllgor Amgylchedd.

    Nos da.

  2. 'Oedi'

    Mae Aled Roberts yn cwestiynu'r adnoddau ariannol sydd ar gael i fynd i'r afael â'r materion sy'n cael eu cynnwys yn y ddeddfwriaeth ddrafft, ac yn ychwanegu ei siom am yr "oedi o 18 mis / dwy flynedd."

  3. 'Tagfa'

    Mae'r aelod Plaid Cymru, Simon Thomas hefyd yn mynegi siom, gan ddweud bod y llywodraeth wedi cael cymaint o adolygiadau a mentrau dros y tair neu bedair blynedd diwethaf bod "tagfa erbyn hyn", gan greu "problemau capasiti a wnaed gan y llywodraeth ei hun."

    Mae Mr Lewis yn gwadu fod yna 'dagfa' gyda chraffu cyn deddfu ar y gweill.

  4. 'Siomedig iawn'

    Dywed y Ceidwadwr Angela Burns ei bod yn "siomedig iawn" na fydd y mesur drafft gerbron y Cynulliad y tymor hwn.

    Dywed bod "gan 23 % o blant Cymru'r diffiniad o anghenion dysgu ychwanegol."

  5. Craffu

    Mae Mr Lewis yn dweud y bydd yn cyhoeddi drafft o'r Mesur cyn bo hir er mwyn "caniatáu i fudd-ddeiliaid i roi sylwadau ar, ac ymateb i'r cynigion deddfwriaethol manwl mewn ffordd llawer mwy ystyrlon cyn iddynt gael eu cyflwyno i broses graffu ffurfiol y Cynulliad."

    Ychwanegodd y gweinidog addysg, "Rwy'n gwbl ymrwymedig i gyflawni system addysg hollol gynhwysol ar gyfer Cymru. Mae'n hollbwysig ein bod yn cyflawni er lles pob dysgwr yn y dosbarth er mwyn creu system addysg o'r radd flaenaf".

  6. Mesur Anghenion Dysgu Ychwanegol

    Eitem olaf y dydd yw datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Huw Lewis ar y Mesur Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg (Cymru) drafft.

  7. Cymunedau dros Waith

    Y gweinidog, Lesley Griffiths yn dweud y bydd y rhaglen Cymunedau dros Waith yn "helpu'r oedolion hynny sydd bellaf i ffwrdd o'r farchnad lafur i gael gwaith."

    Dywed fod y cam cyntaf wedi cael ei gymeradwyo gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru ac yn darparu buddsoddiad gwerth £30 miliwn i gefnogi cyflogaeth yn y 52 clwstwr Cymunedau yn Gyntaf.

    Dywed Ms Griffiths y bydd rhan dau o'r rhaglen yn canolbwyntio ar gefnogi pobl ifanc 16-24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.

    Lesley Griffiths
  8. £2 biliwn

    Yn ystod y cyfnod 2014-2020, bydd Cymru yn derbyn gwerth rhyw £2 biliwn o Gronfeydd Strwythurol Ewropeaidd i'w fuddsoddi yn y rhaglenni canlynol:

    •Rhaglenni Gorllewin Cymru a'r Cymoedd

    •Rhaglenni Dwyrain Cymru

  9. Cronfa Strwythurol Ewropeaidd

    Mae'r aeldoau wedi cyrraedd yr eitem olaf ond un, datganiad gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, Lesley Griffiths ar weithrediadau'r Gronfa Strwythurol Ewropeaidd i drechu tlodi.

  10. Colegau

    Mae'r aelod Plaid Cymru Simon Thomas yn dweud fod penaethiaid yn dweud wrtho fod athrawon â hyfforddwyd yn Lloegr yn "fwy barod ar gyfer yr ystafell ddosbarth na'r rhai sy'n dod allan o golegau yng Nghymru."

    Mae'n dweud ei fod yn "siomedig bod datganiad y gweinidog heddiw yn dweud dim am a oes angen symleiddio cyflwyno hyfforddiant athrawon. "

    Mae'n gofyn, "a allwn ni barhau i gael cymaint o golegau sy'n darparu hyfforddiant athrawon pan mae rhai yn brwydro i gynnal y safonau uchaf, a sut y gallwn ddatblygu arbenigedd yn y maes hwn yng Nghymru?"

    Simon Thomas
  11. Ail adroddiad

    Aelod Ceidwadol, Angela Burns yn dweud bod y ffaith fod yr Athro Furlong wedi gorfod cynhyrchu ail adroddiad "ddim yn adlewyrchu'n dda ar lywodraeth Cymru."

    Angela Burns
  12. 'Newid Radical'

    Mae'r Gweinidog Addysg, Huw Lewis, yn cymeradwyo canfyddiadau adroddiad Furlong ar hyfforddi athrawon ac yn dweud fod yr adroddiad yn golygu "newid radical" ar gyfer addysg athrawon yng Nghymru.

    Dywed y bydd y ffordd newydd yn cynnwys diwygio'r safonau addysgu proffesiynol a gwella ansawdd y cyrsiau hyfforddiant cychwynnol sydd ar gael i athrawon drwy ailwampio'r broses cymwysterau addysgu ac achredu.

    Huw Lewis
  13. Yr Athro John Furlong

    Ym mis Mawrth 2014 penodwyd yr Athro John Furlong yn Gynghorydd Cymru ar gyfer Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon.

    Gofynnwyd iddo ystyried a chwmpasu'r newidiadau sydd eu hangen i wella Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon yng Nghymru yn dilyn adolygiad gan yr Athro Ralph Tabberer yn 2013 ynghylch safon a chysondeb hyfforddiant athrawon.

    Cyhoeddwyd ei adroddiad ym mis Mawrth eleni.

  14. Addysgu Athrawon Yfory

    Mae'r aelodau yn symud ymlaen at ddatganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Huw Lewis, ar ymateb llywodraeth Cymru i Addysgu Athrawon Yfory - dewisiadau ar gyfer dyfodol Addysg Gychwynnol i Athrawon yng Nghymru.

  15. Lefelau absenoldeb

    Mae Rhodri Glyn Thomas yn mynegi pryder ynghylch lefelau absenoldeb yn y gwasanaeth tân a'r bobl sy'n gadael y gwasanaeth.

    Rhodri Glyn Thomas
  16. Rhaglen weithredu

    Dywed y gweinidog "rydyn ni wedi datblygu rhaglen weithredu gydgysylltiedig i fynd i'r afael â'r broblem o danau glaswellt yn y tymor byr, y tymor canolig a'r hirdymor, ar sail addysg, rheoli tir ac ataliaeth, gydag ymrwymiadau gan yr Heddlu, Tân ac Achub, Cyfoeth Naturiol Cymru, Awdurdodau Lleol a llywodraeth Cymru."

    Leighton Andrews
    Image caption: Leighton Andrews
  17. Tanau Glaswellt

    Mae'r aelodau yn symud ymlaen at yr eitem nesaf sef datganiad gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews, ar y camau gweithredu sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â risgiau sy'n ymwneud â Thanau Glaswellt yng Nghymru.

    Tanau Gaswellt
    Image caption: Tanau Gaswellt
  18. Astudiaethau achos

    Mae'r adroddiad blynyddol yn cynnwys nifer o astudiaethau achos "sy'n dangos sut y mae prosiectau ar draws Cymru wedi elwa o gyllid llywodraeth Cymru."

    Peter Black o'r Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud, er gwaethaf y buddsoddiad, bod "diweithdra yn parhau i fod yn ystyfnig o uchel"

  19. M4

    Mae Alun Ffred Jones yn dweud nad yw'n gallu gweld unrhyw gyfeiriad at gynlluniau dadleuol ar gyfer ffordd liniaru'r M4 yn yr adroddiad, ac yn gofyn a yw'r llywodraeth wedi newid ei meddyliau.

    Mae chwerthin Jane Hutt yn glywadwy.

  20. £1.2 biliwn

    Dywed y gweinidog, hyd yn hyn mae "£1.2 biliwn o gyllid, yn ychwanegol at gyllidebau adrannol craidd, wedi cefnogi cyfres o brosiectau sy'n darparu manteision gwirioneddol i bobl ledled Cymru."

  21. 'Blaenoriaeth pennaf'

    Yn ôl llywodraeth Cymru "buddsoddi mewn seilwaith yw un o'n blaenoriaethau pennaf. Mae'n cynnig cymhelliant angenrheidiol, gan greu'r amodau ar gyfer twf cynaliadwy yn y tymor canolig a'r hirdymor."

  22. Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith

    Mae'r aelodau yn symud ymlaen at y drydedd eitem gan y gweinidog Cyllid, Jane Hutt, yn olynol, y tro hwn datganiad ar Adroddiad Blynyddol Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru 2015.

  23. Taith cyllideb

    Jane Hutt yn dweud ei bod yn ymgymryd â "Taith Cyllideb" , wrth gynnal cyfarfodydd ledled Cymru i "ymgysylltu â phobl a sefydliadau" ym mhroses y gyllideb.

    Dyddiadau'r Taith Cyllideb yw:

    • 2 Gorffennaf, Cyffordd Llandudno

    • 15 Gorffennaf, Parc Cathays, Caerdydd

    • 23 Gorffennaf, Penllergaer, Abertawe

    • 3 Awst, Y Drenewydd

    • 10 Medi, Merthyr Tudful

    Jane Hutt
    Image caption: Jane Hutt
  24. Craffu

    Bob blwyddyn mae llywodraeth Cymru yn datblygu cynlluniau ar gyfer sut y mae'n bwriadu gwario ei Gyllideb, yn unol ag ymrwymiadau a blaenoriaethau yn y Rhaglen Lywodraethu.

    Mae'r cynlluniau hynny yn cael eu cyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru at ddibenion craffu a chymeradwyo.

    Mae'r broses gyllideb yn digwydd yn yr hydref fel bod cynlluniau yn cael eu cymeradwyo ymhell cyn dechrau'r flwyddyn ariannol nesaf ar 1 Ebrill.

  25. Taith Cyllideb 2015

    Mae'r aelodau wedi symud ymlaen at ddatganiad gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth, Jane Hutt ar Daith Cyllideb 2015 - Buddsoddi yn y Gymru a Garem.

  26. Pecynnau diswyddo

    Mae arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew RT Davies, yn galw ar lywodraeth Cymru i ryddhau manylion am becynnau diswyddo a delir i dri o'i uwch weision sifil sy'n gadael yn dilyn ymarfer ailstrwythuro.

  27. Datganiad Busens

    Mae'r Gweinidog Cyllid, Jane Hutt yn gwneud ei Datganiad a Chyhoeddiad Busnes wythnosol.

    Rhestrir busnes y Cynulliad yn y dyfodol hyd at dair wythnos o flaen llaw.

  28. Hofrennydd

    Carwyn Jones yn dweud os oedd gan Gymru'r un lefel o reolaeth dros blismona ac sydd gan yr Alban a Gogledd Iwerddon, ni fyddai ffraeo fel yr un dros hofrennydd heddlu Dyfed Powys yn digwydd.

    Hofrenydd
  29. Velothon

    Mae angen i'r Velothon gael ei drefnu yn well y tro nesaf, meddai'r prif weinidog mewn ymateb i gwestiwn gan Lindsay Whittle ar ei fanteision economaidd.

    Velothon Cymru
  30. 'Soprano'

    Mae hwn yn "gyfle cyffrous i lywodraeth leol" meddai'r Prif Weinidog, gan awgrymu eto y gallai ad-drefnu weld rhagor o bwerau i gynghorau.

    Mewn ymateb i heclo, awgrymodd Mr Jones y bydd llais Andrew RT Davies yn ei adael yn "soprano cyn bo hir."

  31. Amseroedd aros

    Amseroedd aros diagnostig y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn dechrau gwella, meddai'r prif weinidog mewn ymateb i arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Kirsty Williams.

    Kirsty Williams
    Image caption: Kirsty Williams
  32. Tlodi

    Faint o blant yng Nghymru sy'n byw mewn tlodi, yw cwestiwn arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.

    "Gormod" , meddai'r prif weinidog gan ychwanegu "rydym yn aros gyda rhywfaint o anesmwythder " am Gyllideb 8 Gorffennaf.

    Dywed Mr Jones fod awgrymiadau o doriadau i fudd-dal anabledd yn "anfon ias".

    Mae cyllideb o £240m y flwyddyn ar gyfer cymunedau a threchu tlodi, yn ôl Ms Wood, a dywed y gallai'r arian gael ei wario yn fwy effeithiol.

    Leanne Wood
    Image caption: Leanne Wood
  33. 'Hwyr'

    Mae adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio yn 12 mis yn hwyr meddai Mr Davies.

    Nid yw hynny'n fater i'r llywodraeth, meddai'r Prif Weinidog.

    Andrew R T Davies
    Image caption: Andrew R T Davies
  34. Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio

    Andrew RT Davies yn gofyn a oedd gwerthu tir yn ymwneud â Chronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio (RIFW) yn werth am arian.

    Dywed Mr Jones fod pryderon.

  35. Bathodynnau

    Mewn ymateb i AC Dwyrain Abertawe, Mike Hedges, dywed y Prif Weinidog ei fod wedi newid ei feddwl dros werth gwisgo bathodyn i siaradwyr Cymraeg ddynodi eu bod yn siarad yr iaith.

    Mewn geiriau eraill, roedd yn arfer bod yn amheus ond nid ydyw bellach.

    Comisiynydd y Gymraeg
  36. Pantycelyn

    Dywed y Prif Weinidog, wrth ymateb i Elin Jones, fod diogelu Pantycelyn fel neuadd preswyl Gymraeg yn "newyddion da iawn."

    Pantycelyn
    Image caption: Pantycelyn
  37. Yr iaith Gymraeg

    Elin Jones, AC Plaid Cymru dros Geredigion, yn dechrau drwy ofyn i'r Prif Weinidog i wneud datganiad am flaenoriaethau'r llywodraeth mewn perthynas â hyrwyddo'r iaith Gymraeg.

    Mr Jones yn ateb mai nod y polisi Bwrw Mlaen yw gweld y Gymraeg yn ffynnu yng Nghymru.

  38. Prynhawn Da

    Prynhawn da a chroeso i wasanaeth BBC Democratiaeth Fyw Cymru o'r Cynulliad.

    Bydd cwestiynau i'r prif weinidog yn dechrau am 1:30.

    Am restr o'r cwestiynau cliciwch yma.

    Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

    Y Siambr