Cytundeb rhyngwladol yw Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn sy'n nodi hawliau sifil, gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol bob un plentyn.
Hyrwyddo
Y Ceidwadwr Angela Burns yn galw ar lywodraeth Cymru "i wneud mwy i hyrwyddo Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn i'r cyhoedd yn gyffredinol".
BBCCopyright: BBC
Angela BurnsImage caption: Angela Burns
Hawliau
Mae'r Gweinidog Trechu Tlodi Lesley Griffiths yn cynnig bod y cynulliad yn nodi yr adroddiad ar Gydymffurfiaeth â'r ddyletswydd o dan adran 1 o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011.
Fe wnaeth y mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 dderbyn cefnogaeth unfrydol yn mis Ionawr 2011.
Rheoliadau
Mae'r aelodau wedi cymeradwyo:
Rheoliadau Gorchmynion Amddiffyn a Chynorthwyo Oedolion (Swyddog Awdurdodedig) (Cymru) 2015
Rheoliadau Byrddau Diogelu (Swyddogaethau a Gweithdrefnau) (Cymru) 2015
'Ateb pendant'
Mae'r Democrat Rhyddfrydol Eluned Parrott wedi dweud bod llywodraeth Cymru wedi "methu a rhoi ateb pendant i gwestiynau ynghylch y Metro".
Galwodd ar lywodraeth Cymru "nid yn unig i gyhoeddi map ac amserlen, ond i ddangos sut y bydd yn cyflwyno tocynnau integredig i symleiddio teithio ar gyfer teithwyr yng Nghymru".
BBCCopyright: BBC
Eluned ParrottImage caption: Eluned Parrott
Buddsoddiad cyfalaf
Dywed Edwina Hart, "Amcangyfrifir y bydd cyfanswm cost cam 2 rhwng £500 miliwn - £600 miliwn o fuddsoddiad cyfalaf.
"Rydym wedi dod i gytundeb gyda'r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth am gyfraniad o £125m tuag at y costau a rydym yn gwneud cais am £150m yn ychwanegol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop".
Metro
Mae'r aelodau yn canolbwyntio ar ddatganiad ynglyn â'r system Metro newydd, gan y Gweinidog Trafnidiaeth Edwina Hart.
Mae'r system yn debygol o fod yn gymysgedd o reilffyrdd ysgafn a thramiau, gwell gwasanaethau trenau a bysiau cyflymach yng Nghaerdydd a'r Cymoedd, erbyn 2020.
MetroCopyright: Metro
Map diweddara' o'r cynllun MetroImage caption: Map diweddara' o'r cynllun Metro
Ysgolion 'model'
Mae Simon Thomas AC yn dweud bod "Plaid Cymru eisoes wedi galw am system o ysgolion 'model' i arwain y cwricwlwm newydd ac i hyfforddi athrawon".
Dywedodd ei fod "yn dda gweld" bod y llywodraeth yn meddwl ar hyd yr un llinellau, ond bod yn rhaid i ysgolion gael "adnoddau priodol" a bod yn rhan o weithredu'r cynllun a nid gweithio fel arbrawf yn unig.
BBCCopyright: BBC
Simon ThomasImage caption: Simon Thomas
Amserlen
Cafwyd awgrymiadau y gallai'r newidiadau - y mwyaf ers i'r cwricwlwm cenedlaethol gael ei gyflwyno ar ddiwedd y 1980au - gymryd cyhyd â degawd i weithredu.
Mae Mr Lewis yn mynnu nad yw'n "rhuthro i osod amserlen", gyda mwy o fanylion yn cael eu cyhoeddi yn yr hydref.
Ysgolion arloesol
Bydd modd i ysgolion yng Nghymru fod yn ysgolion 'arloesol', i helpu cyflwyno newidiadau radical i'r cwricwlwm cenedlaethol, yn ôl y Gweinidog Addysg Huw Lewis.
Dywedodd Mr Lewis ei fod yn derbyn argymhellion adolygiad Donaldson, sy'n cynnig newidiadau megis torri nifer y profion, cael gwared ar y system 'cyfnodau allweddol' a rhoi mwy o ffocws ar gyfrifiadura a TG.
BBCCopyright: BBC
Huw LewisImage caption: Huw Lewis
Rhan amser
Mae'r Democrat Rhyddfrydol Peter Black wedi cwestiynu sut y gallai cynghorydd rhan amser gael yr amser i gyflawni'r tasgau a grëwyd ar ei g/chyfer.
Awgrymodd hefyd ei fod yn adlewyrchiad o ymrwymiad "rhan amser" llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â cham-drin domestig.
BBCCopyright: BBC
Peter BlackImage caption: Peter Black
Deddf arloesol
Dywed Mr Andrews bod hon "yn ddeddf hanesyddol, y cyntaf o'i math yn y DU ac un o'r deddfau mwyaf arloesol a basiwyd gan y Cynulliad hwn".
Mae'n dweud ei fod yn "falch o'r datblygiadau a wnaed yn ystod y flwyddyn ddiwethaf", gan gynnwys "datblygu rheoliadau sy'n rhoi dyletswydd ar Awdurdodau Lleol i adrodd yn flynyddol yr hyn y maent yn ei wneud i fynd i'r afael â'r materion hyn mewn safleoedd addysg, gan gynnwys ysgolion".
BBCCopyright: BBC
Leighton AndrewsImage caption: Leighton Andrews
Trais
Mae'r aelodau yn gwrando ar ddatganiad gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus Leighton Andrews ar y Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol - flwyddyn ers ei chyflwyno.
Cefndir
Dyma aelodau Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru:
• Norma Barry, InsideOut Organisational Solutions
• Annitta Engel, D.B.G.E Limited
• Catherine Fookes, Organic Trade Board
• Justine Sarah Fosh, Improve
• Buster Grant, Brecon Brewing
• Alison Lea-Wilson, Halen Môn
• David Lloyd, Canolfan y Diwydiant Bwyd
• Katie Palmer, Bwyd Cynaliadwy Caerdydd
• Llior Radford, Llaeth y Llan
• Andy Richardson, Volac
• Justin Scale, Capstone Organic
• Marcus Sherreard, Dawn Meats
• Huw Thomas, Puffin Produce
• James Wilson, Cymdeithas Pysgotwyr Cymru
Cynllun gweithredu
Mae'r dirprwy weindiog yn dweud bod y cynllun gweithredu sydd wedi'i ddiweddaru yn cynnwys "gwaith sylweddol i ailddiffinio delwedd Bwyd a Diod Cymru a fydd yn cwmpasu amrywiaeth y diwydiant bwyd ac yn hyrwyddo a dathlu'r Gymraeg".
Ychwanegodd bod yr ystadegau diweddaraf ar gyfer ffermio a bwyd yn dangos "trosiant o £5.8bn sy'n golygu ein bod eisoes wedi cyflawni twf o 11.5% ers 2012-13".
BBCCopyright: BBC
Rebecca EvansImage caption: Rebecca Evans
Bwyd a Diod
Mae'r aelodau yn symud ymlaen i drafod datganiad y Dirprwy Weinidog Amaeth a Bwyd Rebecca Evans, ar y cynllun gweithredu ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod 2014-2020.
Ynni adnewyddadwy
Mae Russell George yn dweud bod nodyn cyngor technegol 8 "yn amherthnasol" yn dilyn cyhoeddiad llywodraeth y DU y bydd ffermydd gwynt newydd yn cael eu heithrio o gynllun cymhorthdal, o 1 Ebrill 2016, flwyddyn yn gynharach na'r disgwyl.
Wrth ymateb mae'r prif weinidog yn dweud bod polisïau llywodraeth y DU ar ynni adnewyddadwy yn "ddirgelwch".
Pwynt o Drefn?
Mae Mr Davies yn codi Pwynt o Drefn yn dilyn awgrymiadau bod ganddo ddiddordeb personol wrth godi cwestiynau am ffermio.
Yn ôl y Prif Weinidog y dylai Andrew RT Davies gyhoeddi faint o arian mae'n ei dderbyn mewn cymorthdaliadau fferm.
Mae'r llywydd yn datgan nad yw hwn yn Bwynt o Drefn.
Cynllun Taliadau Sylfaenol
Yn ôl Arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies mae "ansicrwydd mawr" yn y diwydiant ffermio yng Nghymru am ddyfodol y Cynllun Taliadau Sylfaenol.
Wrth ymateb mae Mr Jones yn datgan y bydd cyhoeddiad cyn bo hir ac ni fydd ffermwyr yn colli allan.
BBCCopyright: BBC
Andrew RT DaviesImage caption: Andrew RT Davies
Allyriadau
Mae Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Kirsty Williams yn cwestiynu ymroddiad llywodraeth Cymru i gyrraedd targedau i dorri allyriadau.
BBCCopyright: BBC
Kirsty WilliamsImage caption: Kirsty Williams
Andy Burnham
Mae Arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn trafod cyfaddefiad ymgyrchydd arweinyddiaeth y Blaid Lafur Andy Burnham nad oedd Cymru yn cael cyfran deg o arian y DU pan oedd yn weinidog yn y Trysorlys wyth mlynedd yn ôl.
Ymateba'r prif weinidog nad yw yma i egluro sylwadau ymgeiswyr arweinyddiaeth y Blaid Lafur.
Mae Leanne Wood yn dweud bod Llafur yn trin Cymru'n wahanol.
Leanne Wood says Labour "are singling Wales out".
BBCCopyright: BBC
Leanne WoodImage caption: Leanne Wood
Irfon Williams
Dywed y prif weinidog ei fod yn croesawu'r gwellhad "anarferol iawn" a wnaed gan yr ymgyrchydd Irfon Williams, sydd wedi derbyn triniaeth canser yn Lloegr.
Dywedodd meddygon wrth Irfon Williams, 44, o Fangor, Gwynedd, y llynedd fod dwy flynedd i fyw oherwydd canser y coluddyn.
Aeth i fyw gyda pherthnasau er mwyn cael cyllid ar gyfer y cyffur Cetuximab, sy'n gallu ymestyn bywydau cleifion.
BBCCopyright: BBC
Irfon Williams a'i blantImage caption: Irfon Williams a'i blant
Yn barod
Roedd y GIG yng Nghymru yn barod i wneud yr hyn a oedd ei angen, gan gynnwys cynnig cwnsela i oroeswyr, meddai Mr Jones.
Fe wnaeth y prif weinidog hefyd ganmol y "weithred anhygoel o ddewrder greddfol" a ddangoswyd gan Matthew James o Drehafod, a gafodd ei saethu tra'n amddiffyn ei ddarpar wraig Saera Wilson.
'Mwyafrif helaeth'
"Nid yw safbwyntiau'r saethwr yn adlewyrchu safbwyntiau'r mwyafrif helaeth o bobl Tunisia neu'r mwyafrif llethol o Fwslemiaid", meddai Carwyn Jones.
BBCCopyright: BBC
Carwyn JonesImage caption: Carwyn Jones
Teyrnged
Cafodd mam o Sir Caerffili ei lladd yn ystod yr ymosodiad yn Tunisia. Mae'n ymddangos bod Trudy Jones, 51, o'r Coed Duon, a oedd ar wyliau gyda ffrindiau, ar y traeth yn Sousse pan ddechreuodd ddyn saethu yno ddydd Gwener.
"Mae ein meddyliau gyda'r teuluoedd sy'n dioddef cymaint", meddai'r prif weinidog.
Ychwenega "nid ydym yn gwybod os oes rhagor o Gymry wedi cael eu lladd neu eu hanafu yn Tunisia".
Cwestiwn brys
Croeso nôl. Bydd y sesiwn lawn yn dechrau am 1.30pm gyda chwestiwn brys.
Bydd Arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies yn gofyn am ddatganiad gan y prif weinidog ynglyn â'r diwgwyddiadau trychinebus yn Tiwnisia yr wythnos ddiwethaf.
Hwyl am y tro
Dyna ddiwedd y pwyllgor. Bydd y cyfarfod llawn yn dechrau am 1.30pm.
'Rhataf yn Ewrop'
"Prisiau band eang yn y DU yw'r rhataf yn Ewrop oherwydd y gystadleuaeth a'r dewis" meddai Ms Beynon.
Busnesau
Aled Roberts AC yn dweud busnesau ar Ystad Ddiwydiannol Wrecsam ac ym mharth menter Glannau Dyfrdwy yn cwyno bod y gwasanaeth yn annigonol ac yn effeithio ar eu busnesau.
Ann Beynon yn ateb bod y "sefyllfa yn Wrecsam yn gymhleth" gan ychwanegu bod rhai cabinetau yn cael eu hadeiladu, ynghyd â rhai Cysylltiadau Ffeibr i'r Adeilad (FTTP), cryn dipyn ohono yn y parc busnes, ond mae rhan o'r parc busnes sydd ddim yn rhan o'r cytundeb busnes o gwbl."
BBCCopyright: BBC
Ann BeynonImage caption: Ann Beynon
'Hynod uchel'
Mae band eang cyflym iawn yn tua 95% o Flaenau Gwent, yn ôl Mr Hunt.
Ychwanegoodd "mae'n hynod o uchel yno, ac yn Rhondda Cynon Taf a Merthyr yn ogystal mae lefelau radd flaenaf - megis Japan a De Korea - mae 95% yn lefelau hynod uchel".
Cefndir
Yn ôl BT, bydd y dechnoleg ffeibr i'r cabinet yn darparu gwasanaeth fydd yn gallu derbyn data ar gyflymder hyd at 80Mbps ac anfon hyd at 20Mbps, sef cynnydd sylweddol ar y cyflymder derbyn cyfartalog presennol o 5-6 Mbps. Bydd yn chwyldroi cysylltiadau arl-ein cartrefi a busnesau, gan hwyluso rhannu lluniau a miwsig, ffrydio fideo a theledu byw, fideo-gynadledda a chyfrifiadura cwmwl ar gyfer miloedd o fusnesau a mentrau ar draws y wlad.
Yn ogystal â'r rhwydwaith ffeibr i'r cabinet, fe ddarperir technoleg ffeibr i'r adeilad (cysylltiad ffeibr uniongyrchol â chartrefi a busnesau) ar gais, ar gyflymder hyd at 100Mbps.
BTCopyright: BT
Cabinet BTImage caption: Cabinet BT
Buddsoddiad
Bydd Cyflymu Cymru, ynghyd â buddsoddiad BT yng Nghymru, yn buddsoddi £425 miliwn i ddarparu band llydan uwchgyflym ar draws y wlad.
Mae'n cynrychioli buddsoddiad o £205 miliwn gan y sector cyhoeddus, yn cynnwys cyllid strwythurol Ewrop (ERDF) o £89.5 miliwn (£80 miliwn yn gyllid Cydgyfeiriedig), £56.9 miliwn gan Lywodraeth San Steffan a £58.6 miliwn llywodraeth Cymru.
'Amhosibl rhagweld'
"Mae'n bron yn amhosibl rhagweld a gallu dweud wrth bobl gyda sicrwydd y bydd eich adeilad yn cael band eang cyflym iawn ar ddyddiad penodol" meddai Ed Hunt.
BBCCopyright: BBC
Cyflymu Cymru
Sefydlwyd rhaglen Cyflymu Cymru fel partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a BT er mwyn lledu band llydan ffeibr i'r rhan helaeth o ardaloedd na fyddai'n derbyn gwasanaeth masnachol. Wrth ei gyfuno â'r gwaith masnachol (gan Openreach a chwmnïau eraill) y nod yw cysylltu 96% o Gymru â rhwydwaith band llydan ffeibr o radd fyd-eang.
BBCCopyright: BBC
Swyddfa Archwilio Cymru
Dyma adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar fuddsoddiad Llywodraeth Cymru yn seilwaith band eang y genhedlaeth nesaf.
Band eang cyflym iawn
Mae 511,000 eiddo â band eang cyflym iawn yng Nghymru, yn ôl Ed Hunt.
Ann Beynon, Cyfarwyddwr Cymru BT, ac Ed Hunt, Cyfarwyddwr y Rhaglen, Cyflymu Cymru, BT sy'n rhoi tystiolaeth ar fuddsoddiad Llywodraeth Cymru yn Isadeiledd Band Eang y Genhedlaeth Nesaf.
BBCCopyright: BBC
Ann Beynon ac Ed HuntImage caption: Ann Beynon ac Ed Hunt
Y diweddaraf yn fyw
Gan Alun Jones a Janet Ebenezer
Mae pob amser yn lleol i'r DU
Nos da
A dyna ni gan Democratiaeth Fyw am heddiw.
Fe fyddwn yn ôl yfory gyda'r Pwyllgor Iechyd.
Hwyl!
Cytundeb rhyngwladol
Cytundeb rhyngwladol yw Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn sy'n nodi hawliau sifil, gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol bob un plentyn.
Hyrwyddo
Y Ceidwadwr Angela Burns yn galw ar lywodraeth Cymru "i wneud mwy i hyrwyddo Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn i'r cyhoedd yn gyffredinol".
Hawliau
Mae'r Gweinidog Trechu Tlodi Lesley Griffiths yn cynnig bod y cynulliad yn nodi yr adroddiad ar Gydymffurfiaeth â'r ddyletswydd o dan adran 1 o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011.
Fe wnaeth y mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 dderbyn cefnogaeth unfrydol yn mis Ionawr 2011.
Rheoliadau
Mae'r aelodau wedi cymeradwyo:
'Ateb pendant'
Mae'r Democrat Rhyddfrydol Eluned Parrott wedi dweud bod llywodraeth Cymru wedi "methu a rhoi ateb pendant i gwestiynau ynghylch y Metro".
Galwodd ar lywodraeth Cymru "nid yn unig i gyhoeddi map ac amserlen, ond i ddangos sut y bydd yn cyflwyno tocynnau integredig i symleiddio teithio ar gyfer teithwyr yng Nghymru".
Buddsoddiad cyfalaf
Dywed Edwina Hart, "Amcangyfrifir y bydd cyfanswm cost cam 2 rhwng £500 miliwn - £600 miliwn o fuddsoddiad cyfalaf.
"Rydym wedi dod i gytundeb gyda'r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth am gyfraniad o £125m tuag at y costau a rydym yn gwneud cais am £150m yn ychwanegol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop".
Metro
Mae'r aelodau yn canolbwyntio ar ddatganiad ynglyn â'r system Metro newydd, gan y Gweinidog Trafnidiaeth Edwina Hart.
Mae'r system yn debygol o fod yn gymysgedd o reilffyrdd ysgafn a thramiau, gwell gwasanaethau trenau a bysiau cyflymach yng Nghaerdydd a'r Cymoedd, erbyn 2020.
Ysgolion 'model'
Mae Simon Thomas AC yn dweud bod "Plaid Cymru eisoes wedi galw am system o ysgolion 'model' i arwain y cwricwlwm newydd ac i hyfforddi athrawon".
Dywedodd ei fod "yn dda gweld" bod y llywodraeth yn meddwl ar hyd yr un llinellau, ond bod yn rhaid i ysgolion gael "adnoddau priodol" a bod yn rhan o weithredu'r cynllun a nid gweithio fel arbrawf yn unig.
Amserlen
Cafwyd awgrymiadau y gallai'r newidiadau - y mwyaf ers i'r cwricwlwm cenedlaethol gael ei gyflwyno ar ddiwedd y 1980au - gymryd cyhyd â degawd i weithredu.
Mae Mr Lewis yn mynnu nad yw'n "rhuthro i osod amserlen", gyda mwy o fanylion yn cael eu cyhoeddi yn yr hydref.
Ysgolion arloesol
Bydd modd i ysgolion yng Nghymru fod yn ysgolion 'arloesol', i helpu cyflwyno newidiadau radical i'r cwricwlwm cenedlaethol, yn ôl y Gweinidog Addysg Huw Lewis.
Dywedodd Mr Lewis ei fod yn derbyn argymhellion adolygiad Donaldson, sy'n cynnig newidiadau megis torri nifer y profion, cael gwared ar y system 'cyfnodau allweddol' a rhoi mwy o ffocws ar gyfrifiadura a TG.
Rhan amser
Mae'r Democrat Rhyddfrydol Peter Black wedi cwestiynu sut y gallai cynghorydd rhan amser gael yr amser i gyflawni'r tasgau a grëwyd ar ei g/chyfer.
Awgrymodd hefyd ei fod yn adlewyrchiad o ymrwymiad "rhan amser" llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â cham-drin domestig.
Deddf arloesol
Dywed Mr Andrews bod hon "yn ddeddf hanesyddol, y cyntaf o'i math yn y DU ac un o'r deddfau mwyaf arloesol a basiwyd gan y Cynulliad hwn".
Mae'n dweud ei fod yn "falch o'r datblygiadau a wnaed yn ystod y flwyddyn ddiwethaf", gan gynnwys "datblygu rheoliadau sy'n rhoi dyletswydd ar Awdurdodau Lleol i adrodd yn flynyddol yr hyn y maent yn ei wneud i fynd i'r afael â'r materion hyn mewn safleoedd addysg, gan gynnwys ysgolion".
Trais
Mae'r aelodau yn gwrando ar ddatganiad gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus Leighton Andrews ar y Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol - flwyddyn ers ei chyflwyno.
Cefndir
Dyma aelodau Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru:
• Norma Barry, InsideOut Organisational Solutions
• Annitta Engel, D.B.G.E Limited
• Catherine Fookes, Organic Trade Board
• Justine Sarah Fosh, Improve
• Buster Grant, Brecon Brewing
• Alison Lea-Wilson, Halen Môn
• David Lloyd, Canolfan y Diwydiant Bwyd
• Katie Palmer, Bwyd Cynaliadwy Caerdydd
• Llior Radford, Llaeth y Llan
• Andy Richardson, Volac
• Justin Scale, Capstone Organic
• Marcus Sherreard, Dawn Meats
• Huw Thomas, Puffin Produce
• James Wilson, Cymdeithas Pysgotwyr Cymru
Cynllun gweithredu
Mae'r dirprwy weindiog yn dweud bod y cynllun gweithredu sydd wedi'i ddiweddaru yn cynnwys "gwaith sylweddol i ailddiffinio delwedd Bwyd a Diod Cymru a fydd yn cwmpasu amrywiaeth y diwydiant bwyd ac yn hyrwyddo a dathlu'r Gymraeg".
Ychwanegodd bod yr ystadegau diweddaraf ar gyfer ffermio a bwyd yn dangos "trosiant o £5.8bn sy'n golygu ein bod eisoes wedi cyflawni twf o 11.5% ers 2012-13".
Bwyd a Diod
Mae'r aelodau yn symud ymlaen i drafod datganiad y Dirprwy Weinidog Amaeth a Bwyd Rebecca Evans, ar y cynllun gweithredu ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod 2014-2020.
Ynni adnewyddadwy
Mae Russell George yn dweud bod nodyn cyngor technegol 8 "yn amherthnasol" yn dilyn cyhoeddiad llywodraeth y DU y bydd ffermydd gwynt newydd yn cael eu heithrio o gynllun cymhorthdal, o 1 Ebrill 2016, flwyddyn yn gynharach na'r disgwyl.
Wrth ymateb mae'r prif weinidog yn dweud bod polisïau llywodraeth y DU ar ynni adnewyddadwy yn "ddirgelwch".
Pwynt o Drefn?
Mae Mr Davies yn codi Pwynt o Drefn yn dilyn awgrymiadau bod ganddo ddiddordeb personol wrth godi cwestiynau am ffermio.
Yn ôl y Prif Weinidog y dylai Andrew RT Davies gyhoeddi faint o arian mae'n ei dderbyn mewn cymorthdaliadau fferm.
Mae'r llywydd yn datgan nad yw hwn yn Bwynt o Drefn.
Cynllun Taliadau Sylfaenol
Yn ôl Arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies mae "ansicrwydd mawr" yn y diwydiant ffermio yng Nghymru am ddyfodol y Cynllun Taliadau Sylfaenol.
Wrth ymateb mae Mr Jones yn datgan y bydd cyhoeddiad cyn bo hir ac ni fydd ffermwyr yn colli allan.
Allyriadau
Mae Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Kirsty Williams yn cwestiynu ymroddiad llywodraeth Cymru i gyrraedd targedau i dorri allyriadau.
Andy Burnham
Mae Arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn trafod cyfaddefiad ymgyrchydd arweinyddiaeth y Blaid Lafur Andy Burnham nad oedd Cymru yn cael cyfran deg o arian y DU pan oedd yn weinidog yn y Trysorlys wyth mlynedd yn ôl.
Ymateba'r prif weinidog nad yw yma i egluro sylwadau ymgeiswyr arweinyddiaeth y Blaid Lafur.
Mae Leanne Wood yn dweud bod Llafur yn trin Cymru'n wahanol.
Leanne Wood says Labour "are singling Wales out".
Irfon Williams
Dywed y prif weinidog ei fod yn croesawu'r gwellhad "anarferol iawn" a wnaed gan yr ymgyrchydd Irfon Williams, sydd wedi derbyn triniaeth canser yn Lloegr.
Dywedodd meddygon wrth Irfon Williams, 44, o Fangor, Gwynedd, y llynedd fod dwy flynedd i fyw oherwydd canser y coluddyn.
Aeth i fyw gyda pherthnasau er mwyn cael cyllid ar gyfer y cyffur Cetuximab, sy'n gallu ymestyn bywydau cleifion.
Yn barod
Roedd y GIG yng Nghymru yn barod i wneud yr hyn a oedd ei angen, gan gynnwys cynnig cwnsela i oroeswyr, meddai Mr Jones.
Fe wnaeth y prif weinidog hefyd ganmol y "weithred anhygoel o ddewrder greddfol" a ddangoswyd gan Matthew James o Drehafod, a gafodd ei saethu tra'n amddiffyn ei ddarpar wraig Saera Wilson.
'Mwyafrif helaeth'
"Nid yw safbwyntiau'r saethwr yn adlewyrchu safbwyntiau'r mwyafrif helaeth o bobl Tunisia neu'r mwyafrif llethol o Fwslemiaid", meddai Carwyn Jones.
Teyrnged
Cafodd mam o Sir Caerffili ei lladd yn ystod yr ymosodiad yn Tunisia. Mae'n ymddangos bod Trudy Jones, 51, o'r Coed Duon, a oedd ar wyliau gyda ffrindiau, ar y traeth yn Sousse pan ddechreuodd ddyn saethu yno ddydd Gwener.
"Mae ein meddyliau gyda'r teuluoedd sy'n dioddef cymaint", meddai'r prif weinidog.
Ychwenega "nid ydym yn gwybod os oes rhagor o Gymry wedi cael eu lladd neu eu hanafu yn Tunisia".
Cwestiwn brys
Croeso nôl. Bydd y sesiwn lawn yn dechrau am 1.30pm gyda chwestiwn brys.
Bydd Arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies yn gofyn am ddatganiad gan y prif weinidog ynglyn â'r diwgwyddiadau trychinebus yn Tiwnisia yr wythnos ddiwethaf.
Hwyl am y tro
Dyna ddiwedd y pwyllgor. Bydd y cyfarfod llawn yn dechrau am 1.30pm.
'Rhataf yn Ewrop'
"Prisiau band eang yn y DU yw'r rhataf yn Ewrop oherwydd y gystadleuaeth a'r dewis" meddai Ms Beynon.
Busnesau
Aled Roberts AC yn dweud busnesau ar Ystad Ddiwydiannol Wrecsam ac ym mharth menter Glannau Dyfrdwy yn cwyno bod y gwasanaeth yn annigonol ac yn effeithio ar eu busnesau.
Ann Beynon yn ateb bod y "sefyllfa yn Wrecsam yn gymhleth" gan ychwanegu bod rhai cabinetau yn cael eu hadeiladu, ynghyd â rhai Cysylltiadau Ffeibr i'r Adeilad (FTTP), cryn dipyn ohono yn y parc busnes, ond mae rhan o'r parc busnes sydd ddim yn rhan o'r cytundeb busnes o gwbl."
'Hynod uchel'
Mae band eang cyflym iawn yn tua 95% o Flaenau Gwent, yn ôl Mr Hunt.
Ychwanegoodd "mae'n hynod o uchel yno, ac yn Rhondda Cynon Taf a Merthyr yn ogystal mae lefelau radd flaenaf - megis Japan a De Korea - mae 95% yn lefelau hynod uchel".
Cefndir
Yn ôl BT, bydd y dechnoleg ffeibr i'r cabinet yn darparu gwasanaeth fydd yn gallu derbyn data ar gyflymder hyd at 80Mbps ac anfon hyd at 20Mbps, sef cynnydd sylweddol ar y cyflymder derbyn cyfartalog presennol o 5-6 Mbps. Bydd yn chwyldroi cysylltiadau arl-ein cartrefi a busnesau, gan hwyluso rhannu lluniau a miwsig, ffrydio fideo a theledu byw, fideo-gynadledda a chyfrifiadura cwmwl ar gyfer miloedd o fusnesau a mentrau ar draws y wlad.
Yn ogystal â'r rhwydwaith ffeibr i'r cabinet, fe ddarperir technoleg ffeibr i'r adeilad (cysylltiad ffeibr uniongyrchol â chartrefi a busnesau) ar gais, ar gyflymder hyd at 100Mbps.
Buddsoddiad
Bydd Cyflymu Cymru, ynghyd â buddsoddiad BT yng Nghymru, yn buddsoddi £425 miliwn i ddarparu band llydan uwchgyflym ar draws y wlad.
Mae'n cynrychioli buddsoddiad o £205 miliwn gan y sector cyhoeddus, yn cynnwys cyllid strwythurol Ewrop (ERDF) o £89.5 miliwn (£80 miliwn yn gyllid Cydgyfeiriedig), £56.9 miliwn gan Lywodraeth San Steffan a £58.6 miliwn llywodraeth Cymru.
'Amhosibl rhagweld'
"Mae'n bron yn amhosibl rhagweld a gallu dweud wrth bobl gyda sicrwydd y bydd eich adeilad yn cael band eang cyflym iawn ar ddyddiad penodol" meddai Ed Hunt.
Cyflymu Cymru
Sefydlwyd rhaglen Cyflymu Cymru fel partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a BT er mwyn lledu band llydan ffeibr i'r rhan helaeth o ardaloedd na fyddai'n derbyn gwasanaeth masnachol. Wrth ei gyfuno â'r gwaith masnachol (gan Openreach a chwmnïau eraill) y nod yw cysylltu 96% o Gymru â rhwydwaith band llydan ffeibr o radd fyd-eang.
Swyddfa Archwilio Cymru
Dyma adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar fuddsoddiad Llywodraeth Cymru yn seilwaith band eang y genhedlaeth nesaf.
Band eang cyflym iawn
Mae 511,000 eiddo â band eang cyflym iawn yng Nghymru, yn ôl Ed Hunt.
Tystion
Ann Beynon, Cyfarwyddwr Cymru BT, ac Ed Hunt, Cyfarwyddwr y Rhaglen, Cyflymu Cymru, BT sy'n rhoi tystiolaeth ar fuddsoddiad Llywodraeth Cymru yn Isadeiledd Band Eang y Genhedlaeth Nesaf.
Bore da
Ar ddiwrnod poethaf y flwyddyn hyd yn hyn, croeso i BBC Democratiaeth Fyw.
Bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn dechrau am 9.