a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. 9am: Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.
  2. Mae'r Cyfarfod Llawn yn dechrau am 1:30pm, eitem gynta'r prynhawn oedd cwestiynau i'r prif weinidog.
  3. Nesaf: Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg: Band Eang Cyflym Iawn.
  4. Nesaf: Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Y Diweddaraf ar Borthladdoedd.
  5. Nesaf: Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: Blwyddyn Antur 2016.
  6. Nesaf: Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd: Cynllun Taliad Sylfaenol y Polisi Amaethyddol Cyffredin.

Y diweddaraf yn fyw

Gan Anwen Lewis a Alun Jones

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Nos da

    Dyna ni gan BBC Democratiaeth Fyw Cymru am heddiw.

    Fe fyddwn ni yn ôl ar gyfer y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am 9:30am bore fory.

    Senedd
  2. 'Angen ail-feddwl'

    Mae Mr Powell yn un o nifer aelodau'r Cynulliad i alw am ail-feddwl am y cynlluniau i gael gwared â hofrennydd Heddlu Dyfed-Powys.

    Fel rhan o gynllun ad-drefnu, bwriad Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu (NPAS) yw cau lleoliad presennol hofrennydd Heddlu Dyfed-Powys ym Mhenbre, ger Llanelli ar Ddydd Calan 2016.

    Dywed NPAS y bydd yr ardal yn cael ei gwasanaethu gan hofrennydd wedi ei leoli ym Mhenarlâg yn Sir Fflint ac un arall sydd wedi ei leoli yn Sain Tathan.

    Mr Powell yn dweud, "Mae'n rhaid i'r cynllun gwallus i gael gwared ar hofrennydd yr heddlu gael ei atal."

    Hofrennydd Dyfed-Powys
  3. Hofrennydd heddlu Dyfed-Powys

    Mae'r aelodau wedi symud ymlaen at eitem ola'r diwrnod sef y ddadl fer.

    Pwnc William Powell yw "Hofrennydd heddlu Dyfed-Powys: pam mae'r X99 yn darparu cefnogaeth hanfodol i ddiogelwch y cyhoedd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru."

  4. Egwyddorion cyffredinol

    Aelodau'n cytuno i egwyddorion cyffredinol y Mesur Rhentu Cartrefi (Cymru).

  5. Hawliau dynol

    David Melding, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, yn esbonio saith o argymhellion y pwyllgor.

    Yn eu plith yw bod llywodraeth Cymru yn rhoi rhagor o wybodaeth am sut y mae'r Mesur yn ymgysylltu â hawliau dynol ac os gall y Gweinidog gyfiawnhau ymyrraeth, ar ba sail y byddai hynny.

    David Melding
    Image caption: David Melding
  6. Argymhellion

    Mae Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, Christine Chapman yn crynhoi rhai o'r 37 o argymhellion gan y pwyllgor.

    Ymhlith yr argymhellion yw bod y gweinidog yn cyhoeddi rhestr o'r holl ddiwygiadau a diddymiadau i gael eu gwneud i'r ddeddfwriaeth bresennol o ganlyniad i'r Mesur, a'i bod yn gwneud hynny cyn i'r Pwyllgor gwblhau ei ystyriaeth o'r Mesur.

    Christine Chapman
  7. Cynigion

    Dyma a gynigir yn y Mesur yn ôl y llywodraeth:

    • Dau brif fath o gontract meddiannaeth, i gymryd lle'r trefniadau meddiannaeth presennol;
    • Bydd telerau sylfaenol y contractau newydd hyn yn cael eu gosod allan ar wyneb y Mesur; ceir telerau atodol yn y rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru a thelerau ychwanegol y gall y landlord a deiliad y contract eu negodi a chytuno arnynt;
    • Bydd yn rhaid i'r contractau ymdrin hefyd â materion allweddol fel cyfeiriad yr eiddo, lefel y rhent a'r cyfnod rhentu; a
    • Contractau model a fydd yn ymgorffori'r telerau sylfaenol ac atodol perthnasol, gan ddibynnu ar yr amgylchiadau.
  8. Mesur Rhentu Cartrefi

    Mae'r aelodau wedi symud ymlaen at ddadl ar benderfyniad ariannol y Mesur Rhentu Cartrefi (Cymru).

  9. Rheoliadau Gwasanaethau Cymdeithasol

    Cytunodd yr aelodau ar

    • Rheoliadau Gofal a Chymorth (Trefniadau Partneriaeth ar gyfer Asesiadau Poblogaeth) (Cymru) 2015: a
    • Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Mentrau Cymdeithasol, Cydweithredol a Thrydydd Sector) (Cymru) 2015
  10. Rheoliadau Addysg Uwch

    Aelodau yn cytuno ar dri Rheoliad Addysg Uwch.

  11. Comisiwn Ewropeaidd

    Mae'r dirprwy weinidog yn dweud y bydd Llywodraeth Cymru nawr yn gofyn i'r Comisiwn Ewropeaidd am ei gymeradwyaeth a symud "yn gyflym" i roi'r model newydd hwn ar waith er mwyn talu'r rhandaliadau mor fuan â phosibl o fewn cyfnod talu'r UE.

  12. 'Cyfnod gwarthus'

    William Powell o'r Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud fod penderfyniad heddiw ar y dull o dalu ar gyfer y Cynllun Taliad Sylfaenol yng Nghymru "yn dod â chyfnod gwarthus i ben, a gafodd ei greu gan lywodraeth Cymru ei hun."

    William Powell
  13. 'Smonach'

    Aelod Plaid Cymru, Llŷr Gruffydd, yn dweud bod ffermwyr o'r diwedd wedi cael mwy o sicrwydd ar ôl y "smonach" y mae'r llywodraeth Lafur wedi gwneud o'r broses hyd yn hyn.

    Cafodd cynlluniau gwreiddiol y dirprwy weinidog ar gyfer system taliadau uniongyrchol PAC newydd, ar sail dosbarthiad tir, eu herio'n llwyddiannus yn y llysoedd y llynedd.

    Llŷr Gruffydd
  14. 'Dysgl wastad'

    Yn ôl y dirprwy weinidog "er mwyn cadw'r ddysgl yn wastad rhwng gwireddu ein hamcanion a'n gofynion gweithredol ar y naill law, a mynd i'r afael ag ymateb rhanddeiliaid ar y llall, rhaid mynd am y gyfradd safonol erbyn 2019 a'r taliad ailddosbarthu ar 54 hectar cyntaf pob hawliad."

  15. 'Ansicrwydd'

    Y Ceidwadwr Russell George yn dweud fod cyhoeddiad heddiw "efallai yn rhoi terfyn ar yr ansicrwydd sydd wedi poeni ffermwyr Cymru am fisoedd lawer, ond mae'r datganiad yn gadael llawer o gwestiynau heb eu hateb."

    Meddai, "Mae angen esboniad o ba sectorau'r diwydiant sy'n debygol o golli ac mae'n rhaid i Lafur egluro pryd y bydd ymarfer mapio manwl yn cael ei gynnal."

    Russell George
  16. 2019

    Mae'r dirprwy weinidog yn cadarnhau taliadau cyfradd safonol erbyn 2019 , ynghyd â 'thaliadau ailddosbarthu.'

    Rebecca Evans
  17. PAC

    Mae'r aelodau yn symud ymlaen at ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, Rebecca Evans ar Gynllun Taliad Sylfaenol y Polisi Amaethyddol Cyffredin.

  18. Themâu

    Bydd y themâu dros y blynyddoedd nesaf yn "hyrwyddo cryfderau mwyaf Cymru gyda digwyddiadau, gweithgareddau ac atyniadau a fydd yn canolbwyntio ar y gorau sydd gan Gymru i'w gynnig i dwristiaid".

    Yn dilyn Blwyddyn Antur 2016 bydd Blwyddyn Chwedloniaeth yn 2017 a Blwyddyn y Môr yn 2018.

  19. Cyrchfan twristiaeth

    Mae llywodraeth Cymru wedi cychwyn ar ymgyrch i hyrwyddo Cymru fel "prif gyrchfan twristiaeth antur y byd."

    Ken Skates
    Image caption: Ken Skates
  20. Blwyddyn Antur 2016

    Mae'r aelodau yn symud ymlaen at ddatganiad gan Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth ar Blwyddyn Antur 2016.

    Zip world
    Image caption: Y gohebydd Cemlyn Davies yn Zip world
  21. Diwydiant mordeithio

    Rhun ap Iorwerth yn sôn am bwysigrwydd y diwydiant mordeithio a'i botensial ar gyfer economi Cymru.

    Llong fordaith
  22. Porthladd Lerpwl

    Ms Hart yn addo codi pryderon gyda llywodraeth y DU am "y driniaeth ffafriol" o borthladd Lerpwl o'i gymharu â phorthladdoedd gogledd Cymru.

    Edwina Hart
    Image caption: Edwina Hart
  23. Symud ymlaen

    Mae'r aelodau wedi symud ymlaen at ddatganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Edwina Hart ar y diweddaraf ar Borthladdoedd.

  24. Mehefin 2017

    Bydd Superfast Cymru bellach yn rhedeg tan fis Mehefin 2017, er mwyn cynnwys adeiladau ychwanegol sydd wedi eu hadnabod ers dechrau'r prosiect, medd y Dirprwy Weinidog.

    Superfast Cymru
  25. 'Ffigur anobeithiol o isel'

    Rhun ap Iorwerth yn dweud bod "ffigur anobeithiol o isel" o ddefnydd band eang cyflym iawn yng Nghymru.

    Rhun ap Iorwerth
    Image caption: Rhun ap Iorwerth
  26. 42,000 yn fwy o safleoedd

    Mae'r dirprwy weinidog yn dweud bod mwy o bobl yn mynd i dderbyn band eang cyflym iawn yng Nghymru wrth i'r rhaglen sy'n dod ag ef i ardaloedd na fyddai fel arall yn ei dderbyn gael ei ehangu, gyda dros 42,000 yn fwy o safleoedd yn elwa.

    Julie James
    Image caption: Julie James
  27. Band eang cyflym iawn

    Mae'r aelodau wedi symud ymlaen at ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Julie James ar Fand Eang Cyflym Iawn.

  28. Byrgleriaeth

    Eluned Parrott o'r Democratiaid Rhyddfrydol yn siarad am atal troseddau yn enwedig byrgleriaethau, ac yn dweud y dylai cymunedau yn gyffredinol gael eu hystyried yn agored i niwed, nid dim ond yr henoed.

    Mae hi'n dweud ei bod hi'n poeni am gynnydd mewn byrgleriaethau drwy dynnu sylw.

    Mae'r Prif Weinidog yn dweud ei fod yn fater i'r heddlu a chomisiynwyr trosedd.

    Eluned Parrott
    Image caption: Eluned Parrott
  29. Galwyr digroeso

    Lindsay Whittle o Blaid Cymru yn gofyn am fynd i'r afael â sgamiau, ac mae am i bwerau gael eu datganoli i Gymru gan fod "Llundain wedi methu " dros barthau galwyr digroeso.

    Y prif weinidog yn dweud y gall llywodraeth y DU wneud mwy i fynd i'r afael â galwadau digroeso dros y ffôn.

    Lindsay Whittle
    Image caption: Lindsay Whittle
  30. Cwynion

    Darren Millar yn dweud nad yw cwynion y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn cael sylw digonol a bod angen dysgu gwersi yn well, gan nodi Tawel Fan fel enghraifft.

    Y prif weinidog yn cyfaddef bod problemau difrifol wrth ddelio â chwynion yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ond mae'n dweud bod gwaith yn cael ei wneud i'w wella.

    Darren Millar
    Image caption: Darren Millar
  31. Ysbyty Tywysoges Cymru

    Bethan Jenkins yn honni fod morâl yn dal i fod yn isel yn Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr wedi adroddiad Ymddiried mewn Gofal - dywed nad ydy archwiliadau ar hap yn ddigonol.

    Mae Mr Jones yn dweud bod dilyniant i adolygiad Andrews yn cael ei gyhoeddi yn yr hydref.

    Bethan Jenkins
    Image caption: Bethan Jenkins
  32. Tlodi plant

    Y Ceidwadwr Mark Isherwood yn gofyn pam fod tlodi plant yn uwch yng Nghymru.

    Y prif weinidog yn dweud nad ydy Mr Isherwood yn amddiffyn polisïau'r llywodraeth Dorïaidd ar dlodi plant.

    Mark Isherwood
    Image caption: Mark Isherwood
  33. Toriadau Lles

    Christine Chapman AC yn dweud fod comisiynwyr plant am i lywodraeth y DU feddwl eto am 'doriadau lles milain' ac yn gofyn sut y gall llywodraeth Cymru helpu.

    Mae Mr Jones yn dweud fod rhaglenni fel Dechrau'n Deg yn helpu teuluoedd yng Nghymru a bod David Cameron yn gobeithio y bydd gweithwyr yn talu cyflogau uwch.

    Christine Chapman
    Image caption: Christine Chapman
  34. Trwyddedau teledu

    Carwyn Jones yn dweud nad yw'n deall pam y mae'r BBC yn cymryd 'baich' o £600m am drwyddedau teledu am ddim i bobl dros 75 oed.

    Wrth sôn am S4C, dywed y prif weinidog "mae'n hen bryd nad yw'r iaith Gymraeg yn cael ei weld fel ôl-ystyriaeth gan lywodraeth y DU."

  35. S4C

    Arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn gofyn am farn y prif weinidog ar y posibilrwydd o doriadau i S4C. Mae'n dweud ei fod yn annerbyniol.

    Leanne Wood am i'r Cynulliad gael pwerau dros ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus.

    Leanne Wood
    Image caption: Leanne Wood
  36. £50m

    Carwyn Jones yn pwyntio bys at lywodraeth y DU am dorri cyllideb y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru o £50m, ac yn gofyn pam nad yw Andrew RT Davies yn dweud dim am hynny.

  37. Ymchwiliad Keogh

    Mae Mr Davies yn galw eto am ymchwiliad tebyg i Keogh i wasanaeth iechyd Cymru.

    Carwyn Jones yn cyfaddef fod problemau ond yn dweud y byddai ymchwiliad cyhoeddus yn costio miliynau. Dywed fod yr adroddiadau sydd wedi'u cyhoeddi "wedi gwneud eu gwaith."

  38. Ward Gwanwyn

    Arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies yn gofyn am sicrwydd bod Ward Gwanwyn yn Ysbyty Maelor Wrecsam yn ddiogel.

    Y prif weinidog yn dweud na fu unrhyw honiadau o ymosod yno.

    Andrew RT Davies
    Image caption: Andrew RT Davies
  39. Gofal cymdeithasol

    Mae Kirsty Williams yn pwysleisio ei hofnau y bydd awdurdodau lleol yn "dadlwytho " y baich gofal cymdeithasol ar deuluoedd.

  40. Anghenion gofal

    Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams yn mynegi pryder y gallai cynghorau lleol ailasesu anghenion gofal pobl er mwyn torri gwariant.

    Nid yw'r prif weinidog yn disgwyl i unrhyw un golli allan.

    Kirsty Williams
    Image caption: Kirsty Williams
  41. S4C

    Mewn ymateb i gwestiwn gan Bethan Jenkins o Blaid Cymru ar ddyfodol S4C, dywed y prif weinidog y bydd yn ceisio cael cytundeb trawsbleidiol ar ddyfodol darlledu yn yr iaith Gymraeg.

  42. Prynhawn da!

    Bydd y Sesiwn Lawn yn dechrau am 1:30pm gyda chwestiynau i'r prif weinidog.

    Am restr o'r cwestiynau cliciwch yma.

    Bae Caerdydd